Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ynys B欧r: Cyhoeddi adolygiad o honiadau cam-drin plant
Mae abaty yng Nghymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol i honiadau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol.
Ers blynyddoedd mae Kevin O'Connell wedi ymgyrchu am ymchwiliad i honiadau ganddo ef ac eraill sy'n dweud eu bod wedi eu cam-drin ar Ynys B欧r, ar arfordir Sir Benfro.
Mae'r Tad Jan Rossey, arweinydd newydd yr abaty Sistersaidd, bellach wedi cyhoeddi ei fod wedi comisiynu Jan Pickles OBE i arwain "adolygiad trylwyr", ac mae hefyd wedi penodi cyn-Ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru, Maria Battle, fel arweinydd diogelu newydd.
Dywedodd y Tad Jan: 鈥淵n yr un modd 芒 llawer o sefydliadau eraill, mae Ynys B欧r, yn y gorffennol, wedi derbyn honiadau yn ymwneud ag aelodau o鈥檙 gymuned o fynachod am eu hymddygiad tuag at blant.鈥
鈥淩ydym yn parhau i fod yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd diogel gyda gweithdrefnau effeithiol ar gyfer diogelu pawb sy鈥檔 ymweld, yn byw neu鈥檔 gweithio ar yr ynys.鈥
Nid oes amserlen ar gyfer yr adolygiad, ond fe fydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi.
Wrth ymateb i鈥檙 newyddion, dywedodd Mr O鈥機onnell wrth Newyddion S4C fod y cyhoeddiad yn 鈥渄dechrau鈥.
Dywed mai dim ond oherwydd ei flynyddoedd o ymgyrchu a gwaith Ymgyrch Goroeswyr Ynys B欧r, a sefydlodd ef, mae hyn yn digwydd.
Honnodd dwsinau o bobl iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol gan fynach oedd yn byw ar yr ynys.
Bu farw鈥檙 Tad Thaddeus Kotik yn 1992 heb wynebu unrhyw gyhuddiadau troseddol i honiadau iddo gam-drin plant rhwng 1977 a 1982.
Cafodd chwech o鈥檌 ddioddefwyr honedig eu digolledu gan yr abaty mewn setliad y tu allan i鈥檙 llys ym mis Mawrth 2017, ac mae nifer o rai eraill wedi cyflwyno honiadau ers hynny.
Dywedodd yr arweinydd diogelu newydd, Maria Battle, bod yr adolygiad "yn y broses o aros am ganlyniadau".
"Byddwn yn argymell bod y canfyddiadau鈥檔 cael eu gwneud yn gyhoeddus.
鈥淕obaith yr arweinydd newydd yw clywed gan unrhyw un sydd wedi鈥檌 effeithio.
鈥淢ae hyn yn rhan o鈥檙 broses iach谩u.鈥