大象传媒

Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Munster 23 - 7 Y Gweilch

Gweilch v MunsterFfynhonnell y llun, HUW EVANS PICTURE AGENCY
  • Cyhoeddwyd

Colli fu hanes y Gweilch o 23 i 7 yn erbyn Munster nos Wener yn rownd go-gynderfynol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Y t卯m cartref oedd ar y blaen o'r cychwyn, gyda Simon Zebo a Niall Scannell yn sgorio i'r t卯m yn yr hanner cyntaf ym Mharc Thomond.

Er i'r Gweilch gael cychwyn addawol gyda Keelan Giles yn sgorio'n gynnar, roedd y t卯m yn ei chael hi'n anodd i gystadlu 芒'r Gwyddelod.

Gyda Munster yn parhau i amddiffyn yn gryf, nhw oedd ar y blaen o 17-7 ar yr hanner.

Parhau i reoli'r chwarae wnaeth Munster yn yr ail hanner gyda Crowley yn sicrhau cais arall gan sicrhau mantais i'r t卯m cartref o 23-7 ar y chwiban olaf.

Nid oedd y Gweilch wedi ennill yn Thomond Park ers 12 o flynyddoedd.

Bydd Munster yn mynd ymlaen i'r rownd gyn derfynol ar 15 o Fehefin yn erbyn naill ai Glasgow Warriors neu'r Stormers.

Pynciau cysylltiedig