Marathon Eryri: Mwy o ferched yn rhedeg eleni

  • Awdur, Sion Tootill
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae dros 2,800 o bobl wedi rhedeg Marathon Eryri ddydd Sadwrn wrth i鈥檙 ras gael ei chynnal am y 40fed tro.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, roedd dros 1,000 o鈥檙 rhedwyr yn fenywod.

Cynhaliwyd y ras gyntaf yn 1982 ac ers hynny mae'r cwrs heriol wedi denu rhedwyr o bedwar ban byd - heblaw am fwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig Covid.

Mae鈥檙 cwrs, sy鈥檔 dechrau a gorffen ym mhentref Llanberis yng Ngwynedd, yn gofyn i鈥檙 cystadleuwyr redeg 26.2 milltir o amgylch gwaelod llethrau鈥檙 Wyddfa - mynydd uchaf Cymru.

Ymhlith y menywod a ddewisodd gystadlu eleni roedd Bethan Evans, 47 oed, a Lois Griffiths, 40 oed. Teithiodd y ffrindiau o Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan yn ei marathon Eryri cyntaf.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 40 mlwydd oed ym mis Awst, a gan fod hwn yn rhifyn 40 o鈥檙 ras o鈥檔 i鈥檔 meddwl bydde fe鈥檔 her neis i wneud.

"Mae鈥檙 bola yn troi nawr, ond ni wedi hyfforddi dros sawl wythnos ac yn barod i roi tro da iddo fe,鈥 meddai Lois cyn cychwyn y ras.

Disgrifiad o'r llun, Mae Bethan a Lois o Sir Gaerfyrddin yn rhedeg y ras am y tro cyntaf

Dywedodd Bethan: 鈥淔el Lois o鈥檔 i鈥檔 edrych am her newydd. Ni erioed wedi gwneud marathon o鈥檙 blaen ac mae鈥檔 debyg ni wedi dewis un o鈥檙 rhai mwyaf anodd fel y cyntaf.鈥

Mae鈥檙 ddwy yn rhedeg ar ran elusennau.

鈥淐afodd fy ng诺r i ddiagnosis o myeloma, sef math o ganser, tua 6 mlynedd yn 么l. Mae e yma yn cefnogi fi heddiw, ond dwi鈥檔 gwneud y ras yma drosto fe, ac eraill sy鈥檔 dioddef,鈥 meddai Bethan.

Disgrifiad o'r llun, Andrew Davies o鈥檙 Drenewydd groesodd y linell derfyn yn gyntaf yn ras 2024 a hynny wedi 2:28:41

Ond nid pawb sy鈥檔 cymryd rhan am y tro cyntaf. Dyma鈥檙 11fed tro i Robert Smith, sy鈥檔 46 oed ac o ardal Birmingham, redeg y cwrs.

鈥淒yma fy hoff ras o鈥檙 flwyddyn o bell ffordd. Mae'r golygfeydd yn anhygoel, yr awyrgylch a'r cyfeillgarwch yn well nag unrhyw le arall.

"Mae鈥檔 ras gwbl arbennig. Dyma fy unfed tro ar ddeg a gobeithio nid yr olaf.鈥

Disgrifiad o'r llun, Louise Flynn o Gaerdydd enillodd ras y menywod gydag amser o 2:59:23

Mae Matt Ward, 50 oed o Gorris, wedi bod yn helpu i drefnu marathon Eryri ers 15 mlynedd. Er ei falchder fod y ras wedi cael ei chynnal 40 o weithiau, mae ei ffocws ar y dyfodol.

鈥淢ae鈥檔 anhygoel i feddwl ein bod ni wedi cyrraedd y deugeinfed tro o鈥檙 ras hon sy鈥檔 wych.

"Cawsom y nifer uchaf o geisiadau erioed ar gyfer ras eleni, a鈥檙 gobaith felly yw i barhau i dyfu ac i barhau i gynnal y ras arbennig hon i鈥檙 dyfodol.鈥

Andrew Davies o鈥檙 Drenewydd groesodd y linell derfyn yn gyntaf yn ras 2024 a hynny wedi 2:28:41.

Louise Flynn o Gaerdydd enillodd ras y menywod gydag amser o 2:59:23 - lai na dwy funud o鈥檙 record a gofnodwyd ar gyfer y cwrs yn 2017.