Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwobr Arwr Tawel y ´óÏó´«Ã½ 2024 - Rheolau'r Wobr
Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y ´óÏó´«Ã½ 2024 - Rheolau'r Wobr
1. Mae unrhyw un sy'n byw yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) ac sy'n 16 oed neu'n hÅ·n ar 1 Ionawr 2024 yn gymwys i gael ei enwebu, ac eithrio enillwyr blaenorol Gwobrau Arwr Tawel Get Inspired y ´óÏó´«Ã½ neu Wobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y ´óÏó´«Ã½, gweithwyr y ´óÏó´«Ã½ neu Grŵp y ´óÏó´«Ã½ neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r Gwobrau, ynghyd â’u perthnasau agos. Bydd angen caniatâd rhieni ar rai rhwng 16 a 17 oed a gaiff eu henwebu. Gellir gofyn am brawf oedran, hunaniaeth, cymhwyster a chaniatâd (lle bo hynny'n berthnasol).
2. Mae’n rhaid i'r enwebai:
(i) naill ai fod yn unigolyn, dau unigolyn gyda’i gilydd yn ymwneud â’r un gweithgaredd, neu’n grŵp chwaraeon neu weithgaredd sydd wedi’i drefnu’n ffurfiol ac sy'n ymwneud â'r un gweithgaredd;
(ii) helpu amaturiaid i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol neu chwaraeon, neu gymryd rhan mewn gwaith datblygu cymunedol trwy chwaraeon (ac mae’n rhaid i’r gweithgaredd corfforol neu’r chwaraeon fod â chorff llywodraethol cydnabyddedig).
(iii) cynnig cymorth nad yw fel arfer yn rhan o’u swydd nac yn digwydd fel arfer yn eu man gwaith oni bai fod cymorth o’r fath yn mynd y tu hwnt i’w tasgau gwaith cyflogedig, ac os felly bydd angen esboniad;
(iv) helpu’n wirfoddol heb unrhyw wobr ariannol;
(v) bod yn cymryd rhan mewn ymdrech chwaraeon yn bennaf; os codir arian drwy’r ymdrech honno, ni chaniateir i'r enwebai fod â chysylltiad â’r elusen sydd wedi elwa;
(vi) haeddu Gwobr y ´óÏó´«Ã½ ym marn y sawl sy'n enwebu;
(vii) peidio â dwyn anfri ar y ´óÏó´«Ã½ (yn ôl disgresiwn y ´óÏó´«Ã½ yn unig); a
(viii) bod wedi cydsynio i gael ei enwebu neu fod rhieni wedi cydsynio.
3. Gellir cyflwyno enwebiadau:
¶Ù°ù·É²â’r ffurflen ar-lein ar y we. Gall enwebiadau fod ar ffurf ysgrifenedig neu ffeil fideo.
Derbynnir enwebiadau o ddydd Mercher 2 Hydref 2024 ac mae’n rhaid eu derbyn erbyn 23.59 (amser y DU) dydd Mercher 30 Hydref 2024 fan bellaf. Mae cyfyngiadau ar bob ffordd o wneud cais – pe cyflwynir mwy na 2 funud o fideo, dim ond y 2 funud gyntaf fydd yn cael ei asesu (gweler y ffurflen enwebu ar-lein am fformatau ffeil derbyniol). Ar gyfer enwebiadau ysgrifenedig, dim ond y 800 gair cyntaf fydd yn cael ei asesu. Cewch gyflwyno un enwebiad; bydd unrhyw enwebiadau ychwanegol yn cael eu gwahardd.
4. Rhaid i bob enwebiad gael ei gyflwyno ar ffurflen swyddogol ar-lein y ´óÏó´«Ã½, sydd ar gael drwy bbc.co.uk/unsunghero. Does dim modd cynnwys mwy na dau berson mewn enwebiad. Os enwebir grŵp o dri neu fwy, bydd yr enwebiad hwnnw’n cael ei ddiystyru. Dylai pobl sy'n enwebu ddatgan unrhyw berthynas broffesiynol neu bersonol gyda'r unigolyn neu'r unigolion a enwebir.
5. Bydd y ´óÏó´«Ã½ yn penodi panel a fydd yn dewis enillydd ar gyfer pob un o’r 15 o wledydd a rhanbarthau’r ´óÏó´«Ã½. Yna, bydd yr enillwyr rhanbarthol hyn yn cael eu cyflwyno i’r beirniaid terfynol a fydd yn pennu’r enillydd cyffredinol. Dyma’r meini prawf ar gyfer llunio’r rhestr fer:
(i) Y dylanwad mae’r enwebai wedi’i gael ar unigolion a/neu ei gymuned leol;
(ii) Y dylanwad mae’r enwebai wedi’i gael ar gymunedau ar lefel ranbarthol/genedlaethol y tu hwnt i’w gymuned leol;
(iii) Cyfraniad yr enwebai ar lawr gwlad at ei chwaraeon neu weithgaredd corfforol;
(iv) Yr aberth neu’r ymrwymiad personol; a
(v) Cyfraniad yr enwebai at bobl sydd ddim yn ymwneud â’i chwaraeon neu weithgaredd corfforol.
Bydd gweithredoedd cymwys o ran y meini prawf uchod yn cael eu hystyried yn bennaf ar sail y deuddeg mis blaenorol. Bydd gweithgareddau codi arian yn gymwys i’w hystyried yn y wobr ond nid yw codi arian ei hun yn faen prawf ac ni fydd yn cael credyd ychwanegol wrth lunio rhestr fer o enwebiadau neu wrth ddethol yr enillydd.
