Main content

Talwrn Barddas: Caerfyrddin v Aberystwyth

Trydargerdd: Hysbyseb bachog i gyfrol Pigion y Talwrn

Caerfyrddin

Mae hon yn wir flodeugerdd
o waith pob bardd ffordd hyn,
a gwerth bob blydi ceiniog
heb gerdd gan Ceri Wyn.

8.5

Aberystwyth

Cân ein cur, canon Ceri, a s诺n bît
sîn y beirdd sydd ynddi,
cyfrol o glecs mor secsi,
rhydd a chaeth, mae’n rhodd i chi!

Hywel Griffiths – 9

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair ‘llym’

Caerfyrddin

Gwell yw arfau lleisiau llym
heddychlon na chledd awchlym.

9.5

Aberystwyth

Mae ymyl sgrap o bapur
yn y dweud mor llym â dur.

Dafydd Pritchard – 9.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe chwiliais ymhobman amdano’ neu ‘Fe chwiliais ymhobman amdani’

Caerfyrddin

Wrth iddo fe Dai chware cwato,
fe chwiliais ym mhobman amdano,
ond ar ôl tair mlynedd
fe'i ffeindies yn gorwedd
mewn hedd y tu 'nol i'r piano.

Aberystwyth

Fe chwiliais ym mhobman amdano,
a wir Dduw, mi wnes i ei weld o,
Americanwr reit gall
welodd dwyll mab y fall ...
mae’n rhaid mod i’n ddall, neu’n breuddwydio.

Anwen Pierce – 8

Cywydd Ysgafn i Unrhyw Fardd

Caerfyrddin

Cyfnos yr Amhosib

Heb wawr ni cheir un bore
A'r dydd yw'r dydd, onid e.
Ond cyfnos yr amhosib,
O Trump i'n Brexit ar wib
A welwyd. Ond yng Ngwalia
Clywyd si i rewi'r ha',
Si i'm codi o'm Cadair,
Ai eurig oedd? Gwir y gair?
Eurig odledig o 诺r,
Eurig yr englyn-garwr.
Ai tric oedd troi'r Eurig hwn
Yn rhyddieithwr ei ddwthwn?
Ai under cover cyfyd
Â'i gwiff yn llenor i gyd?
Os y'i credwn, ceisiwn Cai
A chael y gwir ymchwiliai
Iddo. Cawn trwy'r newyddion
Taw bardd yw bardd yn y bôn.

Aberystwyth

Creu awdl fel un Ceri Wyn.
Rho Inglish yn yr englyn.
Rho yno iaith werinol,
rhywbeth stoc fel ‘roc-a-rôl’.
Dwy owns o awen drendi;
Keema Naan, a dyna ni.

Neu fel fi’n bur glasurol,
â’r ddawn i weld cerddi’n ôl
llinell mewn pennill hynod,
fel llinell bell nad yw’n bod.

Triw o hyd yw’r trawiadau –
y rhai hen – maen nhw’n parhau
yn gyfoes ers oes oesoedd;
ers dydd hen gywydd ar goedd.

Ond cleciadau clwc ydynt,
synau geiriau’n torri gwynt.
A gwedd eiddigedd o hyd
a feddaf o’i gelfyddyd.
Dyhead hir dihiryn
yw creu awdl fel Ceri Wyn.

[Er yr anhraith rho anrheg
heno, Ceri, dyro’r deg!]

Gwenallt Llwyd Ifan – 10

Pennill ar ffurf y Clerihew i unrhyw wleidydd

Caerfyrddin

Aeth Dafydd Êl,
Â'i fat a'i bêl
I chwarae 'ngardd drws nesa'
Er mwyn cael batio'n gynta'.

Aberystwyth

Mynnwn Gymru rydd –
gwn y daw, ryw ddydd,
os cawn osod criw Farage
yn y Bae – dan y barrage.

Anwen Pierce – 8.5

Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘A fedd orfoledd a 诺yr y felan’ neu ‘A fedd orfoledd a 诺yr y falen’

Caerfyrddin

Cyfaill a gelyn yw’r bardd ei hunan
a fedd orfoledd a 诺yr y felan,
dawn i broffwydo neu i bery ffwdan,
yn piau’r awdlau a’r iaith i rwdlan;
ac eto’n y bigitan – a’r erlid
daw gwên a gofid ei gân yn gyfan.

9.5

Aberystwyth

I glywed adar, rhaid diodde’r daran,
ac erwau llwyd i gael gorwel llydan -
a fedd orfoledd a 诺yr y felan.
Ond pan fo’r gwannaf yn ceisio hafan
a giatiau a muriau ‘mhob man – goleuaf
yr awr dywyllaf a chri’r dylluan.

Hywel Griffiths – 9.5

Ateb llinell ar y pryd

Caerfyrddin

Ai Geraint a ragoro?
Rwy’n credu fod gennyf go’.

0.5

Aberystwyth

A minnau’n y Somme heno
Rwy’n credu fod gennyf go’.

0.5

Telyneg: Ffair

Caerfyrddin

Heddiw, dros dro, yn ddiniwed, - ei lliw
oedd yn llond fy masged,
ni all iaith roi hyd na lled
i’r pnawn aur peniwaered;

mor benchwiban â rhubanau - oedais
yn hud ei stondinau,
heb erioed sylwi mai brau
yw cynulliad canhwyllau;

a rhywle ar heolydd - ei horiau
aeth hi’n hwyr, daeth welydd
y nos swil at ei gilydd.
Ffodd, a distawodd y dydd.

Fory bydd haul bach Tachwedd - yn hawlio
ei holl hwyl, a’r diwedd
yn mynnu’n ddiamynedd
roi y byd, dros dro, i’r bedd.

Aberystwyth

Rhy hir oedd teithio yno, a rhy hir
cyn gweld y llun o’r Rhyl yn glir o’m blaen
o fws yr ysgol Sul. A dweud y gwir
diflastod, wedyn, oedd y siopau plaen
am oriau – dyna’r cof; ac yna’r traeth,
a fi’n casau’r holl dywod dan fy nhraed
a gwylio tonnau’r môr mawr, brown; a gwaeth -
brechdan domatos yn diferu gwaed.
Ond am ryw awr neu ddwy ar ddiwedd pnawn
daw’r Marine Lake â’i swyn ei hun, rhyw swyn
diarth a thu hwnt; a’i ddirnad yn llawn
ni allwn i. Roedd eiliadau i’w dwyn,
cyffroadau cudd, blasau, oglau mwg
a’r golau neon oedd rhwng gwên a gwg.

Dafydd John Pritchard – 10

Englyn ar y pryd: Donald Trump

Caerfyrddin

Ei frics o eirfa a racswn – yn wal
gyda’n gilydd sefwn.
Yn ffin rhag i’r sheriff hwn
godi’i iaith yn gad dwthwn

9.5

Aberystwyth

Ei frics o eirfa a racswn – yn wal
gyda’n gilydd sefwn.
Yn ffin rhag i’r sheriff hwn
godi’i iaith yn gad dwthwn

9.5

Cyfanswm

Caerfyrddin: 74.5

Aberystwyth: 74.5