Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Chwilio am chwe dyn wedi ymosodiad mewn bwyty yng Nghaerdydd
Mae Heddlu'r De yn chwilio am chwe dyn ar 么l i ddau ohonyn nhw redeg i fwyty yng Nghaerdydd a thaflu hylif dros y pedwar arall ac roedd ofnau ei fod yn sylwedd cyrydol.
Cafodd dodrefn hefyd eu taflu gan y dynion yn y bwyty yn y Bae ac yna fe wnaeth y chwech ffoi oddi yno.
Mae plismyn yn credu bod y digwyddiad nos Fercher yn "un a oedd wedi'i dargedu" wedi ffrae a ddigwyddodd yn gynharach rhwng y chwech.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Cei'r F么r-forwyn a bu'n rhaid i'r bwyty gau.
鈥淩oedd pedwar dyn yn eistedd yn y bwyty pan redodd dau ddyn arall i mewn i鈥檙 bwyty a thaflu sylwedd atyn nhw,鈥 meddai鈥檙 Ditectif Arolygydd Phil Marchant.
鈥淐afodd dodrefn hefyd eu codi a鈥檜 taflu.
鈥淵na rhedodd y pedwar dioddefwr a鈥檙 ddau ddyn arall allan o鈥檙 bwyty."
Ychwanegodd nad oes unrhyw adroddiadau o anafiadau ac "ar hyn o bryd ni chredir bod yr hylif yn un niweidiol".
Dywedodd ei bod hi'n debygol bod y ddau gr诺p "wedi cael ffrae yn gynt mewn rhan arall o'r cei am tua 18:15... ac felly bod yr heddlu yn credu bod hwn yn ymosodiad wedi'i dargedu".
Mae'r heddlu'n ceisio dod o hyd i bob un o'r dynion.
Maen nhw hefyd eisiau siarad ag unrhyw un oedd ym mwyty Las Iguanas, neu ger safle'r bwyty ar Sgw芒r Tacoma rhwng 18:15 a 20:30 nos Fercher, neu sydd ag unrhyw wybodaeth.
Roedd bwyty Las Iguanas yn parhau ar gau fore Iau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cei'r F么r-forwyn fod y gwasanaethau brys yn cynnal ymchwiliadau.
鈥淢ae鈥檙 digwyddiad hwn bellach ar ben ac yn cael ei ymchwilio. Oherwydd hyn ni allwn wneud sylw pellach,鈥 ychwanegodd.