Dau'n cyfaddef smyglo miloedd o fudwyr o Ewrop i'r DU

Ffynhonnell y llun, NCA

Disgrifiad o'r llun, Newidodd Dilshad Shamo ac Ali Khdir eu ple ar ddiwedd ail wythnos yr achos llys yn eu herbyn

Mae dau ddyn oedd yn gwadu bod yn rhan o gynllwyn i smyglo cannoedd o fewnfudwyr yn anghyfreithlon i'r DU o Ewrop wedi newid eu ple a phledio'n euog.

Fe gafodd Dilshad Shamo, 41, ac Ali Khdir, 40, o Gaerffili, eu cyhuddo o symud cannoedd o bobl mewn ceir, lor茂au a chychod i'r DU o Irac, Iran a Syria.

Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Hydref 2022 ac Ebrill 2023, pan gafodd y dynion eu harestio gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).

Roedd y ddau wedi pledio'n ddieuog yn wreiddiol i gyhuddiadau o gynllwynio i dorri rheolau ymfudo'r Eidal, Romania, Croatia a'r Almaen er mwyn dod 芒'r mewnfudwyr i Ewrop a'r DU.

Ond ar ddechrau ail wythnos yr achos yn eu herbyn yn Llys y Goron Caerdydd fe newidiodd y diffynyddion eu ple a chyfaddef i bum cyhuddiad.

'Trip Advisor smyglwyr'

Mae'r NCA wedi dweud wrth y 大象传媒 bod Shamo a Khdir, oedd yn gweithio o safle glanhau cerbydau yng Nghaerffili, wedi gweithredu fel pe tasen nhw'n rhedeg busnes trefnu teithiau.

Roedden nhw wedi hysbysebu eu gwasanaethau i bobl oedd eisiau ymfudo mewn modd y mae'r asiantaeth yn ei disgrifio fel "Trip Advisor smyglwyr".

Roedd mudwyr o'r Dwyrain Canol ar eu ffordd i Ewrop yn gwerthuso eu teithiau mewn fideos a gafodd eu ffilmio o lor茂au, cychod neu awyrennau.

Mewn un fideo mae dyn yn gofyn "Sut oedd y daith, bechgyn?" ac mae person arall yn ateb trwy godi bawd o gefn y lori.

Ffynhonnell y llun, NCA

Disgrifiad o'r llun, Ali Khdir yn y busnes glanhau ceir yng Nghaerffili, o ble roedd y teithiau anghyfreithlon yn cael eu trefnu

Dros gyfnod o ddwy flynedd, fe ddaeth y smyglwyr ag oddeutu 100 o fudwyr yr wythnos yn anghyfreithlon i Ewrop.

Roedden nhw'n cynnig pecynnau platinwm, aur, arian ac efydd, gan ddibynnu ar lefel y risg.

Roedd y pecynnau drytaf, oedd yn costio rhwng 拢10,000 a 拢25,000, yn sicrhau hediad a phasport ffug.

Roedd rhwng 拢8,000 a 拢10,000 yn prynu pecyn aur a thaith ar gwch, a'r pecynnau rhataf, ar gost o 拢3,000 i 拢5,000, yn golygu teithio ar lori neu gerbyd llai.

Daeth ymchwiliwyr ar draws y fideos gwerthuso ar ffonau'r smyglwyr eu hunain, o bosib yn sail deunydd hyrwyddo'u gwasanaethau.

Disgrifiad o'r llun, Mae rhaglen 大象传媒 Wales Investigates wedi bod yn dilyn honiadau bod smyglo mudwyr yn cael ei drefnu o Gymru

Dywed yr NCA bod y ddau ddiffynnydd yn smyglo mudwyr fel rhan o giang ehangach ac yn "byw bywyd dwbl" wrth redeg y busnes glanau ceir yng Nghaerffili.

Fe gafodd yr asiantaeth gymorth gan Heddlu Gwent wrth iddyn nhw fonitro gweithgaredd y ddau a chasglu tystiolaeth i'w herlyn.

Llwyddodd yr asiantaeth i olrhain y smyglwyr wedi i rywrai roi gwybodaeth hanfodol iddyn nhw, a recordio rhai o'u sgyrsiau ff么n heb yn wybod iddyn nhw.

Fe gawson nhw eu cyhuddo ym mis Chwefror, gan bledio'n ddieuog yn wreiddiol.

Roedd Llys y Goron Caerdydd wedi clywed 10 diwrnod o dystiolaeth cyn iddyn nhw newid eu ple a phledio'n euog i'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.

Fe fydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ddydd Llun 25 Tachwedd cyn iddyn nhw gael eu dedfrydu.