Newidiadau mawr ar y gweill i'r Cymru Premier
- Cyhoeddwyd
Mae newidiadau mawr ar y ffordd i gynghrair y Cymru Premier, gan gynnwys mwy o glybiau, mwy o gemau ar nosweithiau Gwener, a VAR yn cael ei gyflwyno.
Fe gafodd y clybiau sy'n rhan o'r Cymru Premier wybod am y newidiadau gan swyddogion Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) yn gynharach yn yr wythnos.
Mae disgwyl newidiadau pellach, gyda strwythur newydd i'w gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.
Gall y newidiadau pellach yma olygu bod hanner cynta'r tymor yn cael ei chwarae ar lefel ranbarthol, neu gychwyn y tymor yn gynt na鈥檙 arfer.
Bydd panel annibynnol yn rhannu eu canfyddiadau gyda chlybiau'r Cymru Premier erbyn mis Medi, ond mae cynlluniau eraill eisoes wedi鈥檜 cadarnhau a鈥檜 cyhoeddi gan benaethiaid y CBDC.
Dim cadarnhad am nifer y timau
Un o'r newidiadau yn y cynlluniau newydd yw cynyddu nifer y timau sy'n rhan o'r gynghrair.
Ar hyn o bryd mae 12 t卯m. Bydd y cyfanswm newydd yn cael ei gadarnhau unwaith y bydd strwythur penodol i'r cynlluniau.
Mae fersiwn mwy syml o VAR - VAR Lite - wedi cael ei gymeradwyo hefyd, a bydd hynny'n cael ei gyflwyno unwaith y mae'r cyfleusterau mewn lle.
Newid arall sy'n rhan o'r cynlluniau yw cynnal mwyafrif y gemau ar nos Wener yn hytrach na phrynhawn Sadwrn.
Bydd hyn yn dod i rym erbyn dechrau鈥檙 tymor nesaf, fel rhan o ymgais CBDC i ddenu cefnogwyr sy'n gwylio gemau Uwch Gynghrair Lloegr a'r Bencampwriaeth ar brynhawn Sadwrn.
Bydd mwy o gemau yn cael eu cynnal ar nosweithiau Gwener fesul tymor, cyn i'r newid ddod yn un parhaol erbyn 2026.
Dyma ymdrech gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru i foderneiddio鈥檙 gynghrair a helpu鈥檙 clybiau i weithredu mewn modd mwy proffesiynol.
Maen nhw hefyd yn gobeithio hawlio mwy o sylw drwy ddenu cefnogwyr i鈥檙 stadiymau ac i sicrhau fod mwy o bobol yn gwylio鈥檙 gemau sy鈥檔 cael eu darlledu.
Bydd 拢1m yn cael ei wario ar farchnata yn unig, heb son am filiwn arall i wella cyfleusterau.
Ond un peth amlwg sydd ar goll o鈥檙 datganiad - sawl clwb fydd yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru ar ei newydd wedd yn 2026/27?
Mae disgwyl i'r ffigwr fod yn uwch na鈥檙 12 sy鈥檔 cystadlu ar hyn o bryd ond bydd rhaid aros tan fis Medi cyn i ni cael gwybod yr union ffigwr.
Ar yr olwg gynta mae鈥檙 ymateb i鈥檙 syniad o chwarae gemau ar nos Wener yn gymysg i ddweud y lleia, gyda nifer yn gofyn sut y bydd chwaraewyr lled broffesiynol gyda swyddi eraill yn gallu cydbwyso gweithio a theithio i chwarae gemau ar ddyddiau Gwener.
Daw'r mesurau yn dilyn y newyddion fis Chwefror y byddai鈥檙 Cymru Premier yn derbyn hwb o 拢6m, y buddsoddiad mwyaf mae'r gynghrair wedi'i gweld ers iddi lansio yn 1992.
Bydd tua 拢1m yn cael ei fuddsoddi ar gyfer marchnata, ac mae鈥檙 gynghrair yn awyddus hefyd i ystyried y posibilrwydd o gyfleoedd darlledu newydd.
Fe fydd swm tebyg yn cael ei roi i bob clwb dros gyfnod o dair blynedd i gefnogi datblygiadau, ynghyd 芒 chynllun cymhorthdal ar gyfer rolau llawn amser fel rheolwyr cyffredinol.
Bydd rheolwyr datblygu el卯t yn cael eu cynnig gan CBDC, gyda鈥檙 bwriad o helpu clybiau i foderneiddio ac i fod yn fwy proffesiynol.
Fe fydd tua 拢1m yn cael ei roi ar gyfer datblygu cyfleusterau.
Daw'r newidiadau i rym yn dilyn cyfnod ymgynghori o ddwy flynedd gyda chlybiau a rhanddeiliaid, gyda phrif weithredwr CBDC Noel Mooney yn cyfaddef bod angen dangos 鈥測chydig o gariad鈥 at y gynghrair.
Bydd clybiau sy鈥檔 cymhwyso ar gyfer Ewrop hefyd yn cael eu cefnogi fel rhan o鈥檙 cynlluniau, gyda CBDC yn helpu i drefnu gemau cyfeillgar a chynnig cymorth gyda threfniadau fel teithio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd20 Chwefror