大象传媒

Dim hawl saethu p茂od bellach wrth iddyn nhw brinhau

piodenFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n drosedd i saethu p茂od yng Nghymru bellach, a hynny gan eu bod ar restr o adar sydd mewn perygl o ddiflannu.

Ers dechrau mis Ionawr, os yw ffermwr eisiau saethu p茂od, mae angen gofyn am drwydded arbennig.

Ond mae Cynghrair Cefn Gwlad Cymru yn dadlau nad yw'r bioden mor brin 芒 hynny, a bod yr adar yn achosi difrod mawr i gnydau.

Fe fyddai gwneud cais am drwydded yn golygu mwy o lenwi ffurflenni a rhagor o fiwrocratiaeth i ffermwyr yn 么l y mudiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn 2022 fe aeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ati i gynnal adolygiad o'u dulliau i reoli adar gwyllt.

Penderfynwyd caniat谩u nifer o drwyddedau cyffredinol yn flynyddol, cynnal adolygiadau rheolaidd gan ystyried tystiolaeth newydd, ac ymgynghori 芒 grwpiau lle bo newidiadau ar fin cael eu cyflwyno.

Dywedodd Nadia de Longhi, pennaeth rheoleiddio a thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru: 鈥淓r fod pob aderyn gwyllt yn cael ei warchod gan y gyfraith, mae amgylchiadau penodol lle mae CNC yn rhoi trwydded ar gyfer rheoli adar gwyllt er mwyn, er enghraifft, gwarchod iechyd cyhoeddus, atal difrod i gnydau, da byw neu bysgodfeydd neu i ddiogelu adar eraill."

Fe ddangosodd adolygiad 2022, meddai, bod yna ostyngiad dros 25 mlynedd ym mhoblogaethau p茂od yng Nghymru, ac fe gafodd yr aderyn ei osod ar y rhestr oren.

"Fel rhywogaeth o bryder cadwraethol, ni fydd y bioden yn cael ei chynnwys fel rhywogaeth darged ar drwyddedau cyffredinol," meddai.

'Dim digon o dystiolaeth'

Ond yn 么l Rachel Evans, cyfarwyddwr Cynghrair Cefn Gwlad Cymru, does dim digon o dystiolaeth i wneud y newid yma.

"Pan ry鈥檔 ni鈥檔 edrych ar boblogaeth y bioden mae'n rhaid dechrau ystyried o ble mae鈥檙 dystiolaeth wedi dod," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Rachel Evans mai "dim ond o 4% y mae nifer y p茂od wedi gostwng" rhwng 1995 a 2020

"Os ewch chi n么l rhwng y 70au a鈥檙 90au fe wnaeth poblogaeth y bioden ddyblu.

"Mi ddylen ni ystyried hefyd mai dim ond o 4% y mae nifer y p茂od wedi gostwng ledled y Deyrnas Unedig rhwng 1995 a 2020.

"Does dim tystiolaeth wedi ein cyrraedd ni bod cynnwys y bioden ar y drwydded gyffredinol rhif un wedi cyfrannu鈥檔 sylweddol at ostyngiad yn y boblogaeth."

Mae'r Gynghrair Cefn Gwlad yn poeni fod p茂od yn achosi problemau ac yn niweidio cnydau a da byw.

Maen nhw'n dweud hefyd bod defaid yn enwedig yn cael amser caled wrth i b茂od bigo eu croen ac maen nhw'n honni bod modd i'r adar gario clefydau a'u trosglwyddo i fwyd anifeiliaid fferm.

Dywedodd llefarydd ar ran RSPB Cymru: 鈥淢ae RSPB Cymru yn teimlo nad ydi鈥檙 system Drwyddedu Cyffredinol yn addas, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu eu cynnal fel ffordd o reoli adar gwyllt.

"Roedd eisoes angen trwydded benodol gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddifa p茂od er mwyn gwarchod adar gwyllt eraill, ac mae鈥檙 newidiadau diweddar yn ymestyn hynny i ddifrod amaethyddol.

"Ni wnaeth adolygiad gwyddonol Cyfoeth Naturiol Cymru ddarganfod dim tystiolaeth ysgrifenedig bod p茂od yn cael effaith ddifrifol ar dda byw na chnydau, ac rydym ni鈥檔 rhagdybio na ddaeth unrhyw dystiolaeth o ddifrod difrifol i鈥檙 amlwg yn ystod yr ymgynghoriad.

"Os oes gan ffermwyr broblem real ble mae p茂od yn difrodi cnydau a da byw, fe ddylai鈥檙 system drwyddedu allu eu helpu i ddelio hefo hynny.鈥

Ychwanegodd Cyfoeth Naturiol Cymru "y gall unrhyw un sy'n bwriadu defnyddio dulliau marwol i reoli adar mewn sefyllfaoedd sydd ddim yn dod o dan drwydded gyffredinol barhau i wneud cais am drwydded benodol".