Cystadlaethau Radio Cymru 2
Hysbysiad Preifatrwydd Cystadlaethau Radio Cymru 2
Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y 大象传媒 wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydyn ni’n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae cynulleidfaoedd wrth galon popeth a wnawn yn y 大象传媒. Rydym yn ymroi i ymgysylltu â’n cynulleidfa ac yn gofyn iddi gymryd rhan a chyfrannu mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys drwy gystadlaethau SMS.
Bydd gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn cael ei hegluro ar yr awyr neu ar-lein, gan gynnwys y rheolau sy’n berthnasol i gystadlaethau SMS penodol. Fel arfer, gofynnir i chi gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth drwy SMS, a bydd gweddill y broses yn cael ei chynnal dros y ffôn.
Os byddwch chi’n ymddangos ar yr awyr, gall hyn olygu bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio’ch cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol.
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio eich ymddangosiad ar yr awyr (os yw’n berthnasol) at ddibenion hyrwyddo ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y 大象传媒.
Pa ddata personol fydd y 大象传媒 yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?
Bydd y 大象传媒 yn casglu ac yn prosesu eich data personol er mwyn gweinyddu’r gystadleuaeth SMS; er mwyn cadw cofnod o’r enillwyr at ddibenion cydymffurfio ac archwilio; er mwyn creu cynnwys darlledu; ac er mwyn rhoi’r wobr i’r enillydd.
Data personol:
Gan ddibynnu ar natur y gystadleuaeth, efallai y bydd y 大象传媒 yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:
• Enw llawn
• Rhif ffôn
• Lleoliad
• Eich oedran, neu gadarnhad eich bod yn ddigon hen i gymryd rhan
• Recordiad a ddarlledir o’ch llais
• Eich barn, eich atebion i’n cwestiynau a gwybodaeth fywgraffyddol y dymunwch ei rhannu
Efallai y byddwn hefyd yn casglu eich cyfeiriad e-bost neu eich cyfeiriad post os ydych chi’n enillydd er mwyn i ni allu anfon eich gwobr atoch.
Pwy yw’r Rheolydd Data?
Y 大象传媒 yw “rheolydd data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r 大象传媒 fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y 大象传媒 gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, ac i ddangos ei fod yn cydymffurfio â hi.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol
Sail gyfreithlon y 大象传媒 ar gyfer prosesu data personol yw ei fod yn gwneud hynny er mwyn cyflawni ei rôl gyhoeddus.鈥疪ôl y 大象传媒 yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
Mae gennym hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i brosesu data personol yr enillwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cystadlaethau perthnasol.
Rhannu eich data personol
Mae’r 大象传媒 yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Mae’r partneriaid hyn yn defnyddio’ch data personol ar ran y 大象传媒 yn unig, ac nid yn annibynnol ar y 大象传媒. Rydym yn defnyddio llwyfan teleffoni trydydd parti i brosesu negeseuon SMS.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.
Cadw eich data personol
Bydd data personol sy’n cael ei storio ar y system SMS yn cael ei gadw am ddwy (2) flynedd.
Bydd data personol arall gan ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael ei gadw am 6 mis.
Rydym yn cadw cofnodion o enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.
Os byddwch yn ymddangos ar ddarllediad, bydd y rhaglen yn cael ei chadw a’i harchifo am byth gan y 大象传媒.
Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:
• Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r 大象传媒 yn ei storio amdanoch chi.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i’r data personol rydyn ni’n ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r 大象传媒 wrthod eich cais.
• Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych chi hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.
Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y 大象传媒 yn http://www.bbc.co.uk/privacy.
Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r 大象传媒 wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) .
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydyn ni’n defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.
Telerau ac Amodau Cystadleuaeth SMS Radio Cymru 2
Pwy sy’n gymwys
1. Mae mynediad yn agored i holl breswylwyr y DU (gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) sy’n 18 oed neu’n h欧n, ac eithrio gweithwyr y 大象传媒 neu rai o’i gwmnïau cysylltiedig a’u perthnasau agos neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth. Gellir gofyn am gadarnhad o hunaniaeth a chymhwysedd yn ogystal ag oedran lle mae isafswm oedran wedi’i fynegi fel un o ofynion y wobr neu unrhyw elfen arall o’r gystadleuaeth.
Sut mae rhoi cynnig arni?
2. Bydd gwrandawyr yn cael cynnig prawf sgiliau, fel arfer cwestiwn i'w ateb. Bydd yr amseroedd agor a chau yn cael eu cyhoeddi’n glir ar yr awyr ac ar-lein o bosibl os yw hynny’n briodol. Gwrandewch yn ofalus ar gyhoeddiadau. Gallai’r amser agored gael ei nodi ar yr awyr gan sbardun (e.e. cân/clacson), os felly, bydd hyn yn cael ei ddisgrifio’n glir ar yr awyr, ac ar-lein o bosibl, cyn i’r gystadleuaeth agor.
3. Gallwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth drwy anfon neges destun i 67500 yn nodi eich ateb yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac yna eich enw. Codir y gyfradd safonol am negeseuon testun a chânt eu capio ar un cofnod fesul rhif ffôn. Ni fydd unrhyw gofnodion ychwanegol yn cael eu cyfrif, ond codir tâl arnoch o hyd. Holwch ddarparwr eich rhwydwaith am yr union gostau. Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn cynnwys yr wybodaeth uchod yn cael eu hystyried yn geisiadau dilys ar gyfer y gystadleuaeth hon. Ni dderbynnir unrhyw ddull arall o gystadlu. Dim ond un cais a ganiateir i bob gwrandäwr ym mhob rownd o’r gystadleuaeth.
4. Bydd y cyflwynydd yn cyhoeddi pryd bydd y llinellau ffôn ar agor i gofrestru. Bydd enw, lleoliad a rhif cyswllt pob galwr yn cael eu nodi. Gofynnir i ymgeiswyr hefyd gadarnhau eu bod dros 18 oed. Bydd y llinellau ar agor am oddeutu 2 awr ond mae hyn yn amodol ar newid golygyddol felly gwrandewch yn ofalus gan y bydd hyn yn cael ei gyhoeddi ar yr awyr.
5. Pan fydd y llinellau’n cau, bydd yr ymgeisydd yn cael ei ddewis gan system annibynnol dewis enw ar hap. Bydd tîm cynhyrchu’r 大象传媒 yn ffonio’r enillydd i sicrhau ei fod yn gymwys i ennill y wobr. Os nad yw’r ymgeisydd yn codi’r ffôn ar ôl ymdrechion rhesymol, os yw’r ymgeisydd ar y rhestr fer yn ddigywilydd neu’n sarhaus, neu os nad yw’r ymgeisydd yn gymwys i ennill y wobr, mae’r 大象传媒 yn cadw’r hawl i wahardd yr ymgeisydd a chysylltu â’r ymgeisydd cymwys nesaf a ddewiswyd ar hap a bydd y broses ddethol yn dechrau eto, bydd hyn yn parhau nes bydd y wobr yn cael ei hennill. Unwaith y bydd yr enillydd wedi’i gadarnhau, bydd ei enw cyntaf a’i leoliad yn cael eu cyhoeddi ar yr awyr.
6. Gall y gystadleuaeth fod yn ddyddiol, yn wythnosol neu unwaith yn unig – bydd hyn yn cael ei ddisgrifio’n glir ar yr awyr ac ar-lein o bosibl. Dim ond yn ystod yr amseroedd a gyhoeddwyd ar yr awyr y mae’r gystadleuaeth ar agor. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir y tu allan i’r amseroedd hyn yn cael eu cofrestru. Ni fydd unrhyw gofnodion y tu allan i’r ffenestr ymgeisio yn cael eu cyfrif.
7. Rhaid i'r ffôn yr anfonir y neges destun ohono yn y broses gofrestru fod yn ffôn i'r ymgeisydd. Rhaid i’r ymgeisydd fod yn ymgeisio ar ei ran ei hun. Mae’r 大象传媒 yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw ymgeisydd nad oedd wedi cofrestru gan ddefnyddio ei ffôn ei hun, a atebodd alwad i ffôn rywun arall neu sydd â rhywun arall yn ateb ei ffôn ar ei ran. Ar ben hynny, mae’r 大象传媒 yn cadw’r hawl i wahardd ymgeisydd os bydd yn canfod bod yr wybodaeth yn y cofnod testun yn anghywir.
Gwobr
8. Mae’r wobr fel y caiff ei disgrifio ar yr awyr gan y 大象传媒 ac mewn rhai achosion ar y tudalennau gwe cyfatebol lle bo hynny’n berthnasol.
9. Ni fydd elfen, ffioedd na threuliau ychwanegol yn cael eu cynnig oni bai eu bod yn cael eu disgrifio fel rhan o’r wobr.
10. Nid oes unrhyw opsiwn ariannol yn lle’r wobr ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Ni all yr enillydd gopïo, atgynhyrchu na dosbarthu’r wobr na chopïau ohoni. Ni all yr enillydd ddefnyddio nac atgynhyrchu unrhyw enwau, brandio na logos ar y rhaglen neu sy’n gysylltiedig â’r wobr mewn unrhyw ffordd. Ni fydd yr enillydd yn gwneud unrhyw beth gyda’r wobr a allai ddwyn anfri ar y 大象传媒.
