|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Cantre'r Gwaelod - Tir Coll Cymru |
 |
 © Roy Carpenter | Mae sawl fersiwn o'r un stori mewn bodolaeth i egluro sut y daeth yr ardal hon i gael ei hawlio gan y môr. Tan tua'r 17eg Ganrif, enwyd y tir coll yn 'Maes Gwyddno'. Mae'r chwedl gynnar hon yn adrodd i'r tir gael ei foddi pan ganiataodd offeiriades ffynnon y tylwyth teg i'r dðr orlifo.
Ond mae'r chwedl sy'n gyfarwydd heddiw yn galw'r tir yn Cantre'r Gwaelod, - yn ymestyn rhyw 20 milltir i'r gorllewin o'r arfordir presennol i mewn i'r hyn a elwir heddiw yn Fae Ceredigion, a châi ei reoli fel rhan o Deyrnas Meirionydd gan Gwyddno Garanhir, a anwyd tua 520 OC.
Dywedir bod y tir hwn yn hynod ffrwythlon, gymaint felly nes yr ystyriwyd un erw yma yn werth pedair erw yn unrhyw le arall. Y broblem oedd bod y tir yn dibynnu ar forglawdd i'w amddiffyn rhag y môr. Roedd llifddorau yn y morglawdd a gâi eu hagor ar lanw isel i ddraenio dwr o'r tir, a’u cau wrth i'r llanw godi.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|