6. Gall y tîm sy’n gyfrifol am wobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y ´óÏó´«Ã½ gynnal archwiliadau ar y cyfryngau cymdeithasol o’r rhai a enwebwyd ar gyfer y wobr. Mae enwebeion yn gwarantu nad ydynt wedi gweithredu nac wedi peidio â gweithredu mewn ffordd a fydd yn dwyn anfri ar y ´óÏó´«Ã½. Os yw’n credu bod hynny’n briodol, efallai y bydd y ´óÏó´«Ã½ yn mynnu bod yr enwebeion sydd ar y rhestr fer yn cael archwiliadau DBS. Bydd y ´óÏó´«Ã½ a’r enwebai yn cytuno ar fanylion yr archwiliadau hyn os bydd angen. Bydd yr wybodaeth a ganfyddir neu a allai fod wedi ei datgelu gan yr enwebeion eu hunain yn llywio'r penderfyniad o ran dewis y rhestr fer. Ni fydd enwebai yn cael ei wahardd yn awtomatig, ond mae’r penderfyniad yn ôl disgresiwn y ´óÏó´«Ã½ yn unig. Caiff gwybodaeth ei rhannu â chynghorydd polisi golygyddol y ´óÏó´«Ã½ am wobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y ´óÏó´«Ã½ a bydd yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac, fel pob data personol, yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd y ´óÏó´«Ã½.
7. Yna, bydd panel o feirniaid cenedlaethol yn cwrdd i ddewis enillydd cyffredinol yn seiliedig ar y meini prawf a nodwyd uchod yn adran pump ac unrhyw ddogfennau ategol am bob un ohonynt. Bydd y beirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr o'r ´óÏó´«Ã½, ffigurau blaenllaw ym myd chwaraeon, cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddoli chwaraeon ac un o enillwyr blaenorol Arwr Tawel y ´óÏó´«Ã½, yn dibynnu ar bwy sydd ar gael. Bydd gwiriwr annibynnol yn goruchwylio’r broses feirniadu.
8. Cyhoeddir enw’r enillydd cyffredinol yn fyw ar raglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2024 ar ´óÏó´«Ã½ One, a bydd yr enillwyr rhanbarthol ac un gwestai yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol. Bydd y ´óÏó´«Ã½ yn talu costau teithio rhesymol ar gyfer pob enillydd ac un gwestai, a chytunir ar dreuliau o’r fath gyda’r ´óÏó´«Ã½ cyn archebu. Bydd y seremonïau gwobrwyo yn cael eu recordio a bydd y sain a’r fideo yn cael eu golygu a’u defnyddio i’w darlledu ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
9. Mae penderfyniad y beirniaid ynghylch yr enillydd yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gwobrau.
10. Bydd yr enillydd yn derbyn tlws cenedlaethol Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y ´óÏó´«Ã½ 2024. Rhoddir y tlws er mwynhad personol pob enillydd yn unig, nid oes modd cael arian parod yn ei le ac ni ellir gwerthu na throsglwyddo’r wobr mewn unrhyw amgylchiadau. Ni all yr enillydd gopïo, atgynhyrchu na dosbarthu’r tlws na chopïau ohono. Ni all yr enillydd ddefnyddio nac atgynhyrchu unrhyw enwau, brandio na logos ar y rhaglen neu sy’n gysylltiedig â’r tlws mewn unrhyw ffordd. Ni fydd yr enillydd yn gwneud unrhyw beth gyda’r tlws a allai ddwyn anfri ar y ´óÏó´«Ã½. Ni chaniateir gwneud unrhyw elw masnachol drwy ddefnyddio neu gyfeirio at frand y ´óÏó´«Ã½, y wobr ei hun nac unrhyw elfen arall o’r broses wobrwyo hon.
11. Mae'n rhaid i bob enillydd gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd ar ôl y gwobrwyo os oes angen.
12. Mae’r ´óÏó´«Ã½ yn cadw’r hawl i wneud y canlynol:
(i) amrywio’r amseroedd agor a chau ar gyfer cyflwyno enwebiadau ac i amrywio dyddiad cyhoeddi’r gwobrau;
(ii) gwahardd unrhyw enwebai sy’n torri’r rheolau neu sydd wedi gweithredu’n dwyllodrus mewn unrhyw ffordd; a/neu
(iii) canslo neu amrywio’r gwobrau neu unrhyw un o’r prosesau neu’r meini prawf dethol, ar unrhyw adeg, os yw’n credu bod hynny’n angenrheidiol neu os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’w reolaeth.
13. Ni all y ´óÏó´«Ã½, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol nac unrhyw broblem arall a allai olygu nad yw enwebiad yn cael ei gofrestru'n briodol.
14. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y ´óÏó´«Ã½ yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath yr oedd modd eu rhagweld, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled ariannol, niwed i enw da neu siom.
15. Tybir y bydd y sawl sy'n enwebu a'r enwebeion eu hunain wedi derbyn y rheolau hyn ac wedi cytuno i ymrwymo iddynt.
16. Hyrwyddwr y gwobrau yw’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (´óÏó´«Ã½) ac mae’r rheolau hyn yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.
17. I’r graddau y mae’n berthnasol, mae’r Gwobrau hyn yn cydymffurfio â Chod Ymddygiad y ´óÏó´«Ã½ ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisiau. Mae Telerau Defnyddio y ´óÏó´«Ã½ hefyd yn berthnasol i’r wobr hon.