Main content

Cyfansoddwyr yr Hen Ganiadau.

Joseph Parry (1841-1903)

Ganed ar Fai 21ain 1841 ym Merthyr Tydfil . Deg oed ydoedd pan aeth i weithio mewn pwll glo , a 12 oed yn dechrau gweithio mewn gwaith haearn . Fe'i magwyd mewn awyrgylch gerddorol; canai alto mewn orator茂au a berfformid gan g么r Rosser Beynon.

Yn 1854 symudodd gyda'i rieni i Dannville , Pennsylvania , U.D.A. , lle y bu'n gweithio mewn melinau-rholio-haearn hyd 1865 , ac astudio harmoni yn ei oriau hamdden. Enynnodd ei fedr yn ennill ar gyfansoddi mewn eisteddfodau cenedlaethol yn 1863 a 1864 frwdfrydedd y cyhoedd, a chodwyd cronfa a'i galluogodd i fyned i'r Royal Academy of Music ( 1868-71 ). Wedi iddo ddychwelyd i Danville sefydlodd ysgol gerdd yno. Dewiswyd ef yn athro cerdd (a phennaeth adran newydd cerdd ) yng Ngholeg y Brifysgol , Aberystwyth ; daliodd y swydd hon o 1874 hyd 1880 .

Yn 1878 graddiodd yn Mus. Doc. (Cantab.) Erbyn hyn yr oedd yn cael galwadau mynych i weithredu fel beirniad cerddorol ; yr oedd hefyd yn brysur gyda'i efrydwyr ac yn cynnal cyngherddau y cynhwysid ynddynt lawer o'i gynhyrchion ef ei hun.

O 1881 hyd 1888 bu'n gweithio yn Abertawe - yn organydd capel Ebenezer ac yn bennaeth coleg cerdd a sefydlasai yno. Yna, o 1888 hyd y bu farw, bu'n ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Prif Athrofaol Caerdydd .

Yr oedd Joseph Parry yn gyfansoddwr toreithiog - yn cynhyrchu (a hynny gyda rhwyddineb) caneuon, cytganau, anthemau, tonau, a rhai gweithiau offerynnol. Cyfansoddodd amryw oper芒u; cawsai ei opera ' Blodwen ' ( 1880 ) ei pherfformio tua phum cant o weithiau erbyn 1896 . Ymysg ei weithiau mwyaf y mae orator茂au (' Emmanuel ,' 1880 ; ' Saul ,' 1892 ) a chantata (' Nebuchadnezzar ,' 1884 ). Darlithiai lawer ac ysgrifennai'n fynych i gylchgronau .

Yr oedd ei yrfa ramantus, ei ddiwydrwydd diflino, ei dalent rwydd, a'i addysg broffesiynol, yn ei wneuthur yn ffigur blaenllaw ym myd cerddorol Cymru yn ei gyfnod. Daeth ei d么n ' Aberystwyth ' yn glasur. Bu farw ar Chwefror 17eg 1903 ym Mhenarth , gerllaw Caerdydd ., a'i gladdu ym mynwent St. Augustine yn y dref honno. Yn 么l y s么n roedd 8,000 o alarwyr yn bresennol yn ei angladd

R.S. Hughes (1855-93)

aned ar Orffennaf 14eg 1855 , yn Aberystwyth , yn fab i Benjamin ac Ann Samuel Hughes a gadwai siop nwyddau haearn gyferbyn 芒 chloc y dref. Amlygodd athrylith gerddorol yn blentyn, a gallai ganu'r piano yn 5 mlwydd oed. Yn eisteddfod Aberystwyth , 1865 , enillodd ar ganu'r piano, a phroffwydodd Brinley Richards, '' Owain Alaw, ac '' Ieuan Gwyllt y byddai 'yn gerddor enwog.'

Yn 1870 aeth i'r Royal Academy , Llundain , am gwrs o addysg, a bu yno am tua blwyddyn a hanner. Dychwelodd i Aberystwyth am ychydig amser, ac aeth am gyfnod i Fangor i gynorthwyo Dr. Roland Rogers, organydd yr eglwys gadeiriol . Aeth yn 么l i Aberystwyth a chyhoeddodd ei g芒n gyntaf, ' Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi ,' ac, yn fuan wedyn, ' Y Golomen Wen .' Aeth i Lundain ac arhosodd yno hyd nes y penodwyd ef yn organydd capel Annibynwyr Bethesda , Arfon , yn 1887 , lle yr ymsefydlodd yn athro cerdd .

