大象传媒

Audiences at the heart of 大象传媒 Wales’s programmes and services during Coronavirus crisis

During these unprecedented times, 大象传媒 Cymru Wales has today laid out how it is responding to the changing needs of audiences during the Coronavirus crisis.

Published: 20 March 2020
These are challenging times in communities right across Wales and our commitment is to be there for everybody.
— Rhodri Talfan Davies

Rhodri Talfan Davies, Director 大象传媒 Wales, says: “These are challenging times in communities right across Wales and our commitment is to be there for everybody.

“We’ll ensure everybody gets the up-to-date information they so urgently need, we’ll offer a helping hand to thousands of listeners across our radio services and we’ll lift spirits too.

“Recent days have tested us all but the resilience and professionalism of our teams has been remarkable, and I know audiences appreciate their efforts to keep them connected and up to date”.

Public interest in the unfolding story is unprecedented. 大象传媒 Wales’ news online service saw 1.3m unique visitors yesterday alone. And so far this week, three quarters of a million viewers have tuned into 大象传媒 Wales Today each day across the three main bulletins.

As well as maintaining our vital news services across radio, television and online - drawing on our extensive specialist correspondent teams - 大象传媒 Wales has announced a raft of editorial changes to respond to the crisis.

  • From Monday, one of the nation’s favourite presenters, Owen Money, will launch a new Golden Hour programme at 10am on 大象传媒 Radio Wales - an hour of non-stop feel-good classics. Broadcasting from home, Owen will bring his inimitable warmth and humour to the daily schedule
  • Wynne Evans’s show is also launching a brand new strand next week on 大象传媒 Radio Wales - The Generation Gap - to connect grandchildren and grandparents who are cut off during the crisis. It’ll use a quiz format to bring families together at such a difficult time
  • From today, Post Cyntaf on 大象传媒 Radio Cymru will be extended to 9am in order to include an audience phone-in for the first time, giving listeners an opportunity to ask their questions to a panel of experts
  • Also on 大象传媒 Radio Cymru, Aled Hughes’s programme will have a new daily slot to celebrate the efforts of the volunteers who are going the extra mile in our communities. And the Bore Cothi programme will create a new over 70s club to unite those who are either self-isolating or social distancing
  • Both stations will be maintaining their commitment to religious programming, using Skype to enable religious and humanist celebrants to hold virtual faith gatherings
  • Both stations are also planning to work in partnership with the Horizons music project to broadcast live music sessions from artists’ front rooms
  • 大象传媒 iPlayer will see a new, special collection of 大象传媒 Wales programmes from across the years - a treasure trove of comedy, great sporting moments, entertainment and music programmes that give us all the chance to escape the headlines for a moment and enjoy
  • Tomorrow, the 大象传媒 Wales Learning team will be publishing an article for parents and children in Wales outlining how to navigate Bitesize for Wales-specific content alongside the wealth of other content there. And in the days to come there will be additional content to help parents ensure that their children can continue to learn whilst at home
  • The 大象传媒 Wales Investigates team - all working from home - are busy working on a unique project to capture the personal stories of the Coronavirus pandemic, deploying cameras to families across Wales
  • Across both our national stations, we’re planning a brand new Listening Project - to connect communities and families across Wales, and to provide a lasting archive of the stories at the heart of the crisis
  • 大象传媒 Sesh will play its part too - reflecting the impact that coronavirus is having on young people. There’ll be articles and blogs written by contributors with conditions such as OCD, anxiety and cerebral palsy, who’ll describe the effect it’s having on their lives - as well as helpful tips

GE

Cynulleidfaoedd wrth galon gwasanaethau a rhaglenni 大象传媒 Cymru yn ystod argyfwng y Coronafeirws

Yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, mae 大象传媒 Cymru Wales wedi gosod allan sut y bydd yn ymateb i anghenion newydd cynulleidfaoedd yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru: “Ry’n ni mewn cyfnod heriol i gymunedau ar hyd a lled Cymru a’n ymrwymiad ni yw i fod yno i bawb.

“Y flaenoriaeth yw sicrhau fod pawb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a hynny ar fyrder. Byddwn hefyd yn cynnig help llaw i filoedd o wrandawyr ar draws ein gwasanaethau radio ac yn codi’r ysbryd hefyd.

“Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn her i ni gyd ond mae gwydnwch a phroffesiynoldeb ein timau wedi bod yn anhygoel, a dwi’n gwybod fod cynulleidfaoedd yn gwerthfawrogi yr ymdrechion i’w diweddaru.”

Mae diddordeb mawr yn y stori yma sy’n newid yn barhaus. Gwelodd wasanaeth newyddion 大象传媒 News Online 1.3m o borwyr unigol yn ymweld â’r safle ddoe. Ac ar gyfartaledd yr wythnos hon, mae oddeutu tri chwarter miliwn wedi gwylio 大象传媒 Wales Today bob dydd dros y dair prif raglen.

Yn ogystal â chynnal ein gwasanaethau newyddion hollbwysig ar draws radio, teledu ac arlein – gan elwa o’n timau o ohebwyr arbennig - mae 大象传媒 Cymru wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau golygyddol eraill i ymateb i’r argyfwng.

  • O ddydd Llun, bydd un o hoff gyflwynwyr y genedl, Owen Money, yn lansio rhaglen Golden Hour newydd am 10am ar 大象传媒 Radio Wales - awr o glasuron di-stop i godi’r hwyliau. Gan ddarlledu o’i lolfa, bydd Owen yn dod â’i gynhesrwydd a hiwmor digyffelyb i’r amserlen ddyddiol
  • Mae rhaglen Wynne Evans hefyd yn lansio eitem newydd wythnos nesaf ar 大象传媒 Radio Wales - The Generation Gap - i gysylltu wyrion â theidiau a neiniau sydd methu gweld ei gilydd yn ystod yr argyfwng. Gan ddefnyddio fformat cwis, bydd yr eitem yn dod â theuluoedd at ei gilydd yn ystod yr amser anodd hwn
  • Yn cychwyn heddiw (Dydd Gwener), bydd y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru yn ymestyn i 9am er mwyn cynnwys y cyfle i wrandawyr ffonio i ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr
  • Hefyd ar 大象传媒 Radio Cymru, bydd rhaglen Aled Hughes yn cynnwys slot ddyddiol newydd i ddathlu ymdrechion y gwirfoddolwyr hynny sy’n mynd i’r eithaf yn ein cymunedau. A bydd rhaglen Bore Cothi yn creu clwb newydd i bobl dros 70 er mwyn uno’r rheiny sydd yn hunan ynysu neu’n ymbellhau yn gymdeithasol
  • Bydd y ddwy orsaf yn cynnal eu ymrwymiad i raglenni crefyddol, gan ganiatáu i ddilynwyr crefyddol a dyneiddiol gyfarfod gan ddefnyddio Skype
  • Mae’r ddwy orsaf hefyd yn cynllunio i gyd-weithio gyda phrosiect cerddoriaeth Gorwelion i ddarlledu sesiynau cerddoriaeth yn fyw o ystafelloedd fyw'r artistiaid
  • Bydd casgliad newydd arbennig o raglenni 大象传媒 Cymru o’r gorffennol yn cael eu rhoi ar 大象传媒 iPlayer - rhaglenni comedi, digwyddiadau arbennig o fyd y campau, rhaglenni adloniant a cherddoriaeth fydd oll yn rhoi’r cyfle i osgoi’r penawdau am eiliad a mwynhau
  • Yfory, bydd Adran Addysg 大象传媒 Cymru yn cyhoeddi erthygl ar gyfer rhieni a phlant yng Nghymru ar sut i ddefnyddio Bitesize ar gyfer cynnwys sydd yn benodol i Gymru ynghyd â chyfoeth o gynnwys arall. Ac yn y diwrnodau sydd i ddod bydd yna cynnwys ychwanegol i helpu rhieni sicrhau fod eu plant yn gallu parhau i ddysgu tra’u bod adref
  • Mae tîm 大象传媒 Wales Investigates - oll yn gweithio adref - yn gweithio ar brosiect unigryw i gasglu'r straeon personol o’r pandemig Coronafeirws, gan ddarparu camerâu i deuluoedd ar draws Cymru
  • Ar draws y ddwy wasanaeth cenedlaethol, rydym yn cynllunio Prosiect Gwrando newydd - i gysylltu cymunedau a theuluoedd o ar draws Cymru ac i ddarparu archif parhaol o’r straeon sydd wrth galon yr argyfwng
  • Bydd 大象传媒 Sesh yn chwarae rhan hefyd - gan adlewyrchu’r effaith mae’r coronafeirws yn cael ar bobl ifanc. Bydd cyfranwyr sydd â chyflyrau megis OCD, gorbryder a pharlys yr ymennydd yn ysgrifennu erthyglau a blogiau i ddisgrifio'r effaith a geir ar eu bywydau - yn ogystal â tips defnyddiol

GE