´óÏó´«Ã½

'Cymru'n brawf nad oes modd ymddiried yn Llafur'

Ceidwadwyr
Disgrifiad o’r llun,

Y Ceidwadwyr yn lansio eu hymgyrch etholiad cyffredinol yng Nghymru yn Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd

Mae perfformiad Llywodraeth Lafur Cymru yn dangos nad oes modd ymddiried yn y blaid i arwain y Deyrnas Unedig, yn ôl y Ceidwadwyr.

Dywedodd arweinydd y grŵp ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies fod record Llafur o ran rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, cyfraddau busnes uchel a'r "rhyfel yn erbyn gyrwyr" yng Nghymru yn "rybudd clir".

Roedd y Ceidwadwyr yn lansio eu hymgyrch etholiad cyffredinol yng Nghymru mewn digwyddiad yn Sir Fynwy ddydd Gwener.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, mai dim ond y Ceidwadwyr sydd â "chynllun mentrus i ddiogelu dyfodol Cymru".

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, wedi dweud yn y gorffennol mai Llafur Cymru oedd ei "lasbrint" ar gyfer arwain Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019, pan mai Boris Johnson a Jeremy Corbyn oedd yn arwain y ddwy brif blaid, fe gipiodd y Ceidwadwyr bum sedd gan y Blaid Lafur yng ngogledd Cymru, yn ogystal â Phen-y-bont ar Ogwr yn y de.

Y tro hwn, gyda Llafur ar y blaen yn yr arolygon barn, mae'r Ceidwadwyr yn amlwg yn gweithredu'n amddiffynnol.

Ond maen nhw'n credu y gall record gweinidogion Llafur yng Nghymru fod yn arf defnyddiol yn ystod yr ymgyrch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Prif Weinidog Rishi Sunak yn ymgyrchu yn y Barri wythnos diwethaf

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn feirniadol iawn o benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd trefol a'r gofynion uwch ar gyfer cymeradwyo cynlluniau ar gyfer ffyrdd newydd.

Ym mis Ebrill fe ddisgynnodd y cymorth ar drethi busnes ar gyfer cwmnïau lletygarwch a siopau o 75% i 40%, tra bod busnesau tebyg yn Lloegr yn parhau i dderbyn cymorth o 75%.

Bydd y llywodraeth hefyd yn oedi cynllun cymorthdaliadau amaeth newydd Cymru tan 2026, yn dilyn protestiadau.

Mynnodd David TC Davies y byddai'r Ceidwadwyr yn "cael Cymru i symud" drwy sicrhau gwasanaethau trên cyflymach yn y gogledd", gan gyfeirio at gynlluniau a gafodd eu cyhoeddi yn 2023 i drydaneiddio prif reilffordd gogledd yn sgil cwtogi HS2.

Dywedodd y byddai diogelwch ynni Cymru yn gwella yn sgil y newyddion mai safle Wylfa ar Ynys Môn yw'r dewis cyntaf ar gyfer adeiladu gorsaf bŵer niwclear.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl David TC Davies, bydd diogelwch ynni Cymru'n gwella dan arweiniad y Ceidwadwyr

Dywedodd Mr TC Davies fod "llawer gormod" o bobl ifanc yn mynd i'r brifysgol "ac yn cael dim allan o'r peth".

Mae'r Ceidwadwyr wedi addo cael gwared â rhai cyrsiau prifysgolion yn Lloegr os ydyn nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol - rhai maen nhw'n eu galw'n "rip-off".

Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar bolisïau prifysgolion yng Nghymru.

Ychwanegodd y byddai pobl ifanc yn cael "y dechrau gorau i'w bywydau" dan arweiniad y Ceidwadwyr, wedi i'r blaid addo y bydd pob person 18 oed yn gwneud gwasanaeth milwrol neu ddi-filwrol os ydyn nhw'n ennill yr etholiad.

Dywedodd hefyd ei fod eisiau gweld mwy o bobl ifanc yn gwneud prentisiaethau gyda busnesau.

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies

Roedd hi’n drawiadol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dewis Sir Fynwy – ardal y mae’r blaid wedi ei chynrychioli’n San Steffan ers bron i ugain mlynedd – ar gyfer y lansiad yma.

Lai na 24 awr yn gynharach roedd arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, yn yr etholaeth yn ceisio swyno etholwyr.

Gyda’i gilydd mae’r ddau ddigwyddiad yn dangos sut mae’r ddwy brif blaid yn mynd ati mewn ffyrdd gwahanol yn ystod yr ymgyrch yma.

Mae Llafur yn ceisio cipio seddi, yn credu bod hyd yn oed seddi fel hon o fewn ei gafael.

Mae’r Ceidwadwyr ar y llaw arall yn canolbwyntio ar warchod beth sydd ganddyn nhw, fydd – yn ôl yr arolygon barn – yn dipyn o her.

Yr ymgeiswyr yn Sir Fynwy yn llawn

  • Y Ceidwadwyr - David TC Davies

  • Llafur - Catherine Fookes

  • Y Democratiaid Rhyddfrydol - William Powell

  • Reform - Tim Miles

  • Plaid Cymru - I'w gyhoeddi