'Roedden nhw'n crio - doedden nhw erioed wedi cael noson mor amazing'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth wedi cael y profiad o fynd i glwb nos am y tro cyntaf diolch i brosiect newydd.
Mae鈥檔 gallu bod yn anodd i bobl sydd angen cymorth neu ofal i fedru cymdeithasu gyda鈥檙 nos oherwydd lleoliadau sy鈥檔 anaddas ar eu cyfer a gan fod shifftiau gweithwyr cynorthwyol yn aml yn gorffen rhy gynnar.
Cymaint yw鈥檙 broblem fel bod elusen Stay Up Late wedi cael ei ffurfio yn benodol i wella鈥檙 sefyllfa.
Ond yng Nghyngor Gwynedd mae 鈥榥a un swyddog lles sydd hefyd yn gweithio mewn clwb nos - ac fe gafodd syniad.
Mae Catrin Jones yn rhan o d卯m gofal cwsmer clwb Trilogy ym Mangor - ond ei phrif swydd ydi efo Llwybrau Llesiant, sy鈥檔 rhan o d卯m Oedolion ag Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd.
鈥淒wi 鈥榙i bod yn gweithio yn y nightclub ers naw mlynedd bron a dwi wedi bod isho gwneud noson fel yma erioed so mae pawb yn cael yr un profiad a be鈥 da ni鈥檔 cael,鈥 meddai. 鈥淎 dechra鈥 flwyddyn ar 么l siarad efo鈥檙 t卯m a nhw鈥檔 gefnogol neshi decidio - go for it!鈥
Felly鈥檔 gynharach eleni fe drefnodd ddigwyddiad arbennig ar nos Iau - pan nad oedd y clwb yn agored i鈥檙 cyhoedd - ar gyfer pobl oedd yn defnyddio eu gwasanaethau yng Ngwynedd, M么n a Chonwy.
'Edrych ymlaen i'r nesa yn barod'
Aeth 47 i鈥檙 noson - gyda phob un ond dau yn cael eu profiad cyntaf erioed o fynd i glwb nos.
Oherwydd llwyddiant y noson fe benderfynwyd trefnu un arall ddiwedd Gorffennaf ac aeth 74 i鈥檙 noson.
鈥淎r y ffordd adra o鈥檙 un gynta鈥 roedd pobl yn crio ar y bws doedden nhw erioed wedi cael noson mor amazing,鈥 meddai Catrin. 鈥淎 cyn i'r noson dwytha orffen roedd pawb yn gofyn 鈥榩ryd ma鈥檙 nesa鈥 ac yn edrych ymlaen yn barod.
鈥淣esh i siarad efo鈥檙 managers ar 么l y noson a roedda nhw鈥檔 hapus dros ben, a mor neis gweld gymaint o bobl 'di troi fyny. Roedd Trilogy yn amazing ac mor barod i helpu.鈥
Roedd staff y clwb nos a th卯m Llwybrau Llesiant wedi gwneud ychydig o addasiadau i noson arferol mewn clwb nos - er enghraifft cael y sain ychydig yn is ac ychydig llai o oleuadau yn fflachio.
Roedd y bar coct锚ls a鈥檙 ardd hefyd ar gael fel lle i gael llonydd, ac roedd gweithwyr t卯m iechyd galwedigaethol Cyngor Gwynedd yno i helpu, fel rhoi rampiau er mwyn i bawb fedru mynd ar y llwyfan neu i ddawnsio.
Yn 么l arweinydd t卯m Llwybrau Llesiant, Eryl Price Williams: 鈥淢补别 gwneud o fel hyn yn rhoi cyfle i gael y profiad mewn awyrgylch saff, maen nhw鈥檔 gwybod bod o鈥檔 le saff i fynd, bod pobl ma' nhw鈥檔 nabod yna os oes rhywbeth yn digwydd - ond does 鈥榥a ddim wedi digwydd.
鈥淥nd hefyd mae鈥檔 bwysig i roi authentic experience i bobl yn lle disgo mewn neuadd gymunedol neu rywbeth. Mae o hefyd yn rhoi foot in the door i rai pobl fasa isho mynd i nosweithiau eraill mewn clwb hefyd.鈥
'Pawb yn haeddu yr un cyfleoedd'
Aelod arall o鈥檙 t卯m ydi Richard Cashman: 鈥淓drych yn 么l i hanes pobl efo anabledd, dio ddim mor hir yn 么l - tua 30 mlynedd yn 么l - roedda nhw mewn institution ac yn gorfod mynd i lefydd i aros.
鈥Fast forward i r诺an lle 鈥榙a ni鈥檔 trio rhoi cyfleoedd mae pawb yn haeddu eu cael, ac i bobl gael cyfle i wneud rhywbeth dydyn nhw erioed wedi 'neud o鈥檙 blaen.
鈥淢补别 barriers i bobl ddod i bethau fel yma - diffyg staff, diffyg amser, cludiant - ac felly i gael 74 o bobl i ddod dros y barriers yna, dwi鈥檔 meddwl bod o鈥檔 amazing.鈥
Mae鈥檙 digwyddiad yn y clwb nos yn rhan o wasanaeth ehangach sy鈥檔 cynnig bob math o gefnogaeth i bobl efo anableddau dysgu, gan gynnwys sesiynau am arian, cyngor ar sut i fod yn ddiogel ar-lein, clwb cerdded, bingo a noson cwis.
Y bwriad ydi helpu unigolion i fagu sgiliau a rhoi cyfleoedd gwahanol iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gael yr hyder i fyw mor annibynnol 芒 phosib.
Meddai Eryl: 鈥淓fo gwasanaethau anabledd, yn aml mae support staff yn gorffen am 8pm felly tydi pobl ddim yn mynd i unlle ar 么l 8pm ond mae o鈥檔 iawn i bobl efo anableddau dysgu fod allan yn hwyr yn y nos os ydyn nhw eisiau.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd9 Mai
- Cyhoeddwyd3 Awst 2023