| |
|
|
|
| | | |
Gwlad gobaith, nid llawnder |
|
Pam America
© Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion | Ystyriwyd America gan nifer fel y ‘Wlad Sanctaidd’, gwlad rhyddid crefyddol a chyfleon gwych. Yn aml ystyrir William Penn (1644-1718) fel sefydlwr trefedigaethau’r Crynwyr yn America.
Teithiodd yno yn 1681 er mwyn adeiladu Barwniaeth Gymreig, a oedd i fod yn drefedigaeth i’r Crynwyr lle roedd pobl yn byw yn ôl rheolau’r Crynwyr, yn siarad Cymraeg ac, yn gyffredinol, yn byw fel y bydden nhw wedi hoffi ei wneud yng Nghymru petaen nhw wedi cael rhwydd hynt i wneud hynny.
Roedd prosiect y Crynwyr yn cynnwys dealltwriaeth llafar gyda William Penn a Chymdeithas y Cyfeillion bod 40,000 erw o dir yn y rhan de-orllewinol o’r hyn y daethpwyd i’w adnabod yn ddiweddarach fel Pennsylvania (mae rhai ffynonellau yn dweud 30,000) i’w neilltuo fel y Farwniaeth hon. Yn anffodus chafodd y cytundeb hwn ‘mo’i roi ar bapur ac yn ddiweddarach fe drôdd yn ffynhonnell dadl chwyrn rhwng Penn a’r Crynwyr Cymreig. Er gwaetha’r chwerwder hwn datblygodd Pennsylvania yn atyniad i Grynwyr a chrefyddau anghydffurfiol eraill e.e. y Bedyddwyr.
A yw Pennsylvania wedi ei enwi ar ôl William Penn? ‘Pen’ yw’r gair Cymraeg am ‘goetiroedd uchel neu ar benrhyn’. Mae Penn yn hawlio, mewn llythyr i Robert Turner, ei fod wedi bwriadu ei alw’n Gymru Newydd ond roedd yr ysgrifennydd, a oedd yn Gymro, yn gwrthwynebu. Felly fe ddaeth yn Pennsylvania, yn golygu pen neu fryn. Y pwynt diddorol am y stori hon yw bod ‘pen’ yn y Gymraeg wedi ei sillafu ag un n, ond bod dwy n yng nghyfenw Penn, fel yn yr enw newydd am y sir. |
| Mae nifer o fythau sy’n bodoli ers amser maith yn ymwneud â chysylltiadau rhwng America a Chymru. Un stori a gafodd ei hadfywio yn y 1790au oedd stori’r Madogiad; hanes y tywysog Cymreig, Madog, a ddarganfu America yn 1170, ac a fu’n byw ynghanol, a phriodi i mewn i, dylwyth yr Indiaid brodorol. Mae’r chwedl yn canolbwyntio ar lwyth o Indiaid croen olau oedd yn medru’r Gymraeg, - llwyth roedd llawer o bobl yn dymuno’u darganfod.
Roedd Morgan John Rhys, Crynwr o Forgannwg, a sefydlodd Beulah, yn credu’r stori hon ac fe roddodd gyhoeddusrwydd i’w obeithion y byddai Cymry’n dod i America, o dan ei nawdd ef, i bregethu ac i drawsnewid mwy o lwythi Indiaidd. © Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion |
Fe ddaethon nhw o Lanbrynmair
“O’r bobl gafodd eu geni yn Llanbrynmair yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, erbyn hyn mae mwy ohonyn nhw’n byw yn America nag yn Llanbrynmair”
Y Parch Samuel Roberts, oedd yn byw yn America, a ddywedodd hyn yn 1857, 50 mlynedd ar ôl i’r fintai gyntaf o ymfudwyr Cymreig cyntaf adael Llanbrynmair.
Roedd y grŵp yn cynnwys Ezekiel Hughes ac Edward Bebb, George a Jane Roberts a chyfeillion a theulu o Lanbrynmair.
Roedd effaith eu hymfudo ar Lanbrynmair yn ddramatig. Er bod y nifer o ymfudwyr yn gymharol isel, dim ond bychan iawn oedd poblogaeth Cymru, felly roedd unrhyw golled yn y niferoedd yn cael ei cryn effaith; cyn y 18ed Ganrif roedd poblogaeth y wlad mor isel â 0.5 miliwn. Roedd ymfudiad y Crynwyr o Ganolbarth Cymru mor drylwyr a dramatig nes bod y sect, fwy neu lai, wedi diflannu erbyn canol y 19eg Ganrif.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|