大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Orllewin Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Orllewin Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Work
Creithiau'r Streic Fawr - 100 mlynedd yn ddiweddarach...



Cyngerdd Pesda Roc
Roedd Cyngerdd Pesda Roc, a lwyfannwyd ym Methesda, yn ddathliad i nodi canmlwyddiant y streic.
© 大象传媒

Yn gynharach yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd grwpiau lleol ym Methesda cyfres o ddigwyddiadau i goffau'r streic, sydd wedi gwneud y gymuned yn le pererindod ar gyfer undebwyr llafur, a'i gwneud yn ddelwedd eiconig o hanes diwydiannol a chymdeithasol Cymreig.

Roedd yna gyngherddau corau meibion, perfformiadau ysgolion, darlleniadau a darlithoedd hanesyddol. Y cyweirnod oedd yr angen i gofio ond hefyd i faddau. Dyfynnwyd geiriau'r awdur Ernest Roberts, hanesydd y streic, "Yr unig beth y gallwn ei wneud heddiw yw edmygu'r rhai a lwyddodd i ddal tan y diwedd, ond rhaid i ni beidio â chondemnio'r rhai a fethodd wneud hynny."

Y plac llechen sy’n coffau streic 1900 – 03
© 大象传媒
Roed yna symbolaeth gref o'r awydd i iachau clwyfau hanes wrth i berchnogion presennol chwarel y Penrhyn, cwmni adeiladu McAlpine, dalu am blac llechen i goffau'r streic, a gafodd ei dadorchuddio fel rhan o'r dathliadau coffau. Fe dalodd y cwmni hefyd am yr arysgrif ar y llechen gab y Prifardd Ieuan Wyn, sy'n darllen:

"Yn dlawd ac mewn dyledion - aeth ystyr

I Fethesda'r galon,

A byw yw co'r henfro hon

O'r helynt a'r treialon".



Words: Grahame Davies

Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4, 5 ]


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Wiltshire
Hospital ward
Related Stories
The New Hartley mining disaster
The Tate & Lyle girls
Buckley's Potteries and Patter




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy