Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y t欧 芒 dros 1,700 o fygiau
Yng nghanol cefn gwlad Ceredigion mewn t欧 fferm ym mhentref Bethania mae yno ryfeddod i鈥檞 weld 鈥 dros 1,700 o fygiau mewn un cegin.
Mae Catherine Woodward yn casglu mygiau ers 1972 pan gafodd un yn anrheg gan ddisgybl yn yr ysgol yr oedd hi鈥檔 gogyddes ynddi.
Eleni, fe ddathlodd Catherine Woodward ei phen-blwydd yn 80 mlwydd oed ac, wrth reswm, fe ddaeth y mygiau鈥檔 anrhegion rif y gwlith. Un o鈥檙 mygiau hynny oedd un wedi鈥檌 wneud yn arbennig iddi gan d卯m Bore Cothi ar 大象传媒 Radio Cymru.
Bu Catherine yn westai pen-blwydd ar y rhaglen foreol boblogaidd yn 么l ym mis Mai eleni a bryd hynny fe wnaeth Sh芒n addewid iddi y byddai'n anfon mwg Bore Cothi ati. Ond yr wythnos hon, fe wnaeth Sh芒n un yn well a鈥檌 ddanfon yno ei hun.
Gyda help cyfrwys ei hwyres, Emily, llwyddodd y criw i roi sypreis a hanner i Catherine pan laniodd Sh芒n ar y stepen drws gyda鈥檙 mwg a chamera i ddal y cyfan.
Pryd dechreuodd y casglu?
鈥淥鈥檔 i鈥檔 gogyddes Ysgol Penuwch a鈥檙 plant yn rhoi rhai gyda鈥檔 enw i arno. Oedd hynny yn 鈥72 pan dechreuais i yn yr ysgol. Pryd hynny ddechreuodd e chi鈥檔 gwybod. A maen nhw鈥檔 newydd i gyd chi鈥檔 gwybod 鈥 dim byd second hand a dim chip yn agos iddyn nhw!鈥
鈥淒w i ddim wedi prynu dim un. Eu cael nhw ydw i. Mae 鈥榙a fi chwe chwaer a brawd a phan maen nhw鈥檔 mynd ar eu gwylie maen nhw鈥檔 dod a mwg yn 么l i fi.鈥
Faint sydd gennych chi?
鈥淢ae dros 1,700 yma nawr. Maen nhw lan ar y beams yn y kitchen a wedyn bob ochr i鈥檙 staer yn mynd lan i鈥檙 llofft. Fi鈥檔 glanhau nhw ddwywaith y flwyddyn. 鈥
Oes gennych chi ffefryn?
鈥淥 na, allwch chi byth a dweud 鈥榥y chi鈥檔 gweld neu byddwch chi鈥檔 offendo rhywun! O鈥檔 i鈥檔 gwybod pwy oedd wedi dod 芒 phob un ond pan gorffon ni dynnu nhw lawr, dim sbel yn 么l nawr achos bod gweithwyr angen mynd lan y staer, maen nhw wedi cymysgu. Ond cyn hynny, o鈥檔 i鈥檔 gwybod gan bwy ac o le oedden nhw wedi dod. 鈥
Oes pobl yn dod i鈥檞 gweld nhw?
鈥淥es oes, mae sawl un wedi bod yn eu gweld nhw, sawl cymdeithas a pethe. Unwaith, dd鈥檞edon nhw 鈥榙im ond hanner awr byddwn ni鈥榙a chi, ni mewn mini-bus鈥 ond buon nhw 鈥榤a tair awr! Mae鈥檔 werth eu gweld nhw.鈥
Mae'r erthygl hon yn addasiad o sgwrs fu ar Bore Cothi ar 9 Mai, 2023.