Main content

Cipolwg ar y Cyfnod Clo

Er nad ydym ni wedi gallu perfformio mewn neuaddau cyngerdd yn ystod y cyfnod hwn, mae ein hofferynwyr wedi bod yn brysur yn recordio amrywiaeth o gynnwys o’u cartrefi i chi gael eu mwynhau!

Rydyn ni wedi bod yn rhannu fideos o’r gerddorfa gyfan a darnau i ensembles llai i ddathlu achlysuron fel Diwrnod Arwyr Cymru, Diwrnod Bastille a Heuldro'r Haf. Rydyn ni hefyd wedi bod yn dysgu pa mor dda mae'r offerynwyr yn adnabod eu cyd-aelodau yn eu hadrannau drwy’r ‘Holiadur Ti a Fi’, yn ogystal â chael cip ar eu bagiau gigio, a chael cyngor ganddyn nhw yn ein cyfres ‘Cyngor Cerddorol’.

Perfformiadau 大象传媒 NOW yn ystod y Cyfnod Clo

Efallai eich bod chi wedi meddwl y byddai methu gallu perfformio gyda’i gilydd yn y cnawd wedi stopio cerddorfa rhag perfformio, ond nid 大象传媒 NOW. Mae rhai o’n hoff berfformiadau ni i’w gweld isod, ac mae mwy ar waelod y dudalen.

Beth sydd yn fy mag gigio?

Mae bag gigio cerddor yn llawn pob math o drugareddau ac offer diddorol. Yn y gyfres hon yn ystod y cyfnod clo, cafodd y gynulleidfa fynd y tu ôl i’r llenni i weld rhywbeth nad oes unrhyw un wedi’i weld o’r blaen!

Holiadur Ti a Fi

Maen nhw’n perfformio mewn cyngherddau gyda’i gilydd drwy’r amser... ond pa mor dda mae cerddorion 大象传媒 NOW yn adnabod ei gilydd?

Yn ystod y cyfnod clo, roedden ni eisiau helpu ein cynulleidfaoedd gwych i ddod i adnabod ein cerddorion ychydig yn well - a pha ffordd well o wneud hynny na chael cwis bach tafod yn y boch?

Cyngor Cerddorol

Dyma rai o’n hoff Gynghorion Cerddorol o'r gyfres lle mae ein cerddorion talentog yn rhannu gwersi gwerthfawr maen nhw wedi’u dysgu dros y blynyddoedd.

The Solo Slot

Croeso i The Solo Slot, ein cyfres sy’n rhoi llwyfan i’n cerddorion fel unawdwyr ac yn rhoi’r cyfle i chi glywed y seiniau unigol sy’n creu ein Cerddorfa wych!

Cipolwg ar y Cerddor

Mae Cerddorion 大象传媒 NOW yn bobl ddifyr dros ben! Yn ein cyfres Instrumental Insights, rydyn ni wedi dysgu llawer am yrfaoedd ein cerddorion, eu hoff atgofion cerddorol a’r hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfyngiadau symud.

Mwy o Berfformiadau'r Cyfnod Clo

Os nad yw’r perfformiadau ar frig y dudalen wedi bod yn ddigon o adloniant cerddorol i chi, dyma fwy!