大象传媒

Eisteddfod: Anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith

Meleri Wyn James
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meleri Wyn James oedd enillydd y gystadleuaeth hon yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher.

Mae hi hefyd yn ddiwrnod cyhoeddi enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ac enillydd Brwydr y Bandiau.

Meleri Wyn James o Aberystwyth oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd 2023.

Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Newid'.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r fedal eleni yn rhoddedig gan Clochdar - papur bro Cwm Cynon

Y beirniaid eleni yw Annes Glyn, John Roberts ac Elen Ifan.

Mae'r fedal yn rhoddedig gan Clochdar - papur bro Cwm Cynon - er cof am Idwal Rees, pennaeth cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberd芒r, a'r wobr ariannol o 拢750 yn rhoddedig gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.

Fe fydd yr orsedd yn bresennol yn y seremoni - yn wahanol i seremoni cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llyfr Glas Nebo, enillydd y gystadleuaeth hon yn 2018, wedi ennyn cryn sylw

Fe gyflwynwyd y fedal hon am y tro cyntaf ym 1937 - a hynny i J O Williams am ei gyfrol 'Tua'r Gorllewin ac Ysgrifau Eraill'.

Mae'r wobr wedi cael ei hatal droeon - y tro diwethaf i hynny ddigwydd oedd yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012.

Mae nifer o gyfrolau'r gystadleuaeth hon wedi cael cryn sylw - yn 2023 fe enillodd cyfieithiad o Lyfr Glas Nebo fedal Yoto Carnegie.

Bydd Seremoni Dysgwr y Flwyddyn am 14:10 yn y Pafiliwn a rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes rhwng 15:30 a 18:00. Y bandiau sydd wedi cyrraedd y brig yw Tesni, Ifan Rhys, Seren a Dim Gwastraff.