Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y f么r-forwyn o Brestatyn a鈥檌 brwydr dros yr amgylchedd
Os ewch chi i鈥檙 traeth ym Mhrestatyn rhywbryd, mae鈥檔 bosib iawn y gwelwch chi f么r-forwyn...
Ers saith mlynedd bellach, mae Tyler Turner yn mwynhau gwisgo cynffon a nofio fel m么r-forwyn, a dros y blynyddoedd, mae hi wedi sylweddoli fod hyn yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth yngl欧n 芒 chadwraeth forol a鈥檙 amgylchedd o鈥檌 chwmpas.
Ail-fyw ffantasi plentyndod
Mae gan Tyler swydd 鈥榙dynol鈥 wrth gwrs, eglura, ond mae hi鈥檔 treulio pob munud o鈥檌 hamser sb芒r yn gwneud dau beth sy鈥檔 agos iawn at ei chalon; treulio amser fel m么r-forwyn, a gweithio gyda鈥檌 chymuned leol i ddiogelu鈥檙 amgylchedd.
Eisiau ail-fyw ffantasi ei phlentyndod o fod yn f么r-forwyn oedd hi yn wreiddiol, eglurodd Tyler, ar 么l 鈥榗ael digon ar fod yn oedolyn鈥.
鈥淥鈥檔 i鈥檔 arfer rheoli bwyty, ac mae鈥檔 ddiwydiant anodd iawn, ac roedd fy iechyd meddwl i鈥檔 dioddef.
鈥淥鈥檔 i鈥檔 gweithio mewn pwll nofio, ac un diwrnod ges i fflach o ysbrydoliaeth. O鈥檔 i wastad eisiau bod yn f么r-forwyn pan o鈥檔 i鈥檔 ifanc鈥 tybed oedd hynny鈥檔 bosib?
"O edrych ar y we, gwelais ei fod yn beth enfawr yn America, felly 鈥榥es i archebu cynffon ar-lein a chael caniat芒d i ymarfer yn y pwll cyn ac ar 么l gwaith.
鈥淵n fuan wedyn, ges i wahoddiad i gymryd rhan mewn gala nofio, ac mi 鈥檔es i godi arian i elusen, gyda fi fel m么r-forwyn ar stondin. Dwi ddim wedi edrych n么l.鈥
Tyfu鈥檙 haid
Bywyd unig iawn yw un m么r-forwyn, felly mae hi wedi tyfu ei 鈥榟aid鈥 o f么r-forynion lleol, meddai, drwy annog eraill i ymuno 芒 hi.
鈥淏yddai ambell i ddynes yn dod aton ni yn dweud 鈥榮wn i wrth fy modd yn gallu gwneud hynny... ond...鈥 鈥 roedd yna wastad reswm pam eu bod nhw鈥檔 meddwl bod nhw methu.
鈥淲rth i ti fynd yn h欧n, ti鈥檔 gallu colli鈥檙 sbarc 鈥榥a tuag at fywyd. Pan ti鈥檔 gweld pethau fel plentyn, mae popeth yn newydd a gwahanol, ac fel oedolyn, mae popeth wedi ei bylu braidd.
鈥淒wi鈥檔 meddwl y gall unrhyw un fod yn f么r-forwyn, dim ots pwy wyt ti neu sut wyt ti鈥檔 edrych. Ti鈥檔 teimlo鈥檔 anhygoel.鈥
Ac wrth gwrs, mae hi wrth ei bodd yn gweld ymateb pobl sy鈥檔 ei gweld yn ei gwisg a鈥檌 chynffon.
鈥淒wi wrth fy modd 芒鈥檙 w锚n 鈥榥a ti鈥檔 ei gael gan blant 鈥 ac oedolion 鈥 pan maen nhw鈥檔 dy weld di. Mae鈥檔 rhoi eiliad hudolus iddyn nhw; does gan bawb ddim cartref hapus, felly mae鈥檔 rhoi rhywbeth hapus iddyn nhw feddwl amdano. Mae o werth o ar gyfer hynny.鈥
Diogelwch
Mae gwneud digon o ymarfer a gwybod sut i nofio fel m么r-forwyn yn ddiogel yn hanfodol, meddai, felly mae hi鈥檔 hyfforddi oedolion eraill ynghyd 芒 gweithio gyda phlant mewn ysgolion nofio. Gall unrhyw un lewygu yn y d诺r os ydyn nhw鈥檔 dal eu gwynt rhy hir, rhybuddiai:
鈥淓lla mod i鈥檔 gwneud iddo fo edrych yn hawdd, ond dwi wedi bod yn ei 鈥檔eud o ers blynyddoedd, felly mae o fel ail natur.
鈥淧an o鈥檔 i鈥檔 hyfforddi ddwy awr y dydd, cyn i mi gael Covid, o鈥檔 i鈥檔 gallu dal fy ngwynt, wrth aros yn llonydd, am dri munud yn y d诺r, neu nofio 38 metr ar un anadl.
