Etholiad Cymru 2016: Tai
- Cyhoeddwyd
Tai
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
Diddymu'r dreth stamp ar eiddo sydd werth hyd at 拢250,000 i rai sy'n prynu am y tro cyntaf
Gwarchod cynllun 'Hawl i Brynu' i denantiaid sydd eisiau prynu eu t欧 cyngor; ailgyflwyno'r gostyngiad llawn ac ailfuddsoddi'r enillion ar dai cymdeithasol newydd
Creu strategaeth cartrefi gwag
Cyflwyno cynllun 'Rhentu i Brynu' er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl fod yn berchen cartref.
Prif Addewidion:
Adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol
Creu cynllun Rhentu i Feddu ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf
Amddiffyn pobl fregus yn y sector tai preifat, gan gynnwys rhoi cap ar ffioedd asiantaethau gosod tai a'u hawl i gynyddu rhent
Creu cynllun Cymorth i Rentu i gynnig cefnogaeth i dalu am flaendal tenantiaeth i'r rhai sydd dan 30 ac yn rhentu am y tro cyntaf.
Prif addewidion:
Diddymu'r cynllun 'Hawl i Brynu'
Ceisio cefnogi adeiladu dros 6,000 o dai drwy gynllun 'Cymorth i Brynu'
Ariannu 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn y tymor nesaf
Ymchwilio i'r opsiynau i roi diwedd ar 'fancio tir'.
Prif addewidion:
Creu Fframwaith Ddatblygu Cenedlaethol a threfnu goruchwylio'i gweithredu gan Arolygiaeth
Parhau i wrthwynebu'r cynllun 'Hawl i Brynu' a gweithredu er mwyn sicrhau fod y stoc cartrefi cymdeithasol yn parhau'n gyflawn i ddiwallu'r angen am gartref
Dileu ff茂oedd asiantaethau rhentu ac ymestyn y prawf person-addas-a-phriodol i asiantaethau
Codi safonau amgylcheddol.
Prif addewidion:
Sicrhau bod tai cymunedol yn cyrraedd lefel 4 o'r C么d Cartrefi Cynaliadwy erbyn 2020
Sicrhau bod 12,000 o dai newydd ar gael bob blwyddyn, yn y lleoliadau cywir
Cyflwyno deddfwriaeth 'Hawl i Rentu' i gryfhau hawliau tenantiaid
Cyflwyno ad-daliad treth ystafell wely yng Nghymru.
Prif addewidion:
Annog datblygiad ar safleoedd ti llwyd
Cynnig refferenda lleol rhwymedig ar geisiadau cynllunio sy'n cael effaith sylweddol ar gymunedau lleol
Diddymu'r angen i awdurdodau lleol gadw lleiafswm o dai
Rhyddhau safleoedd sy'n berchen i'r llywodraeth ac sydd heb eu defnyddio am gyfnod hir er mwyn galluogi datblygiadau fforddiadwy.