大象传媒

Cefnu ar statws organig oherwydd costau a hinsawdd

Aled Rees
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Aled Rees bod y bil bwyd gwartheg yn unig wedi cynyddu 拢200,000 yn y 12 mis diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae un o brif ffermwyr llaeth y gorllewin yn cefnu ar statws organig ar 么l 23 o flynyddoedd.

Yn 么l Aled Rees o fferm Trefere Fawr ger Aberteifi mae sawl ffactor yn gyfrifol am y penderfyniad, gan gynnwys newid hinsawdd a chostau porthiant cynyddol.

Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast bod y bil bwyd gwartheg yn unig wedi cynyddu 拢200,000 yn y 12 mis diwethaf.

Esboniodd Mr Rees mai egwyddor bod yn organig "yw bo' chi ddim yn defnyddio dim un chwynladdwr, cemegau na gwrtaith cemegol ar y ddaear, ar un peth gyda鈥檙 gwartheg".

"Yr un peth gyda鈥檙 gwartheg bod chi ddim yn defnyddio gwrthfiotig, eich bod chi鈥檔 creu system sy鈥檔 mynd i fod yn fwy cymwys tuag at yr anifeiliaid yn lle bo' chi鈥檔 gorfod defnyddio lot o wrthfiotig."

Disgrifiad,

"Mae 'di bod yn anodd adennill y costau o'r farchnad, a dyna ydi'r broblem," meddai llywydd NFU Cymru, Aled Jones

O ran y broses, esboniodd Mr Rees ei bod yn eithaf cymhleth.

"Bob blwyddyn bydden ni鈥檔 cael inspection, cerdded y ffarm, gweld y stoc," meddai.

"Mae'n rhaid i chi agor y fferm iddo weld unrhyw beth mae moyn.

"Mae'n rhaid profi a chadw pob dogfen sy鈥檔 dod mewn i鈥檙 fferm a hyd yn oed dangos eich cyfrifon os oes angen.

"I ni, roedd y broses o gael y dystysgrif organig yn costio 拢800 y flwyddyn i ddweud bod y cynnyrch ro鈥檔 ni yn gwerthu o鈥檙 fferm yma yn organig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae awgrym fod gwerthiant cynnyrch llaeth yn gyffredinol yn cwympo mewn cyfnodau o galedi ariannol

Yn 么l ffigyrau adran Amaeth Llywodraeth y DU - DEFRA - 2.9% o dir y DU sy鈥檔 cael ei ffermio鈥檔 organig.

O鈥檙 tir hwnnw, mae 61% yn Lloegr, ac 16% yng Nghymru.

Mae'n faes arbenigol, a'r gost i'r siopwyr am y cynnyrch yn gallu bod yn uwch, fel yr esbonia'r arbenigwr amaethyddol Dr Iwan Owen.

'Gwerthiant cig a llaeth yn cwympo'

"Mae tystiolaeth bod y cynnydd mewn costau byw yn cael ei adlewyrchu ym mhatrymau siopa bwyd, efo gwerthiant cig a gwerthiant cynnyrch llaeth yn gyffredinol wedi cwympo," meddai.

"Ond yn bendant fe welwyd yn sgil y cyfnod caled y cafon ni yn niwedd degawd gynta'r ganrif hon - yn ystod dirwasgiad 2008 - fe gwympodd gwerthiant bwyd organig i lawr rhyw ddwy ran o dair o'r hyn yr oedd o cyn hynny.

"Mae'n amlwg felly bod yna ymateb cyflym a chymharol sensitif i unrhyw gynnydd mewn costau bwyd, a phobl - er eu bod nhw efallai yn gweld bendithion bwyd organig - mae'r gost a faint o arian sydd ganddyn nhw i wario ar fwyd yn mynd i ddylanwadu ar beth maen nhw'n prynu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Iwan Owen yn credu fod llai o bobl yn prynu bwyd organig oherwydd yr argyfwng costau byw

Esboniodd Aled Rees ei fod yn benderfyniad mawr ond anorfod troi cefn ar y dystysgrif organig.

"Mae'n rhaid adeiladu system organig ar borthiant o safon ry'ch chi鈥檔 gallu ei dyfu eich hun," meddai.

"A phan chi methu tyfu digon o borthiant i fwydo鈥檙 gwartheg, mae'n rhaid ei brynu mewn.

"Mae鈥檙 pris ry鈥檔 ni wedi bod yn ei dalu am borthiant organig... wedi bod yn codi ers y pum mlynedd ddiwethaf, ond mae鈥檙 ddwy flynedd a hanner ddiwethaf wedi bod yn syfrdanol.

"Mae'r pris rhwng 拢600 a 拢650 y dunnell o鈥檌 gymharu gyda bwyd confensiynol 拢350-拢400.

"Mae鈥檙 porthiant ry鈥檔 ni wedi prynu fel busnes dros y 12 mis diwethaf, fe warion ni dros 拢200,000 yn fwy - nid y cyfanswm, ond y fwy ar fwyd organig."

Effaith materion rhyngwladol

Ychwanegodd Mr Rees fod ymosodiadau Rwsia ar Wcr谩in hefyd yn rhan fawr o pam fod prisiau wedi codi.

"Fe aeth Rwsia mewn i Wcr谩in rai blynyddoedd yn 么l a chipio penrhyn y Crimea, ac yn hanesyddol mae鈥檙 ardal hon yn tyfu lot o rawn, blodau haul a hadau r锚p organig, felly dyna o ble mae lot o鈥檙 deunydd crai i wneud bwydydd organig i anifeiliaid wedi dod.

"Ro鈥檇d hynny鈥檔 bwydo drwyddo wedyn i鈥檙 porthiant i鈥檙 gwartheg - prisiau yn codi a chodi鈥檔 raddol drwy鈥檙 amser, ac wedi dod i鈥檙 pwynt nawr ble gallwn ni ddim gwrthsefyll y prisiau hyn."