Dicter am enw Saesneg ar stad o dai newydd ym Maldwyn

Disgrifiad o'r llun, Mae Sian Vaughan Jones yn dweud fod yr "arwydd anferth, hyll 'ma wedi fy nghythruddo i鈥檔 llwyr"

Mae trigolion Pontrobert ym Maldwyn wedi cael eu cythruddo ac yn "berwi鈥 o weld arwydd ag enw uniaith Saesneg i stad o dai newydd yn y pentref - Maple Walk.

Mae cwmni datblygu Primesave o鈥檙 Amwythig wedi cael caniat芒d i adeiladu naw byngalo ar gyrion y pentref ac yn eu gwerthu drwy gwmni Roger Parry.

Mae Sian Vaughan Jones, sy鈥檔 byw鈥檔 lleol, yn dweud bod yr "hysbyseb yn fy nghorddi a 'neud fi deimlo鈥檔 s芒l".

鈥淔e welais i鈥檙 arwydd anferth, hyll 'ma ac mae wedi fy nghythruddo i鈥檔 llwyr. Mae鈥檙 enw yn erchyll!"

Dywed Cyngor Sir Powys mai enw marchnata gan y datblygwr dros dro yw Maple Walk, ac nad ydyn nhw'n rhan o'r enwi ar y dechrau.

Eu polisi nhw yw hybu enwau Cymraeg yn unol 芒 hanes a threftadaeth yr ardal, medd llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Sian Vaughan Jones yn dweud bod yr "hysbyseb yn fy nghorddi ac yn 鈥榥eud fi deimlo鈥檔 s芒l"

Dywed Sian Vaughan Jones bod sawl un yn cwyno - yn eu plith Cymry Cymraeg a di-Gymraeg.

鈥淒wi 鈥榙i siarad efo dau berson y bore 'ma, oedd digwydd bod ddim yn siarad Cymraeg ac maen nhw hyd yn oed yn meddwl bod yr enw yn un ych-a-fi. Dwi鈥檔 berwi am y peth!

鈥淣i newydd gael Eisteddfod yr Urdd, lai na dwy filltir o鈥檙 safle yma 鈥 mi fyse pobl fyddai鈥檔 byw yma wedi clywed bob dim o faes y Steddfod, a r诺an ni鈥檔 cael ein bychanu gan gam fel hyn.

鈥淢ae 'na elfennau positif, llewyrchus wedi dod o鈥檙 Eisteddfod. Mae鈥檙 ysgol Gymraeg yn y pentref yn ffynnu a thyfu drwy鈥檙 amser, mae pobl eisiau addysg Gymraeg, mae Ysgol Uwchradd Caereinion newydd gael ei chlustnodi鈥檔 ysgol cyfrwng Cymraeg, ac wedyn ni鈥檔 cael hyn!

鈥淪'dim s么n am yr iaith Gymraeg a鈥檙 ysgol ar wefan y cwmni yn eu disgrifiad o鈥檙 ardal.

鈥淢ae鈥檙 hysbyseb yn fy nghorddi ac yn 鈥榥eud fi deimlo鈥檔 s芒l.

鈥淒wi mor siomedig bod hyn yn digwydd o hyd, ein bo鈥 ni dal yn gorfod brwydro dros bethe fel hyn yn 2024. Mae鈥檔 ofnadwy.鈥

Disgrifiad o'r llun, Roedd 'na gyffro mawr ym Mhontrobert o gael Eisteddfod yr Urdd ar stepen drws, lai na ddwy filltir i ffwrdd ym Mathrafal, Meifod

Un arall sy鈥檔 dweud ei bod yn 鈥渢eimlo鈥檔 drist ac yn flin鈥 yw Mair White.

"Fel un sy鈥檔 byw rhyw filltir allan o鈥檙 pentre, fe ges i sioc o weld enw鈥檙 lle, Maple Walk! Dwi鈥檔 meddwl ei fod yn warthus rhoi enw felly mewn pentre Cymraeg," meddai.

"Ar 么l yr holl gyffro a'r paratoi at y Steddfod ar ein stepen drws ac ymfalch茂o yn ein Cymreictod, roedd gweld yr arwydd uniaith Saesneg yma a'r enw chwithig 'Maple Walk' fel ergyd yn fy nghalon, a hynny cyn i'r holl addurniadau hardd o Mr Urdd a'r baneri Cymraeg gael eu tynnu i lawr.