Efe oedd y c芒n-gyfansoddwr mwyaf yn hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Cyfansoddodd nifer fawr o ganeuon a fu yn boblogaidd iawn, megis ' The Inchcape Bell ,' ' Y Tair Mordaith ,' ' Y Dymestl ,' ' Llam y Cariadau ,' ' Arafa, Don ,' a'r deuawdau ' G诺ys i'r Gad ' a ' Lle treigla'r Caveri ,' a ' Chwech o Ganeuon Gwladgarol .' Bu ei anthem ' Wel, f'enaid, dos ymlaen ,' yn boblogaidd, a cheir tonau o'i waith yn y llyfrau tonau. Cyfansoddodd hefyd gantawd, ' Bugeiliaid Bethlehem .' Enillodd yn eisteddfod Wrecsam , 1876 , am gyfansoddi pedwarawd llinynnol, ac am ganig i leisiau meibion yn 1888.

Yr oedd yn feistr ar ganu'r piano, ac yn gyfeilydd rhagorol. Bu farw ar Fawrth 5ed 1893 , a chladdwyd ef ym mynwent Glanogwen , Bethesda .

William Davies (1859-1907)

Ganed ar Hydref 1af 1859 yn Rhosllanerchrugog . Cafodd addysg gerddorol yn blentyn gan Hugh Griffith a Richard Mills , Rhos . Cyn cyrraedd 20 oed enillodd ar ganu ' Total Eclipse ' ( Handel ) gyda chanmoliaeth Dr. Joseph Parry y beirniad , a anogodd ei gyfeillion i'w gynorthwyo i gael cwrs o addysg yng Ngholeg y Brifysgol , Aberystwyth . Llwyddwyd i'w anfon i'r coleg, ac wedi cyfnod o astudiaeth ymsefydlodd yn athro cerddoriaeth yn Llangefni , M么n , yn 1880 . Penodwyd ef yn 1884 yn gantor ym Mangor .

Yn Llangefni y dechreuodd gyfansoddi caneuon a ddaeth yn boblogaidd. Y gyntaf oedd ' Pistyll y Llan ,' a dilynwyd hi gan ' Y Banerwr ,' ' Yr Ornest ,' ' Chwifiwn Faner ,' a ' Llwybr y Wyddfa .' Enillodd wobrwyon eisteddfod genedlaethol Lerpwl am y caneuon ' Neges y Blodeuyn ,' a ' Y Gloch '; Llundain , 1887 , am g芒n gadeirio gydag obligate i'r delyn; Wrecsam , 1888 , am ' O na byddai'n haf o hyd ,' a ' Myfanwy '; ac yn Aberhonddu , 1889 , am bedair o ganeuon.

Yn 1889 penodwyd ef i ganu tenor yng Ngholeg Magdalen , Rhydychen , allan o 86 o ymgeiswyr. Yn 1891 priododd 芒 Clara Leighton , soprano yng nghwmni opera Carl Rosa . Yn 1894 , allan o 100 o ymgeiswyr, dewiswyd ef yn ficer corawl cynorthwyol eglwys gadeiriol S. Paul , Llundain .

Parhaodd i gyfansoddi , ac ystyrid ef yn un o gyfansoddwyr gorau ei gyfnod. Bu farw ar Ionawr 30ain 1907 , a chladdwyd ef ym mynwent Abney Park , Llundain .

D. Pughe Evans (1866-1897)

Ganed mewn ffermdy o'r enw Llainwen , ger Ffynnon Henri , plwyf Cynwyl Elfed , sir Gaerfyrddin , mab Daniel ac Elizabeth Pugh Evans . Cafodd ei fagu mewn teulu cerddorol. Yn fachgen aeth i wasanaethu mewn siop ddillad yn Llanelli , ac ymunodd 芒 ch么r capel Seion o dan arweiniad R. C. Jenkins . Dysgodd sol-ffa yn nosbarth D. W. Lewis, Brynaman , a chynghanedd yn nosbarth Dr. Joseph Parry a gynhelid gan y ddau athro yn Llanelli .

Yn 1887 enillodd ysgoloriaeth agored am dair blynedd yn y Royal College of Music , Llundain , ac oherwydd ei lwyddiant fel efrydydd rhoddwyd blwyddyn ychwanegol iddo o addysg.

Meddai lais tenor rhagorol, ond cafodd afiechyd tra yn y coleg, a amharodd ar ei lais tra bu fyw. Wedi gorffen ei gwrs yn y coleg, ymsefydlodd yn Abertawe yn athro cerdd a llais .

