大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

15 October 2014
WW2 - People's War

大象传媒 Homepage
大象传媒 History
WW2 People's War Homepage Archive List Timeline About This Site

Contact Us

You are browsing in:
Contributed by听
WRVS Volunteers in Carmarthen and surrounding area, South West Wales
People in story:听
Verian a'i deulu
Location of story:听
Ardal Twffton Sir Benfro
Article ID:听
A4291076
Contributed on:听
28 June 2005

Cofiaf yn dda amser y dogni, doedd na ddim digon o fwyd i fwydo'r boblogaeth,daeth llyfrau bach llwyd yn llawn cwpons i'r ty ag o rhain roedden fod i gael ein holl fwyd ond gan ein bod yn byw yng nghanol y wlad doedd pethau ddim eitha cyn waeled arnon ni a oedd hi ar drigolion y trefi mawr diwidiannol de Cymru.
Roedd gennym ardd ag wrth gwrs yn y dyddiau hynny nid blodau a dyfasom ond tatws, bresych, erfin a moron.Tyfai nhad ddigon a datws i'n cadw am flwyddyn a ni theimlon ni fawr o eisiau. Ar y cloddiau tyfai llwynni gwsberis a cyrants ag yng nghornel yr ardd roedd tyfiant mawr o riwbob.Gan bod dair buwch gan fy nhadcu ni fuon heb laeth na menyn trwy adeg y rhyfel.Bu 'r tair buwch yn dipyn o ben tost i nhad gan doedd fy nhadcu ddim yn or ofalus lle'r oedden nhw yn pori ag yn aml bu rhaid iddo ei hel yn ol o dir cymydog.Cofiaf yn dda am ddiwrnod cordd9dyna air sydd wedi diflannu o'n geirfa bellach- gwneud menyn gartef)Roedd y llaeth ar hufen yn cael eu gwahanu gyda peiriant, seperator galwyd e ag yna bydde'r hufen yn cael ei ddodi mewn fydde ag yna byddai fy nhadcu yn troi y fidde tan bod yr hufen yn troi yn fenyn dyma'r menyn mwyaf blasus gefais erioed, weithiau os fyddai y fuwch wedi cael llo a digon o laeth a hufen ar gael gwnaed mey o fenyn nag oedd eisiau ag yna byddai y gweddill yn cael ei rannu rhwnh ffrindiau neu hyd yn oed ei werthu.Unwaith y flwddyn byddai'n ddiwrnod lladd mochyn, dyma'r cig fyddai gyda ni am weddill y flwyddyn

Copyright of content contributed to this Archive rests with the author. Find out how you can use this.

Archive List

This story has been placed in the following categories.

icon for Story with photoStory with photo

Most of the content on this site is created by our users, who are members of the public. The views expressed are theirs and unless specifically stated are not those of the 大象传媒. The 大象传媒 is not responsible for the content of any external sites referenced. In the event that you consider anything on this page to be in breach of the site's House Rules, please click here. For any other comments, please Contact Us.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy