Ateb y Galw: Rhys Edwards
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Rhys Edwards sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
O Ynys Môn y daw Rhys, o ardal Llangefni. Mae'n adnabyddus fel prif leisydd, gitarydd a chyfansoddwr y band poblogaidd Fleur de Lys.
Mae'r band wedi rhyddhau dau albym, O Mi Awn Ni Am Dro (2019) a Fory ar ôl Heddiw (2023). Ymhlith rhai o'u caneuon mwyaf poblogaidd mae Dawnsia a Sbectol.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Un o fy atgofion cyntaf ydi bod allan yng nghanol y caeau yn chwarae ymysg y ceffylau ac yn creu ‘dens’ yn y coed!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Môn – does 'na nunlla gwell nag adra, nag oes?
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Un noson dda sy’n sefyll yn y cof ydi llenwi Tafarn y Rhos mewn gig lansiad albwm hefo Fleur de Lys, rhywbeth nad oedden ni byth yn meddwl fysa’n digwydd i ni pan oeddan ni’n cychwyn allan! Gwireddu breuddwyd oedd cael cymaint yn ein cefnogi yn ein tafarn leol.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol. Cenedlaetholwr. Sensitif.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Un digwyddiad sy’n gwneud i mi wenu a chwerthin bob tro ydi pan ddaru Mam ddisgyn i mewn i lyn pysgota pan oeddwn i’n blentyn. Mam oedd bob tro yn dwad hefo fi i bysgota pan oeddwn i’n blentyn – ddaru hi hyd yn oed fedru manijo dal chwadan ar un achlysur (un go iawn!)
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dydw i ddim yn un hawdd i godi cywilydd arna i, digwydd bod, ond mae anghofio enwau pobol a chamgymryd pobol am bobol eraill yn digwydd yn eithaf aml!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Os ydw i’n onast - wrth dorri nionyn ar gyfer ryw bei cyw iâr!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Monsters University! Enghraifft wych o ffilm sydd hyd yn oed yn well na’r cyntaf! Mae hyn hefyd yn adlewyrchiad teg o’r ffaith fod gen i’r un meddwl â phlentyn!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Steve Carell achos dwi’n meddwl y bysan ni’n rhannu’r un hiwmor, Gerallt Lloyd Owen er mwyn cael pigo’i frêns a John Lennon i gael clywed ei hanesion.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi’n mwynhau actio mewn cynhyrchiadau ysgafn fel pantos, a mi fydda i hefyd yn mwynhau ysgrifennu sgriptiau comedi.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael parti mawr hefo pawb dwi’n hoffi, hefo llwyth o fwyd neis a cherddoriaeth dda!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dyma lun o fy mhysgodyn mwyaf (20lb), a (yn uwch i fyny) llun o rwyd o bysgod mewn cystadleuaeth bysgota wnes i ei hennill.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Popi’r ci - ma hi’n cael cysgu drwy’r dydd a mond symud pan ma hi isho!