Cyhoeddi Neges Heddwch yr Urdd i'w rhannu gyda'r byd

Ffynhonnell y llun, Urdd

Disgrifiad o'r llun, Mae criw o fenywod ifanc wedi dod at ei gilydd i lunio鈥檙 Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni
  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd arbennig 大象传媒 Radio Cymru

Wrth ddathlu ymgyrch聽Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24, mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd eleni yn pwysleisio bod angen, ganrif yn ddiweddarach, galw o'r newydd am heddwch byd-eang.

Ar 么l y Rhyfel Byd Cyntaf roedd bron i 400,000聽o fenywod Cymru wedi llofnodi'r deiseb聽heddwch, ac ar 19 Chwefror 1924 agorwyd cist dderw Deiseb Heddwch Merched Cymru o flaen 600 o fenywod yr Unol Daleithiau yng Ngwesty'r Biltmore yn Efrog Newydd.

Galwodd deiseb menywod Cymru ar bobl dros y byd i gydweithio dros heddwch.

Mae'r neges honno wedi ysbrydoli鈥檙 Urdd i drefnu bod criw o fenywod ifanc yn dod at ei gilydd i lunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da y mudiad eleni.

Dydd Gwener bydd neges 鈥楪weithred yw Gobaith' yn cael ei chyhoeddi mewn 65 o ieithoedd,聽ac mae ffilm o'r neges hefyd wedi'i chreu gan yr animeiddwraig Efa Blosse-Mason.

Bydd yr Urdd hefyd yn cynnal digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, ble mae Deiseb Heddwch 1923-24 yn rhan o arddangosfa 鈥楬awlio Heddwch鈥 ar hyn o bryd.

Disgrifiad o'r llun, Mae Shatw Ali yn un o'r rhai wnaeth gyfrannu at y neges

Er mwyn creu'r neges, fe gynhaliwyd gweithdy arbennig i ferched o blith staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr yr Urdd, ynghyd 芒 merched sydd wedi symud yma a gwneud Cymru yn gartref newydd, ac yn astudio ar gwrs ESOL (dysgwyr Saesneg fel ail iaith) yng ngholeg Caerdydd a鈥檙 Fro.

Roedd teulu Shatw Ali wedi ffoi o Gwrdistan, ac mae hi yn un o'r rhai wnaeth gyfrannu at y neges.

Mae hi wedi byw yng Nghymru am bron i ddwy flynedd.

"Roedd fy mam arfer dweud y stori am sut y bu rhaid iddi hi a'i theulu ddianc oherwydd bod arfau cemegol yn cael eu gollwng ar y dref lle roedden nhw'n byw," meddai.

"Roedd y stori yn un o'r rhai mwya' trasig dwi 'di glywed yn fy mywyd."

Oherwydd profiad ei theulu mae Shatw yn dweud ei bod yn dal i gredu mewn heddwch ac yn obeithiol y bydd modd sicrhau heddwch byd-eang.

"Mae'r neges yn help i roi gobaith i bobl dros y byd bod heddwch yn bosib a'n bod ni yn meddwl amdanyn nhw," meddai.

"Mae Cymru wedi helpu fi i deimlo bod heddwch yn bosib ac mae cwrdd 芒'r menywod yma yn y gweithdy a dysgu am y ddeiseb heddwch wedi g'neud i fi deimlo yn hapus a diolchgar fy mod i'n byw yma."

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Dywed Casi Wyn fod "treulio amser yn pontio鈥檙 ddeiseb... gyda gweledigaeth merched Cymru heddiw yn ysbrydoledig"

Yn ystod y gweithdy bu鈥檙 merched yn s么n am eu profiadau o heddwch 鈥 a鈥檙 diffyg heddwch ynghynt ym mywydau ambell un, gan gynnwys rhai o Afghanistan, Sudan, Somalia a Bangladesh.

Dywed cyfarwyddwr creadigol y neges, Casi Wyn, fod "treulio amser yn pontio鈥檙 ddeiseb hanesyddol ysgrifennwyd yn 么l yn 1924, gyda gweledigaeth merched Cymru heddiw, yn ysbrydoledig".

Mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething wedi cefnogi'r neges eleni.

"Mae鈥檙 neges yn adlewyrchiad o uchelgeisiau pobl ifanc Cymru ac yn alwad i arweinwyr y byd i weithredu, gyda鈥檙 nod i anelu at ddyfodol gwell i bob un ohonom," meddai.

"Yn fwy nag erioed, rwy鈥檔 annog pawb i ymgysylltu 芒鈥檙 neges a helpu i sicrhau bod lleisiau ein pobl ifanc yn cael eu clywed ledled y byd.鈥