Cyfansoddodd lawer o ganeuon rhagorol. Ei g芒n gyntaf oedd ' Yr Hen Gerddor ,' a dilynwyd hi gan ' Hyd fedd hi g芒r yn gywir ,' ' Brad Dynrafon ,' ' Oleuni Mwyn ,' ac eraill. Cyfansoddodd hefyd ddeuawd, ' Y Delyn a'r Crwth ,' rhan-ganau ' O fy Iesu, 'Mhriod Annwyl,' a ' Golch fi ,' ac (i leisiau meibion) ' Teyrnged Cariad ,' a threfniant o'r ' Delyn Aur .'

Yr oedd yn un o gyfansoddwyr mwyaf gobeithiol Cymru , eithr bu farw yn ddyn ieuanc 31 oed, 3 Chwefror 1897 . Claddwyd ef yn y Mumbles .

E.T. Davies (1878-1969)

Ganed ar Ebrill 10fed 1878 yn 41 Pontmorlais , Merthyr Tudful, Morg. , yn fab i George ( barbwr gyda'i siop yn South Street , Dowlais ), a Gwenllian (g. Samuel ) ei wraig. Fe'i magwyd yn Nowlais , ond symudodd i Ferthyr Tudful yn 1904 . Yr oedd ei rieni'n gerddorol; buasai ei dad yn arwain y canu yn Hermon , Dowlais , am bron chwarter canrif, ac yr oedd ei fam o linach y cyfansoddwr caneuon R.S. Hughes ac yn gantores dda. Addysgwyd ef yn breifat a daeth yn drwm dan ddylanwad Harry Evans ac eraill. Aeth ar daith i America gyda pharti o gantorion o Gymru yn 1898 , ac ar 么l iddo ddychwelyd daethpwyd i'w ystyried fel prif gerddor ei fro enedigol, ac fel olynydd teilwng i Harry Evans , ei athro . Bu'n organydd capel Pontmorlais , Merthyr Tudful , 1903-17 , ac yn athro canu rhan-amser yn ysgol ganolraddol Merthyr Tudful , 1904-20 , gyda'i gartref yn ' Cartrefle ' ger yr ysgol-t欧 a fuasai'n gartref i Harry Evans.

Ar 么l ennill diploma F.R.C.O. bu galw mawr am ei wasanaeth fel unawdydd organ , a dywedir iddo agor tua chant o organau newydd yng Nghymru a Lloegr . Yn 1920 penodwyd ef yn gyfarwyddwr cerdd lawn-amser cyntaf yng Ngholeg y Brifysgol , Bangor , lle y bu'n gyfrifol am sefydlu llu o weithgareddau cerddorol , ac y bu'n cydweithio 芒 Walford Davies i ledaenu gwybodaeth gerddorol i gylch eang o dan nawdd cyngor cerdd y Brifysgol . Ymddeolodd yn 1943 a symud i fyw i Aberd芒r , lle y treuliodd weddill ei oes yn cyfansoddi, beirniadu a darlledu .

Daeth i sylw fel cyfansoddwr ar 么l ennill y wobr gyntaf am yr unawd ' Ynys y Plant ' yn Eist. Gen. Llundain , 1909 , ac er nad oedd yn cael ei ystyried yn gyfansoddwr toreithiog, a'i fod yn tueddu i edrych ar gyfansoddi fel hobi yn unig, llwyddodd i ddylanwadu'n llesol ar gerddoriaeth ei genedl am dros hanner canrif. Heblaw ysgrifennu nifer fechan o ganeuon, cyfansoddodd hefyd ran-ganau, anthemau a gweithiau ar gyfer gwahanol offerynnau a chyfuniadau offerynnol, a cheir ganddo tua 40 o donau, siantiau ac anthemau mewn gwahanol gasgliadau tonau.

Yr oedd yn effro i'r gwaith rhagorol a wnaethai John Lloyd Williams ym maes canu gwerin ym Mangor o'i flaen, ac ef oedd un o gerddorion cyntaf y genedl i weld digon o rinwedd yn yr alawon gwerin i'w trefnu ar gyfer llais neu offeryn. Y mae ei drefniadau o'r alawon hyn, dros gant ohonynt (gydag amryw ohonynt wedi cael eu llunio pan oedd y cyfansoddwr mewn gwth o oedran) yn firain ac yn artistig. Ymddiddorai hefyd yn alawon cenedlaethol y genedl, a chydolygodd 芒 Sydney Northcote Caneuon cenedlaethol Cymru ( 1959 ). Pr., 31 Awst 1916 , Mary Llewellyn , merch ieuangaf D. Williams Jones , Aberd芒r . Bu farw yn ei gartref yn Aberd芒r ddydd Nadolig 1969.

Dolenni Perthnasol