Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Menyw, 21, wedi marw dridiau ar 么l gadael ysbyty - cwest
Mae cwest wedi clywed bod menyw 21 oed a gafodd ei hanfon adref o'r ysbyty wedi marw dridiau'n ddiweddarach.
Bu farw Bethan James - merch cyn-gapten t卯m criced Morgannwg, Steve James - yn Chwefror 2020.
Clywodd y cwest ym Mhontypridd fod Ms James, o Gaerdydd, wedi bod yn wael ac wedi cael triniaeth am niwmonia gyda gwrthfiotigau.
Aeth i'r ysbyty ar 5 Chwefror oherwydd poen niwrolegol, ac fe gafodd ei chyfeirio at y t卯m meddygol am adolygiad.
Cafodd ei hasesu ar 6 Chwefror ac fe gafodd ei hanfon adref o'r ysbyty.
Ar 8 Chwefror, fe gafodd ei chludo i adran frys yr ysbyty mewn ambiwlans, a bu farw y diwrnod canlynol.
Flwyddyn cyn ei marwolaeth, fe gafodd Ms James ddiagnosis o glefyd Crohn's.
Dangosodd archwiliad post mortem mai achos ei marwolaeth oedd cyfuniad o sepsis, niwmonia a Crohn's.
Wrth agor a gohirio'r cwest tan fis Medi, fe fynegodd y crwner Trisha Morgan ei chydymdeimlad gyda'r teulu.