|
|
|
| | | |
Cyflwyniad i bentref Portmeirion, a'r pensaer Syr Clough Williams-Ellis |
|
Lleoliad, lleoliad, lleoliad…
© LFI
|
Mae nifer o bobl enwog wedi ymweld â Portmeirion yn cynnwys Noel Coward, a ysgrifennodd y ddrama 'Blithe Spirit' yno ym Mis Mai 1941. Ymwelodd y pensaer Frank Lloyd Wright ym 1956 fel rhan o'i unig ymweliad â chartref ei gyndadau, Cymru. Ym 1966, perswadiodd Patrick McGoohan, y grym y tu ôl i'r gyfres 'The Prisoner', Williams-Ellis i ganiatàu iddo ffilmio yno. Ers hynny mae'r rhaglen wedi dod yn glasur teledu cwlt wedi ei dangos mewn dros 60 o wledydd, gan ddod â sylw i'r lleoliad o bedwar ban byd.
Patrick McGoohan oedd y seren a gymrodd ran y cymeriad canolog, 'Number Six': ysbïwr gâi ei ddal ymhlith pobl wedi eu cyflyru a'u cadw'n gaeth gan gyfundrefn ddirgel. Wrth rifau yn unig y câi y carcharorion eu hadnabod ac fe gaent eu cadw mewn trefn gan falwns anferth fyddai'n eu mogi petaen nhw'n ceisio dianc. Roedd Portmeirion yn gefnlen arbennig o addas ar gyfer y rhaglen swrrealaidd hon - cydnabu Williams-Ellis bod y gyfres yn dangos Portmeirion ar ei orau.
Cafodd statws cwlt y rhaglen ei gadarnhau gan sefydlu Cymdeithas Gwerthfawrogi'r Prisoner yn y 1970au. Roedd y lleoliad hefyd wedi cynnig ei hun fel cefnlen i'r stori yn y gyfres Dr Who, 'Masque of Mandragora,' ym 1976.
Teledu heddiw
Yn fwy diweddar, ym mhennod olaf cyfres ddrama ITV, 'Cold Feet', ymwelodd y cymeriadau â Portmeirion er mwyn gwasgaru llwch y cymeriad Rachel Bradley (a chwaraewyd gan Helen Baxendale), a oedd wedi mwynhau adegau rhamantus yno gyda'i phartner Adam (James Nesbitt). Mae'r gyrchfan hefyd yn le poblogaidd i briodi - daeth y pentref i'r penawdau y gwanwyn hwn wrth i Brian Capron - y llofrudd yn y gyfres Coronation Street, Richard Hillman - briodi ei gariad tymor hir yno ym Mis Mehefin 2003.
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|