大象传媒

'O'n i'n gwybod' - Chwaer Joshua Roberts yn cofio galwad 999

Josh Roberts ac Abi Lloyd RobertsFfynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar
  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o'r gogledd sy鈥檔 ateb galwadau 999 wedi disgrifio鈥檙 foment y dywedodd cydweithiwr wrthi am wrthdrawiad angheuol yn ymwneud 芒鈥檌 brawd.

Dywedodd Abi Lloyd Roberts, sy鈥檔 25, wrth raglen Y Byd ar Bedwar bod ei "chalon wedi suddo" ar 么l cael gwybod bod dyn wedi cael ei daro a'i ladd ar yr A4085 yng Nghaeathro, Gwynedd.

Roedd hi鈥檔 ymwybodol bod ei brawd Joshua, 19, yn bwriadu cerdded adref ar hyd y ffordd honno.

Roedd cydweithiwr wedi cymryd yr alwad ychydig ar 么l 23:00 ar 2 Mehefin 2023.

Ffynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Abi Lloyd Roberts bod ei "chalon wedi suddo" o glywed bod dyn wedi'i daro gan gar

Dywedodd Abi Lloyd Roberts wrth y rhaglen er nad oedd hi'n gwybod i sicrwydd mai ei brawd oedd y person a fu farw, roedd ganddi deimlad cryf bod rhywbeth o'i le a gadawodd ei shifft yn gynnar gan ei bod mor bryderus.

Dywedodd: 鈥淪uddodd fy nghalon, achos tua dwy awr ynghynt roedd Josh yn anfon neges destun atai yn dweud, 'Dwi'n cerdded adref' [ar yr A4085]."

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru yn ddiweddarach i鈥檙 teulu fod Joshua wedi marw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Dywedodd Abi: 鈥淒ydw i erioed wedi sgrechian cymaint yn fy mywyd.

鈥淎chos, o鈥檔 i鈥檔 gwybod mai Josh oedd o, roeddwn i just angen rhywun i gadarnhau mai fo oedd o.

"Ond o'n i'n gwybod o'r eiliad y daeth yr alwad i mewn, a dwi ddim yn gwybod sut, ond o'n i'n gwybod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd sgarffiau a chrysau p锚l-droed i gofio Josh eu gadael ar ochr y ffordd rhwng Caeathro a Chaernarfon

Ym mis Medi 2023, dywedodd Melanie Tookey, mam Joshua, bod ei theulu yn "rhwystredig ac yn ofidus" oherwydd y diffyg gwybodaeth yr oedd yr heddlu wedi'i roi.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd eu bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r teulu wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio.

Pan gysylltodd 大象传媒 Cymru 芒 Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun, dywedodd y llu fod yr ymchwiliad i'r farwolaeth bellach wedi dod i ben ac nad ydyn nhw'n "gallu gwneud sylw tra bod yr ymchwiliad gyda'r crwner鈥.

Pynciau cysylltiedig