鈥淢ae cymaint o hanes ym Mhontrobert gyda chapel John Hughes a鈥檙 emynyddes Ann Griffiths, dydy enw fel hyn ddim yn cyd-fynd gyda Chymreigrwydd y pentref.

"Mae mor bwysig ein bod yn cadw traddodiad a naws Gymraeg y pentref."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mair White gyda chae 'Maple Walk' yr un pellaf y tu 么l iddi

Mae Mair White hefyd yn poeni pwy fydd yn prynu鈥檙 byngalos yma, ac yn dweud bod mwy o angen am dai fforddiadwy i deuluoedd ifanc, lleol.

鈥淒ydy鈥檙 byngalos 'ma ddim yn mynd i ddenu pobl ifanc yn anffodus. Pobl wedi ymddeol fydd yn dod.鈥

Mae鈥檙 byngalos yn amrywio mewn pris o 拢295,000 i 拢380,000.

Enw marchnata dros dro

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys fod yr arwydd yn un "marchnata y mae'r datblygwr wedi ei osod fel rhan o'r datblygiad".

"O ran enwi strydoedd newydd, polisi y cyngor yw hybu enw Cymraeg cyn enw dwyieithog a rhoi enw sy'n gydnaws 芒 hanes a threftadaeth leol yr ardal.

"Mae ymgynghoriadau gyda chyngor cymuned/tre, y Post Brenhinol a th卯m cyfieithu y cyngor yn rhan o roi enw ar bob datblygiad sy'n cynnwys tri neu fwy o gartrefi.

"Ar ddatblygiadau mwy, yn aml mae datblygwyr yn defnyddio enw marchnata tra bod y tai yn cael eu hadeiladu a dyw'r cyngor ddim yn rhan o hynny.

"Mae'r cyngor yn annog datblygwyr i enwi a rhifo tai yn ystod camau cyntaf y gwaith adeiladu er mwyn atal dryswch rhwng yr enw marchnata a'r enw swyddogol."

Disgrifiad o'r llun, Bydd y byngalos yn cael eu hadeiladu yn y cae yma ym Mhontrobert

Mae Bryn Davies, sy鈥檔 gynghorydd Cyngor Powys ar gyfer ward gyfagos, yn dweud ei fod wedi derbyn nifer o gwynion am yr hysbyseb.

鈥淢ae hyn yn mynd yn gwbl groes i bolisi Cyngor Powys, bod yr enw a鈥檙 poster yn uniaith Saesneg. Mae鈥檔 gorfod bod yn Gymraeg neu鈥檔 ddwyieithog.

鈥淔e ddylai鈥檙 enw fod wedi mynd trwy鈥檙 cyngor cymuned lleol hefyd, dwi ddim yn si诺r a ydy o.鈥

Dim ymgynghoriad 芒'r gymuned

Mae鈥檙 cyngor cymuned lleol yn dweud nad oedden nhw鈥檔 ymwybodol o鈥檙 enw ac na fu ymgynghori gyda nhw.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi derbyn nifer o gwynion, ac fe fydd y cyngor cymuned yn trafod y mater yn eu pwyllgor yr wythnos nesaf.

Yn y cyfamser, mae eu cadeirydd Cath Williams wedi ysgrifennu at gwmni Primesave i ddweud ei bod hi, ar lefel bersonol, yn drist iawn o weld yr enw Saesneg.

Mae'n dweud iddi gael ymateb gan gyfarwyddwr Primesave yn dweud: "Ar hyn o bryd dim ond yr enw a ddefnyddiwn ar gyfer marchnata yw hwn, mae'n si诺r mai Cymraeg fydd y cyfeiriad post mewn gwirionedd."

Ychwanegodd Ms Williams: "Mae hefyd yn gofyn am awgymiadau o enwau i鈥檞 ystyried, sydd wedi codi fy nghalon ychydig."

Cyfrifoldeb y datblygwr

Dywedodd cwmni Roger Parry, sy'n gyfrifol am werthu'r byngalos, nad oedden nhw'n rhan o enwi'r stad, ac mai cyfrifoldeb y datblygwr fyddai hynny.

Ychwanegodd mai'r datblygwyr fyddai hefyd yn gyfrifol am yr arwydd, ac nad oedden nhw'n ymwybodol ohono tan i'r 大象传媒 gysylltu 芒 nhw.

Mae 大象传媒 Cymru wedi gwneud cais am sylw gan gwmni Primesave.