|
|
|
| | © trwy garedigrwydd Prifysgol Cymru |
| | |
|
|
Y Chwiorydd Davies yn prynu - gobeithion a breuddwydion
Ehangodd y Chwiorydd Davies Gregynog i letya'r rhai oedd yn ymweld â chynadleddau trwy ychwanegu ystafelloedd gwely newydd ac addurno'r ty â darnau o gartrefi eraill y teulu a dodrefn a wnaed gan lowyr di waith yng nghymuned Bryn-Mawr, ym maes glo y de. Cynhyrchodd gwragedd y glowyr wniadwaith rhyngles Celtaidd wedi ei frodio ar gyfer clustogau yn y ty. I ddarparu ar gyfer cyngherddau a pherfformiadau, ehangodd y Chwiorydd yr hen ystafell biliards gan osod organ bib fechan yno i greu ystafell gerdd lle gallai 230 eistedd yn y gynulleidfa.
Dechreuodd y cynadleddau yn 1921, a'r ty yn croesawu enciliadau cerddorol ar gyfer myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a chyfarfodydd blynyddol Ysgol Gymraeg y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd Gregynog yn fan pwysig fel canolfan gynadledda yng Nghymru rhwng y rhyfeloedd gan nad oedd cyfleusterau priodol yng Nghymru cyn hynny, ac yn y Cyfnod Fictoraidd byddai unrhyw gyfarfod o bwys yn cael ei gynnal yn Llundain. Cynhaliwyd un o nifer o ddigwyddiadau nodedig yno yn 1937 pan wahoddwyd Sir John Reith i drafod dyfodol darlledu yng Nghymru.
Y Teulu Davies
© trwy garedigrwydd Prifysgol Cymru
|
Roedd Gwendolyn a Margaret yn chwiorydd i'r Arglwydd David Davies, a oedd yn flaenllaw ym myd gwleidyddiaeth Cymru, gan wasanaethu fel AS dros Sir Drefaldwyn rhwng 1906 a 1929, ac yn gyfaill agos i Lloyd George - yr unig Brif Weinidog Prydeinig i gael ei eni yng Nghymru. Etifeddodd y teulu Davies eu cyfoeth sylweddol gan eu taid, David Davies Llandinam neu 'Davies the Ocean', y diwydiannwr blaenllaw a wnaeth ei ffortiwn trwy adeiladu llawer o reilffyrdd, porthladd sylweddol yn Y Barri yn ne Cymru, yn ogystal â chreu'r Cwmni Glo Ocean.
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Arglwydd Davies a'i chwiorydd yn gefnogwyr brwd i Gynghrair y Cenhedloedd, rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig. Aethant ati i godi Teml Heddwch ac Iechyd ym Mharc Cathays, Caerdydd, a ddatblygodd yn ganolfan i ddwy gymdeithas Gymraeg, 'Edward VII Welsh National Memorial Society' a Chynghrair y Cenhedloedd Cenedlaethol Cymreig. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Gwendolyn a Margaret yn rhedeg cantinau i'r milwyr yn Ffrainc, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd Gregynog fel cartref gwella y Groes Goch.
Cliciwch yma i weld clip am y chwiorydd Davies a'u cartref o'r rhaglen 'Treasure House' ar 大象传媒 Cymru.
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|