Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Martyn Margetson yn dychwelyd i d卯m hyfforddi Cymru
Mae rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi cwblhau ei d卯m hyfforddi gyda'r garfan genedlaethol, gan benodi Martyn Margetson yn hyfforddwr g么l-geidwaid.
Dyma ail gyfnod Margetson gyda th卯m cenedlaethol y dynion, wedi iddo wneud yr un r么l rhwng 2011 a 2016 yng nghyfnodau Gary Speed a Chris Coleman fel rheolwyr.
Bu'n rhan o'r t卯m hyfforddi ar gyfer Euro 2016, cyn gadael i ymuno 芒 th卯m cenedlaethol Lloegr.
Fe adawodd y swydd honno yn sgil ymadawiad y rheolwr Gareth Southgate, ac mae'n cymryd lle Tony Roberts yn nh卯m hyfforddi Cymru.
Enillodd Margetson un cap i Gymru fel chwaraewr, a hynny mewn g锚m gyfeillgar yn erbyn Canada yn 2004.
Mae hefyd wedi bod yn hyfforddwr gyda West Ham, Caerdydd, Crystal Palace ac Everton, ac ar hyn o bryd mae hefyd yn rhan o d卯m hyfforddi Abertawe.
Mae penodiad Margetson yn cwblhau t卯m rheoli Bellamy, wedi i Andrew Crofts, James Rowberry, Piet Cremers a Ryland Morgans gael eu cyhoeddi yr wythnos ddiwethaf.
Bydd Bellamy yn cyhoeddi ei garfan ryngwladol gyntaf ddydd Mercher, cyn y gemau cyntaf wrth y llyw yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd ac oddi cartref ym Montenegro fis nesaf.