Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tata yn addo gwelliannau 'sylweddol' i ansawdd yr aer
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru
Mae Tata Steel yn dweud bod diffodd a dadgomisiynu'r ffwrneisi chwyth yn cael effaith "sylweddol a chadarnhaol" ar yr amgylchedd lleol.
Dywedodd cyn athrawes sydd wedi byw yng nghysgod gweithfeydd dur mwya'r DU ym Mhort Talbot ers 70 mlynedd: "Ro'n nhw'n arfer dweud na ddyle pobl yn yr ardal brynu c诺n gwyn.
"Yn aml iawn bydden nhw'n troi'n binc gyda'r fall-out," eglurodd Anna Phillips, tra bod ceir a ffenestri hefyd wedi'u gorchuddio 芒 llwch.
Gallai roi stop ar greu dur o'r deunyddiau crai, a throi at ailgylchu metel mewn ffwrnais drydan 拢1.25bn newydd arwain at "ostyngiad o 90% yn faint o ddwst sy'n dod o simneiau鈥檙 gweithfeydd", medden nhw.
Ond i Bort Talbot, mae 'na bris i'w dalu am yr addewid o aer gl芒n wrth i oddeutu 2,000 o swyddi gael eu colli.
Mae ansawdd aer gwael wedi bod yn bryder ers degawdau - gyda chyfres o ddiwydiannau trwm yn lleol a thraffordd yr M4 hefyd yn llifo drwy ganol y dref fel afon lygredig.
Cafodd y sefyllfa sylw annisgwyl yn 2018 gan yr artist graffiti byd-enwog Banksy.
Roedd ei waith celf ar ymyl garej ger y gweithfeydd yn dangos bachgen bach fel petai'n chwarae mewn eira ond lludw o d芒n oedd y darnau m芒n mewn gwirionedd.
Mae'r cyn-weithiwr dur Gary Owen yn honni mae fe oedd y person wnaeth ddenu diddordeb Banksy ar 么l gyrru neges iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Brynes i trampoline i'n ferch i a phan oedd hi'n chwarae arno ro'dd ei thraed hi'n ddwst du i gyd a ro'n i'n anhapus iawn am hyn," eglurodd.
Mae'n dweud iddo ysgrifennu at Banksy ym mis Awst y flwyddyn honno a'i wahodd i Bort Talbot - "dyma fe'n ymddangos ym mis Rhagfyr".
"Os edrychwch chi o gwmpas - mae popeth yn oren," meddai Mr Owen, gan bwyntio ar silffiau ffenest brwnt ar dai cyfagos - "ddyle Tata fod wedi gallu rheoli'r dwst yn well.
"Gobeithio nawr fydd hyn yn lleihau ryw dipyn a gallwn ni gyd anadlu yn haws."
Mae Tata Steel yn dweud eu bod wedi buddsoddi'n fawr "dros flynyddoedd lawer" er mwyn lleihau effaith y gweithfeydd ar yr ardal leol, gyda chynlluniau diweddar yn cynnwys "bagiau hidlo yn y ffatri sintr, system echdynnu nwyon yn y ffwrnesi chwyth, a gorchuddion ar y ffwrnesi golosg".
Mae'r rhannau yma o'r gweithfeydd dur bellach yn cau, ac ni fydd gan y safle domenni mawr o ddeunyddiau crai llychlyd fel mwyn haearn a glo.
Mae dogfennau cynllunio ar gyfer y ffwrnais drydan newydd yn nodi y bydd honno hefyd yn cynhyrchu llwch, ond fydd hyn "yn cael ei leihau drwy ganopi echdynnu ar do'r adeilad".
Mae asesiad yn awgrymu y bydd yr effaith barhaol ar ansawdd aer yn "fach iawn", gyda "gostyngiad o ran allyriadau" o'i gymharu 芒'r hen ffordd o weithio.
Ers 2000 mae Port Talbot wedi'i dynodi yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i lefelau uchel o ronynnau o lygredd yn yr awyr, sy'n cael eu galw'n PM10.
Dywedodd Dr Ben Williams, arbenigwr mewn llygredd aer ym mhrifysgol UWE Bryste: "Maen nhw'n ronynnau bach iawn sy'n gallu cael eu hanadlu mewn a mynd reit i mewn i dy ysgyfaint di."
Tra bod lefelau PM10 yn yr aer yn cael eu monitro yn gyson, mae adnabod ffynhonnell y gronynnau yn fwy anodd, meddai.
Gallan nhw ddeillio o allyriadau gan ddiwydiant, ond mae ceir yn eu cynhyrchu hefyd o'u pibell mwg neu deiars.
Mae yna ffynonellau naturiol hefyd fel halen a thywod o'r m么r a thraethau.
"Tra byddech chi'n disgwyl gweld rhyw fath o welliant yn y tymor hir o ganlyniad i'r newidiadau yn y gweithfeydd, mae'r darlun yn gymhleth," esboniodd Dr Williams.
"Mae'n hollbwysig bod y gwaith mesur a monitro yn parhau a bod llygad yn cael ei gadw ar lygredd aer yn yr ardal, achos yn y diwedd mae hyn yn ymwneud 芒 diogelu iechyd pobl."
I Kathy Oakwood, sy'n cadeirio'r gr诺p Cyfeillion y Ddaear lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'n anodd teimlo'n bositif yngl欧n 芒 gwelliannau posib i ansawdd aer yn wyneb yr hyn y mae hi'n ei weld fel methiant gwleidyddol i warchod swyddi neu ddarparu mwy o rhai gwyrdd yn lleol.
"Mae iechyd a lles yn gysylltiedig 芒 swyddi ac incwm hefyd - a phawb yn teimlo dros bobl sydd wedi'u heffeithio gan y sefyllfa ofnadwy yma," meddai.
Mae'n bwynt sy'n cael ei godi hefyd gan Anna Phillips a Gary Owen.
"Mae 'na deimladau cymysg iawn o fewn y gymuned," meddai Ms Phillips - "mae aer glanach yn dda, ond mae angen i bobl allu gweithio".