"Pan ti鈥檔 gwbl llonydd, ti mewn cyflwr myfyriol. A dwi鈥檔 meddwl mai dyna pam ei fod mor dda i dy iechyd meddwl, achos mae o鈥檔 dysgu ymarferion anadlu ac ymlacio i ti.
"Mae gen i feddwl prysur iawn o hyd, felly mae hi鈥檔 braf i fynd i mewn i鈥檙 d诺r, achos unwaith ti yna, ti ddim yn meddwl am ddim byd arall na bod yn y foment.鈥
Codi arian a chodi llais
Ond nid rhywbeth iddi hi ei hun yn unig yw hyn i Tyler; mae hi鈥檔 defnyddio ei gwaith fel m么r-forwyn i godi arian i elusennau yn ogystal ag addysgu鈥檙 gymuned am bwysigrwydd diogelu'r amgylchedd.
鈥淒wi鈥檔 gwirfoddoli i ymweld ag ysgolion i addysgu plant am gadwraeth forol a gwarchod yr amgylchedd, a 鈥榙an ni鈥檔 mynd i lanhau鈥檙 traethau fel fod plant yn gallu ein gweld ni.
鈥淢ae jest yn ffordd dda i ddangos i bobl fod yna rywbeth gwerth poeni amdano fo, yn arbennig i blant. Gallwch chi roi pamffled i rywun am sut i fod yn eco-gyfeillgar, ond falle bod nhw ddim am wir boeni tan iddyn nhw ei weld o. Os welan nhw f么r-forwyn yn dweud 鈥榙wi angen dy helpu鈥, mae鈥檔 dod 芒鈥檙 peth yn real.
鈥淣hw ydi鈥檙 genhedlaeth nesa, mae鈥檔 rhaid i ni adael rhywbeth ar 么l iddyn nhw o鈥檙 blaned 鈥榤a.鈥
Miss Ocean World
Mae ei gwaith cymunedol yn ymwneud 芒鈥檙 amgylchedd yn rhywbeth sydd yn agos iawn at galon Tyler, ac mae hi hyd yn oed wedi ennill lle mewn cystadleuaeth o鈥檌 herwydd.
Eleni, bydd hi'n cynrychioli Sir Ddinbych yng nghystadleuaeth Miss Ocean World UK, sydd yn basiant i unigolion sydd yn angerddol am fod yn eco-gyfeillgar, cadwraeth anifeiliaid ac addysgu eraill.
Dyma gystadleuaeth sydd ar yr wyneb yn debyg i basiantau harddwch eraill, eglurai Tyler, gan ei bod yn cynnwys elfennau cyfarwydd fel y rownd gwisg nofio. Ond yn Miss Ocean World UK, rhaid i鈥檙 cystadleuwyr sicrhau fod eu holl wisgoedd wedi eu hailgylchu neu eu creu o ddefnydd gwastraff; does yna ddim lle i 鈥榝fasiwn cyflym鈥 yn y pasiant yma.
鈥淢ae o鈥檔 ffitio fy ethos i鈥檙 dim," meddai Tyler. 鈥淢ae gen i ficini o hen ddefnydd wast a dwi wedi creu gwisg yn gyfan gwbl allan o ddarnau o sbwriel sydd wedi eu casglu gan y gymuned leol.
鈥淒wi鈥檔 angerddol am gymunedau Cymreig a sut 鈥榙a ni鈥檔 dod at ein gilydd; mae 鈥榥a lawer o grwpiau casglu sbwriel yma ym Mhrestatyn, a 鈥檇an ni wastad mewn cysylltiad yn trio meddwl sut allwn ni helpu鈥檙 amgylchedd.
鈥淎r 么l y gystadleuaeth, dwi鈥檔 gobeithio galla i arddangos y ffrog fel fydd y gymuned yn gallu gweld beth sydd wedi ei greu allan o鈥檙 sbwriel sydd wedi ei gasglu.鈥
'Naeth o fy achub i'
Mae Tyler yn cael ambell i sylw negyddol am wisgo fel m么r-forwyn ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai, fel negeseuon yn dweud wrthi am 鈥榙yfu i fyny鈥. Ond fel yr eglura, dydyn nhw ddim yn effeithio arni, oherwydd ei bod yn ei wneud er ei mwyn hi, a neb arall:
鈥溾橬aeth m么r-forynio achub fy mywyd. Roedd fy iechyd meddwl mor isel, dwi wir yn meddwl os na fyddwn i wedi darganfod hyn, 鈥檚wn i ddim yna heddiw. Mae wedi rhoi rhywbeth i mi fyw er ei fwyn.
鈥溾橬aeth o fy achub i, a dwi eisiau ei ddefnyddio i helpu pobl eraill.鈥