11. Pan fydd angen, bydd y 大象传媒 yn trosglwyddo manylion yr enillydd i ddarparwr/lleoliad priodol y wobr er mwyn trefnu i gyflawni’r wobr. Os oes angen camau gweithredu ychwanegol o ran y wobr (fel casglu tocynnau), rhaid i’r enillydd ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir (a allai gynnwys darparu prawf o bwy ydyw). Nid yw’r 大象传媒 yn gyfrifol am unrhyw fethiant i ddilyn cyfarwyddiadau o’r fath.
12. Efallai y bydd gan y wobr ofynion ychwanegol sy’n newid cymhwysedd ymgeiswyr ar gyfer y gystadleuaeth (er enghraifft terfyn oedran ar gyfer mynediad i ddigwyddiad y cynigir tocynnau ar ei gyfer, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny). Yn yr achosion hyn, bydd y newidiadau i’r gofynion cymhwysedd yn cael eu cyhoeddi’n glir ar yr awyr ac ar-lein (os yw’n berthnasol) cyn i’r gystadleuaeth agor.
13. Os yw'r wobr yn cynnwys tocynnau neu fynediad i ddigwyddiad, ni fydd y 大象传媒 yn gyfrifol am unrhyw fethiant gan yr enillydd a’i westeion (os yw’n berthnasol) i gael mynediad neu ailfynediad i’r digwyddiad oherwydd eu hymddygiad neu eu methiant i fodloni gofynion mynediad y digwyddiad, gan gynnwys isafswm oedran, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny. Yr enillwyr sy’n gyfrifol am wirio’r gofynion mynediad i’r lleoliad.
14. Mae’r enillydd yn cydnabod bod Telerau ac Amodau ychwanegol ar docynnau ar gyfer y digwyddiad. Mae’r enillwyr (a’u gwesteion, lle bo hynny’n berthnasol) yn cytuno i gadw at Delerau ac Amodau’r digwyddiad. Nid yw’r 大象传媒 yn gyfrifol am dermau trydydd parti na gwefannau trydydd parti sy’n gysylltiedig â’r wobr.
15. Ni fydd y 大象传媒 yn gyfrifol am atal neu ganslo digwyddiad y wobr. Os yw’r wobr yn cynnwys mynediad i ddigwyddiad chwaraeon, rhaid i’r enillwyr, a’r gwesteion (os yw’n berthnasol) beidio â bod yn destun unrhyw orchymyn sy’n eu gwahardd rhag mynd i ddigwyddiadau o’r fath.
Cyffredinol
16. Rhaid i bob ymgeisydd gytuno i gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd ar ôl y gystadleuaeth, os bydd angen.
17. Bydd enwau a lleoliad bras yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.
18. Mae penderfyniad y 大象传媒 o ran ymgeiswyr, enillwyr a gwobrau a ddyfernir yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gystadleuaeth.
19. Ni chaiff y 大象传媒, ei isgontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu ei asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol neu unrhyw broblem arall ag unrhyw weinydd, rhwydwaith, system neu fel arall a all arwain at beidio â chofrestru unrhyw gais yn iawn.
20. Mae’r 大象传媒 yn cadw’r hawl i wneud y canlynol: (i) diwygio’r telerau ac amodau hyn gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, amseroedd agor a chau'r gystadleuaeth; (ii) anghymhwyso unrhyw ymgeisydd sy’n torri’r rheolau, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sydd wedi dwyn anfri ar y 大象传媒; (iii) lle bo’n berthnasol, anghymhwyso ymgeisydd neu enillydd, tynnu unrhyw wobr yn ôl, neu gynnig gwobr arall yn ei lle, os bydd unrhyw ymgeisydd, enillydd neu eu gwestai ar unrhyw adeg yn arddangos ymddygiad amhriodol neu beryglus (gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i fod dan ddylanwad alcohol, sylweddau cemegol neu gyffuriau anghyfreithiol neu achosi niwsans) cyn iddo ddod ar yr awyr neu pan mae ar yr awyr, pan mae’n mynychu adeiladau’r 大象传媒 neu os yw’r wobr yn cynnwys mynd i ddigwyddiad, cael ei wahardd o’r digwyddiad hwnnw; a (iv) gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion mynediad ychwanegol petai’r wobr a gynigir yn gofyn am gyfyngiadau neu ofynion o’r fath (gan gynnwys tocynnau ar gyfer digwyddiadau ag isafswm oedran neu ofynion mynediad eraill, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny).
21. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y 大象传媒 yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath wedi’u rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled neu siom ariannol neu i enw da.
22. Ystyrir bod ymgeiswyr wedi derbyn y rheolau hyn ac yn cytuno i gadw atynt wrth gofrestru.
23. Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ydy hyrwyddwr y gystadleuaeth hon, a’r gyfraith berthnasol ydy cyfreithiau Cymru a Lloegr.
24. Mae’r gystadleuaeth hon yn cyd-fynd â .
-
Cystadlaethau Radio Cymru 2
Cystadlaethau Radio Cymru 2