大象传媒

Atal toriadau i'r celfyddydau 'o bwys cenedlaethol'

Prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru Dafydd RhysFfynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ydy Dafydd Rhys

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檔 rhaid rhoi stop ar doriadau parhaus i鈥檙 celfyddydau er mwyn trafod yr effaith ar gymunedau a phwysigrwydd diwylliant i Gymru.

Dyna farn prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, sy鈥檔 dweud bod y mater erbyn hyn "o bwys cenedlaethol".

Daw ei sylwadau yn sgil pryderon cynyddol dros y misoedd diwethaf am effaith toriadau ar ddiwylliant Cymru - gan gynnwys cwtogi cyllid Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod diwylliant, celf a chwaraeon yn "bwysig i'n cymdeithas a'n llesiant", ond bod rhaid iddynt wneud penderfyniadau "anhygoel o anodd" ynghylch cyllidebau.

'O bwys cenedlaethol'

Yn 么l Dafydd Rhys, sy鈥檔 brif weithredwr ar Gyngor Celfyddydau Cymru ers hydref 2022, mae鈥檔 rhaid i wleidyddion bwyllo er mwyn deall effaith eu penderfyniadau nhw ar gymunedau ac unigolion ar hyd a lled Cymru.

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a鈥檌 Phobol ar 大象传媒 Radio Cymru dywedodd:

鈥淢ae ishe ni gael y drafodaeth aeddfed yna i ddweud 'ydyn ni wir yn parchu鈥檙 celfyddydau? Ydyn ni wir yn deall beth mae'r celfyddydau yn wneud i gymunedau?'

"Mae 鈥榥a ganolfannau celfyddydau mewn pentrefi neu drefi o gwmpas Cymru ac maen nhw鈥檔 hollbwysig i ystod eang o oedrannau - o blant bach i鈥檙 henoed.

"Maen nhw鈥檔 bwysig, maen nhw鈥檔 fannau cyfarfod - maen nhw鈥檔 cyfrannu gymaint tuag at lles cymunedol.

鈥淒wi jest yn meddwl bod angen cael y drafodaeth yna oherwydd gallwn ni ddim parhau blwyddyn nesa i gael toriad pellach, flwyddyn ar 么l hynny gael toriad pellach.

"Rhywsut mae鈥檔 rhaid tynnu鈥檙 handbrake yna lan a dweud stopiwch ni nawr, gadewch i ni gael y drafodaeth.鈥

Ychwanegodd ei bod yn bwysig hefyd rhoi ystyriaeth lawn i effaith bositif y celfyddydau ar iechyd, addysg a鈥檙 iaith Gymraeg.

'Gostyngiad o 37% ers 2010'

Mae Cyngor y Celfyddydau yn derbyn 拢30m gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol yma meddai Mr Rhys - o鈥檌 gymharu gyda 拢30m yn 2010.

Gydag effaith chwyddiant mae hyn yn doriad o 37% mewn termau real, meddai.

Yn sgil hyn fe benderfynodd y Cyngor Celfyddydau beidio cynnig grantiau i naw cwmni oedd wedi cael eu hariannu鈥檔 flynyddol ganddyn nhw, gan gynnwys National Theatre Wales, Canolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe ac Opera Canolbarth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd un o gynyrchiadau National Theatre Wales yn gadael i'r gynulleidfa dalu'r hyn roedden nhw'n gallu fforddio, ond nid yw'r cwmni'n derbyn grant eleni

Yn ogystal 芒鈥檜 grant gan Lywodraeth Cymru mae鈥檙 cyngor yn derbyn tua 拢18m gan y Loteri Genedlaethol, ac mae 90% o鈥檜 cyllid yn cael ei roi fel grantiau i ariannu cwmn茂au, prosiectau ac unigolion

Dywedodd Mr Rhys ei fod yn gwerthfawrogi鈥檙 pwysau ariannol sy鈥檔 wynebu Llywodraeth Cymru a鈥檙 penderfyniadau anodd sy鈥檔 rhaid eu gwneud.

Ond ychwanegodd bod gwleidyddion yn aml yn dweud eu bod nhw鈥檔 gefnogol i鈥檙 celfyddydau, felly bod yn rhaid i鈥檙 gefnogaeth hynny gael ei adlewyrchu mewn penderfyniadau ariannol.

Dywedodd: 鈥淢ae鈥檔 fater, dwi鈥檔 meddwl, o bwys cenedlaethol nawr bod ni鈥檔 ystyried lle ni鈥檔 gosod y celfyddydau fel cenedl oherwydd mae鈥檔 bwysig iawn dwi鈥檔 meddwl fod Llywodraeth Cymru ac Aelodau鈥檙 Senedd yn deall sut maen nhw鈥檔 cytuno ar gyllidebau ac oblygiadau hynny.鈥

'Penderfyniadau anhygoel o anodd'

Mewn ymateb i sylwadau Mr Rhys dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn bwysig i'n cymdeithas a'n llesiant.

"Bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anhygoel o anodd am fod ein cyllideb ar gyfer 2024-25 bellach werth 拢700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod gan Lywodraeth y DU yn 2021.

"Rydym yn ddiolchgar i staff cyrff hyd braich fel Cyngor Celfyddydau Cymru am eu gwaith pwysig a'r manteision mae eu gwaith yn eu cynnig i bobl Cymru.

"Rydym yn ymwybodol eu bod wedi gweithio'n gyflym i liniaru'r effaith ar y sector celfyddydau ehangach."