Cyhuddo dyn o ddynladdiad wedi marwolaeth dyn y llynedd

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Bu farw John Ithell ar 么l cael ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ger Ffordd Cefn

Mae dyn 30 oed wedi ei gyhuddo o ddynladdiad dyn arall yn dilyn digwyddiad yn Wrecsam y llynedd.

Fe gafodd y llu wybod am 06:42 ar fore 12 Mehefin 2023 bod dyn wedi llewygu ar l么n ger Ffordd Cefn yn y ddinas.

Cafodd y dyn - John Ithell, 59, o ardal Pentre Gwyn - ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn fuan wedyn.

Mae disgwyl i Paul Thomas Ince, o Ffordd Cefn, ymddangos mewn llys ynadon ar 11 Rhagfyr.