Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sêr mewn gêm bêl-droed i gefnogi plant â chanser
- Awdur, Ellie Carter
- Swydd, Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru
Byddai wedi gwneud diwrnod Joseph Yeandle i weld Owain Tudur Jones, Joe Ledley a llu o sêr YouTube a Love Island yn chwarae yn stadiwm ei hoff glwb, mewn gêm a gafodd ei ysbrydoli ganddo fo.
Yn anffodus, bu farw'r cefnogwr pêl-droed o fath prin o ganser yn 2021, ag yntau ond yn dair oed.
Nawr mae ei fam Katy a'i fodryb Emma wedi rhoi eu bywydau i helpu teuluoedd fel nhw.
Yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth ac arian i helpu teuluoedd plant â niwroblastoma, fe wnaethon nhw drefnu gêm all-star rhwng Cymru a Lloegr yn Stadiwm Swansea.com Abertawe ddydd Sadwrn.
"Rwy'n cofio sefyll yn y glaw gyda bwced ar gornel stryd yn ceisio codi arian er mwyn i Joseph gael yr hyn yr oeddem yn gobeithio fyddai'n driniaeth i achub ei fywyd yn America," meddai Katy.
"Roeddwn i'n meddwl ar y pryd 'beth ydw i'n gwneud yma, dylwn i fod yn treulio'r amser gwerthfawr yma gyda fy mab' ond roedden ni mor daer angen codi'r arian, fe wnaethon ni'r hyn roedd yn rhaid i ni."
Roedd y teulu'n gobeithio codi £300,000 fel y gallai Joseph gael triniaeth newydd yn Efrog Newydd - triniaeth nad oedd ar gael ar y GIG - sef y treial brechlyn Deufalent.
Cododd y teulu £200,000 mewn naw mis trwy ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd ar-lein, ond bu farw Joseph ychydig ddyddiau ar ôl y Nadolig yn 2021
Roedd rhieni Joseph, Katy a James, wedi prynu ei wisg ysgol gyntaf, ond ni chafodd fyth ei gwisgo, ac roedd yna anrhegion Nadolig na chafodd byth eu hagor.
Ond maen nhw wedi sianelu eu galar i helpu eraill.
"Allwn i ddim gadael i unrhyw un arall fynd trwy'r hyn a wnaethom ni - y teimlad o anobaith a phwysau i godi arian i geisio achub ei fywyd," meddai Katy, sydd wedi cael ei chydnabod gan wobrau Pride of Britain am ei gwaith.
"Dydw i ddim yn difaru ceisio codi arian, ond byddai'n dda pe na byddai'n rhaid i mi golli'r amser y gallwn fod wedi'i gael gyda Joseph.
"Felly os gallwn ni leddfu'r baich yna ar famau a thadau sy'n mynd trwy uffern, a rhoi amser iddyn nhw dreulio pob eiliad gyda'u plentyn yn hytrach na phoeni am yr arian, yna mae hynny'n etifeddiaeth gadarnhaol i Joseph.
"Mae'n bwysig i ni fel teulu gan ei fod wedi helpu yn ein galar. Mae'n teimlo ein bod ni'n ei gadw'n fyw."
Ffurfiodd Katy a'i chwaer Emma Rees, 43, elusen Joseph's Smile ac maen nhw wedi dosbarthu'r arian a godwyd ar gyfer triniaeth Joseph i blant sâl eraill.
Ar hyn o bryd maen nhw'n cefnogi 16 o deuluoedd.
Fe wnaeth y ddwy fam o Sir Gâr helpu i ddenu rhai o wynebau enwocaf a chwaraewyr gorau'r DU i gymryd rhan mewn gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Abertawe brynhawn Sadwrn.
Bu sêr pêl-droed fel Ashley Williams a Joe Ledley yn ymuno â'r arwyr rygbi Shane Williams a Gareth Thomas, ynghyd â sêr teledu realiti, mewn tîm o Gymry a oedd yn cael ei reoli gan arwr Euro 2016 Cymru, Chris Coleman.
Roedd tîm Lloegr yn cynnwys cyn-chwaraewyr fel Jermain Defoe, dan arweiniad Sol Campbell fel rheolwr.
Cafodd tîm Lloegr ei drefnu gan Sefydliad Bradley Lowery, a gafodd ei ddechrau er cof am fachgen chwech oed a fu hefyd farw o niwroblastoma yn 2017.
Mae'r ddau sefydliad yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ac arian i deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan niwroblastoma - canser sy'n datblygu mewn celloedd nerfol, sy'n effeithio'n bennaf ar blant dan bump oed.
Dywed Katy bod y gêm, er iddi gymryd bron i ddwy flynedd i'w threfnu, wedi ei helpu cymaint, ac mae'n gobeithio y bydd yn helpu teuluoedd eraill hefyd.
"'Dw i wedi treulio misoedd yn eistedd ar fy soffa yn e-bostio asiantau. 'Dw i wedi anfon neges at tua 2,000," meddai.
"Mae'r galar yno bob amser, a rhai misoedd alla i ddim gwneud dim byd - hyd yn oed gadael y tÅ·.
"Mae'r elusen yn ein helpu ni gymaint ag y mae'n helpu'r plant. Mae siarad am Joseph yn fy nghadw'n brysur, a 'dw i'n gallu gweld ei wên bob dydd."