'Mor braf gweld eraill sydd 芒 chyflwr fel Arthur'

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd Arthur ei eni heb waelod ei fraich chwith
  • Awdur, Sion Tootill
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae teulu bachgen a gafodd ei eni heb ei law chwith wedi dweud eu bod nhw wedi'u "syfrdanu" gan yr holl gefnogaeth wrth gynnal y digwyddiad cyntaf o鈥檌 fath yng ngogledd Cymru i bobl sydd 芒 rhan o鈥檙 corff yn wahanol.

Fe gafodd Arthur, sydd bellach yn ddeg mis oed, ei eni heb waelod ei fraich chwith.

Ym mis Chwefror fe ddywedodd ei rieni Elliw Williams ac Ilan Roberts, y ddau yn 25, wrth y 大象传媒 eu bod nhw鈥檔 bwriadu codi ymwybyddiaeth o鈥檙 cyflwr a dangos i Arthur mai "nid fe yw鈥檙 unig un".

Ddydd Sul, daeth dros 30 o bobl o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt, sydd gyda chyflwr tebyg i Arthur, at ei gilydd ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon i ddathlu鈥檙 pethau sy鈥檔 gwneud pob unigolyn yn arbennig.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y digwyddiad yng Nglynllifon ei drefnu gan Elliw ac Ilan, rhieni Arthur

Dywedodd Ilan: 鈥溾橠an ni mor falch bod cymaint o bobl wedi troi allan i gefnogi hwn. Dwi 'di syfrdanu gyda鈥檙 niferoedd i fod yn onest, ac mae pawb mor gl锚n a charedig.

"Mae Arthur mor ifanc a dydan ni ddim yn gwybod beth sydd o鈥檔 blaenau ni ond ma' gwybod bod 'na bobl eraill yn mynd trwy鈥檙 un peth yn ein bro ni yn anhygoel.鈥

Ychwanegodd Elliw: 鈥淢ae jyst gweld yr holl blant yma, rhai sydd 芒鈥檙 un cyflwr ag Arthur a rhai sydd ddim, yn rhedeg i chwarae efo鈥檌 gilydd syth bin yn gr锚t. Mae angen mwy o ddigwyddiadau fel hyn yng ngogledd Cymru.鈥

Chwarae yn Gymraeg 'yn arbennig'

Un o鈥檙 rheini a benderfynodd fynd i'r digwyddiad oedd Lois Jones o bentref Lanllyfni yng Ngwynedd ar 么l iddi weld nodyn Ilan ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd ei mab Alun, sy鈥檔 10 oed, ei eni heb ei fraich dde heibio鈥檙 penelin.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Lois, mam Alun, bod y digwyddiad wedi bod o help mawr iddi

鈥淒wi鈥檔 meddwl bod Alun wedi wirioneddol mwynhau gweld plant ac oedolion sydd yr un fath 芒 fo. Dwi鈥檔 meddwl bod hynna鈥檔 bwysig.

"Ond mae 'di bod yn help mawr i fi fel rhiant hefyd. Dwi 'di cael sawl syniad o bethau i wneud i helpu Alun gan rieni eraill yma,鈥 meddai Lois.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Alun ei fod yn falch gweld plant eraill tebyg iddo fe

Mae Lois ac Alun wedi bod i ddigwyddiadau tebyg gydag elusen yn Lloegr yn y gorffennol. Ond ei gobaith hi nawr yw bod yna mwy o gyfleoedd yn lleol.

鈥淢ae Alun yn iaith gyntaf Cymraeg ac felly pan 'dan ni wedi bod i鈥檙 digwyddiadau 'ma yn Lloegr, mae鈥檔 gallu bod yn anodd iddo gymdeithasu efo鈥檙 plant eraill.

"Felly mae gallu cyfarfod pobl leol a chwara' yn y Gymraeg wedi bod yn arbennig iawn. Dwi wir yn gobeithio am fwy o ddigwyddiadau tebyg, ac yn diolch i Ilan ac Elliw am drefnu hwn.鈥

Dywedodd ei mab, Alun: 鈥淒wi di ffeindio heddiw鈥檔 rili hwyl, dwi di cael gweld plant sydd fel fi a dwi methu gwneud hynna yn aml. Mae鈥檔 rili cyfforddus a neis cael y cyfle.鈥

Disgrifiad o'r llun, Cafodd elusen LimbBo ei sefydlu gan rieni Tommy

Mae Elliw ac Ilan wedi derbyn cefnogaeth gan elusen o鈥檙 enw LimbBo wrth drefnu鈥檙 cyfarfod yng Ngwynedd. Wedi'i lleoli yn Barnsley, nod yr elusen yw cefnogi plant 芒 gwahaniaethau corfforol a'u teuluoedd.

Cafodd ei sefydlu gan 诺r a gwraig, Adam a Katie Dengel, ar 么l iddyn nhw ddarganfod bod eu mab Tommy yn mynd i gael ei eni gyda鈥檙 cyflwr.

鈥淢ewn un o鈥檙 sganiau cynnar pan o鈥檔 i鈥檔 feichiog gyda Tommy dywedodd y doctor ei fod yn mynd i gael ei eni heb ei fraich dde," meddai ei fam.

"Cawsom ein tywys yn gyflym i ystafell arall a dywedodd y doctor mai dim ond hyn a hyn o wythnosau oedd gennym ni i ddewis os oedden ni am derfynu鈥檙 beichiogrwydd.

"Roedden ni'n gwybod nad oedden ni byth yn mynd i wneud hynny, ac roedden ni'n teimlo bod yna ddiffyg cefnogaeth ar gael.

"Does dim byd o鈥檌 le ar y plant hyn ac roedden ni eisiau bod yno i eraill sy鈥檔 mynd trwy rywbeth tebyg.鈥

鈥淢ae鈥檔 anhygoel gweld y gefnogaeth honno鈥檔 tyfu a gweld digwyddiad yn cael ei gynnal yng ngogledd Cymru,鈥 ychwanegodd.

Disgrifiad o'r llun, Mae teulu Arthur yn gobeithio y bydd modd cynnal digwyddiad fel hyn yn gyson

Ers sefydlu鈥檙 elusen yn 2018 mae nifer y bobl sy鈥檔 mynychu eu prif wersyll blynyddol yn Barnsley wedi tyfu o tua 20 i dros 600.

Mae Ilan ac Elliw yn bwriadu mynd i'r gwersyll eleni, ond maen nhw hefyd yn gobeithio parhau i gyfarfod yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Elliw: 鈥淏yddai gallu gwneud hwn yn beth blynyddol, neu hyd yn oed ychydig yn amlach, yn wych. Byddai鈥檔 gr锚t pe bai Arthur yn cael cyfleoedd rheolaidd i chwarae gyda phlant eraill fel fo.鈥

Ychwanegodd Ilan: 鈥淒yma鈥檙 tro cyntaf i ni gyd gyfarfod a r诺an bo' ni 'di gwneud hynna, bydd hi鈥檔 haws codi鈥檙 ff么n, neu ofyn i鈥檔 gilydd am gyngor, a chynnal y digwyddiadau yma yn fwy rheolaidd. Dyna yn sicr ydi鈥檙 nod beth bynnag.鈥