Amy Dowden: Dim cysylltiad rhwng anaf a salwch blaenorol
- Cyhoeddwyd
Wedi iddi hi gyhoeddi na fydd hi'n cymryd rhan yng ngweddill cyfres Strictly Come Dancing eleni, mae Amy Dowden wedi pwysleisio nad ydi hynny'n gysylltiedig 芒'i phroblemau iechyd blaenorol.
Fe gafodd y ddawnsiwraig broffesiynol o Gaerffili ei chludo i'r ysbyty "rhag ofn" bythefnos yn 么l, ar 么l llewygu gefn llwyfan yn ystod un o'r rhaglenni.
Fe ddywedodd wrth y chwaer raglen 'It Takes Two' nos Fercher ei bod ag ysigiad (insufficiency stress fracture) ar ei chrimog (shin).
Roedd hi wedi dychwelyd i'r gystadleuaeth eleni ar 么l gorfod colli cyfres y llynedd wrth gael triniaeth canser y fron.
Dywedodd ei bod wedi ei "llorio'n llwyr" o fethu 芒 pharhau i gystadlu yng gweddill cyfres eleni ond ei bod wedi cael cyngor "i orffwys am ychydig wythnosau".
Mewn cyfweliad dagreuol, dywedodd bod y sefyllfa wedi "torri fy nghalon".
"Bod yn 么l gyda theulu Strictly oedd yr adferiad gorau," meddai, gan gyfeirio at y canser a'i ffaith ei bod yn byw gyda'r cyflwr Crohn's.
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd "yn 么l yn dawnsio mewn rhyw fodd, o bosib mewn dawns gr诺p, cyn diwedd y gyfres".
Lauren Oakley sydd wedi cymryd ei lle yn y gystadleuaeth fel partner dawsnio'r canwr JB Gill.