Theatrau cymunedol yn dioddef yn sgil sefydliadau mawr
- Cyhoeddwyd
Mae theatrau cymunedol wedi dioddef yn sgil y cynnydd mewn canolfannau celfyddydau a sefydliadau cenedlaethol.
Dyna farn un o gyfarwyddwyr theatr fwyaf profiadol Cymru sy鈥檔 dweud bod y pwyslais wedi newid ers datganoli.
Mae Jeremy Turner yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Arad Goch a bydd yn rhoi鈥檙 gorau i鈥檞 swydd fel cyfarwyddwr artistig y cwmni eleni.
Dywed Llywodraeth Cymru fod nifer o brosiectau llawr gwlad yn cael eu hariannu a bod posib i鈥檙 cyhoedd roi eu barn am flaenoriaethau鈥檙 sector i鈥檞 ymgynghoriad.
Canolfannau celfyddydol yn 'tynnu sylw'
Ar raglen Ffion Dafis ar Radio Cymru, fe ddywedodd Jeremy Turner nad ydi theatr gymunedol yn bodoli fel ag yr oedd yn yr 1970au a鈥檙 1980au.
Mae ganddo brofiad o weithio gyda Theatr Arad Goch ers 35 mlynedd a chyn hynny bu'n gweithio am gyfnod gyda Theatr Crwban yn gwneud gwaith mewn addysg ac yn y gymuned yn Nyfed.
Dywedodd: 鈥淏ydde ni鈥檔 gallu teithio a pherfformio cymunedol yn Nyfed yn unig am ryw chwech neu saith wythnos.
鈥So bydde ni鈥檔 mynd i Dalybont ac o bosib Bow Street ac Aberystwyth a Llanilar ac Aberaeron a Felin Fach a Talgarreg - i鈥檙 pentrefi.
Aeth ymlaen i ddweud: 鈥淏e鈥 sydd wedi digwydd erbyn hyn yw bod pobl yn brysurach, a鈥檙 ail beth yw bod pobl yn disgwyl i bobl eraill drefnu drostyn nhw a hefyd mae canolfannau celfyddydol - sydd yn wych - ond mae'r rheiny yn tynnu鈥檙 sylw.鈥
Mae dyfodol a chyfeiriad diwylliant yng Nghymru wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar gyda phryderon am effaith toriadau - gan gynnwys cwtogi cyllid Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
'Pethau wedi mynd yn fwy canolog yng Nghaerdydd'
Yn ei gyfweliad dywedodd Mr Turner bod sawl cwmni, fel Bara Caws, yn dal i wneud gwaith da yn y gymuned - ond bod angen mwy er mwyn trafod pynciau sy鈥檔 bwysig i鈥檙 bobl.
Dywed mai 鈥渦n o wendidau datganoli yw bod pethe wedi mynd yn fwy canolog yng Nghaerdydd. Dwi鈥檔 cofio cyfnod pan sefydlwyd y Cynulliad i ddechre, roedd aelodau鈥檙 Cynulliad yn benderfynol bod angen y flagships a鈥檙 cwmn茂au cenedlaethol mawr.
鈥淲eithie mae rhoi cymaint o arian i mewn i sefydliadau mawrion wedi achosi lleihad ar bethe cymunedol achos bod eu costau mor, mor uchel.
"Dwi ddim yn dweud bod dim angen sefydliadau cenedlaethol ond mae angen iddyn nhw sylweddoli beth ddaeth gyntaf a beth all ddod 'n么l hefyd.鈥
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogaeth i'r celfyddydau yng Nghymru, gan gynnwys y theatr, yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru sy'n gweithredu hyd braich o'r llywodraeth.
"Cefnogodd cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru 489 o ddigwyddiadau mewn canolfannau cymunedol ledled Cymru yn 2023, gyda 125 ohonynt yn y categori drama neu theatr.鈥
Ychwanegodd bod posib i unrhyw un fynegi barn i鈥檞 hymgynghoriad Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 holl sector - o sefydliadau cenedlaethol i brosiectau llawr gwlad.
Bydd Jeremy Turner yn siarad ar raglen Ffion Dafis ar 大象传媒 Radio Cymru am 1400 dydd Sul, 9 Mehefin, ac yna ar 大象传媒 Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Mai