Rownd 1 Y Gl锚r v Ffostrasol.
Rownd 1 Y Gl锚r v Ffostrasol.
Y Glêr
![](https://ichef.bbci.co.uk/images/ic/320x180/p04scvb4.jpg)
![](https://ichef.bbci.co.uk/images/ic/320xn/p04sbzmb.jpg)
Trydargerdd: Neges yn Addo Dialedd
RT @realDonaldTrump
Marciau isel gan Ceri Wyn!
Trist! Rhaid inni newid hyn!
Dagrau’r bluen eira wen!
Let’s Make The Talwrn Gerallt Again!
Iwan Rhys - 8.5 pwynt.
Os na chawn lwyddiant gyda’r tasgau hyn
‘Da’r Barwn Owen fydd ‘rhen Geri Wyn.
Gareth Ioan - 8.5 pwynt.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘llaeth’
Ar lonydd yr olyniaeth,
Cario llog mae’r tancer llaeth.
Hywel Griffiiths - 9.5 pwynt.
Mae llaeth medd pob amaethwr
Yn dal yn rhatach na d诺r.
Iolo Jones - 9 pwynt.
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae rhai ar y tîm wedi blino’
Mae rhai ar y tîm wedi blino
Ar y capten sy’n gwneud dim ond cwyno
A’n beirniadu ni’n hallt
A thacluso ei wallt …
Rhaid inni ei uchelgyhuddo.
Iwan Rhys - 8 pwynt.
Ar ôl seiclo o’r Ffos lan ‘ma heno
Ma’ rhai ar y tîm wedi blino;
Nid bod hi yn heic
I ddod lan ‘ma ar feic
Ond ‘ma ‘matryd o’r leicra’n llabyddio!
Gareth Ioan - 8.5 pwynt.
Cerdd ar fesur yr englyn milwr: Gwas neu Morwyn
(yn sgil dyfarniad y Goruchaf Lys)
Cododd y cyfansoddiad
Un bys hir a, heb siarad,
Rhwbiodd, dileodd y wlad.
Ac aeth y trafodaethau
Yn eu blaen am ryw blaniau
Mawr newydd i’w hufuddhau.
Aeth hi’n nôl i feistroli
Tegan hael datganoli,
Yn well o weld ei lle hi.
Eurig Salisbury - 9 pwynt.
Morwyn
Yn sydyn, o’r llyn llonydd
Ar wib mi dorrais yn rhydd
I ogoniant y gweunydd.
Yma roedd fy nghymar i
A’i wên yn fy nadeni
I dras meddygon di-ri.
Taenodd yr haf ei afiaith,
Ond o’i ôl oerodd y daith
Nes wynebais anobaith.
Arnaf disgynnodd dyrne
Llym, a gadewais y lle’n
Waddol i fab Blaen Sawdde.
Wedi i’r cof gadw’r cyfan
Mae’r hanesyn ei hunan
Heno’n fwy na Llyn y Fan
Dai Rees Davies - 9 pwynt.
Pennill ymson mewn siop gardiau
Ar ddydd Santes Dwynwen
Mae cardiau’n rhy felys,
Dewisaf un gwag
I’m pennill clwyfus:
Coch ydi Trump,
Glas yw Teresa,
Fe’th garaf di hyd ddiwedd y byd,
Hynny yw, tan wythnos nesa’.
Osian Rhys Jones - 9 pwynt.
Penblwydd y wraig aeth heibio,
Caf gerdyn ymddiheuro,
Fe wna y tro, mae pethau’n dyn,
Y flwyddyn nesa eto.
Emyr Davies - 9 pwynt.
Cân ysgafn: Trwch Blewyn
Rwy’n fachan tra anlwcus, er mor agos at lwyddo o hyd.
Ac o’r straeon a ddwed fy rhieni, fel hyn rwy ’di bod reit o’r crud.
Ro’n i’n haeddu’r wobr gyntaf am fabi perta’r sioe,
Ond trwy gymysgwch yr ysgrifennydd, ces drydydd yn nghystadleuaeth y lloi.
Ro’n i’n feistr corn ar y trwmped, ond ces annwyd cyn Eisteddfod yr Urdd,
Ac wrth chwythu concerto gan Haydn daeth y cwafers mas yn wyrdd.
Bu bron imi fynd yn gricedwr, ond un bore anghofiais droi’r clocs,
A rhaid oedd ymddeol yn gynnar ar ôl brysio, ac anghofio fy mocs.
Dewisais y chwe rhif cywir un tro ar y Loteri Genedlaethol,
Ond wrth rythu ar y slip drwy chwyddwydr, fe losgais i dwll reit drwy’r canol.
A lluniais awdl ragorol, do wir, un gystal â dwy Ceri Wyn,
Ond rywfodd aeth bocs gwag Rice Crispies i’r post, ac aeth amlen yr awdl i’r bin.
Rhoddais gynnig ar farathon Llundain, ond aeth lasen fy esgid yn sownd,
A dyna lle bûm ar y London Eye, yn mynd rownd, a rownd, a rownd.
Ydw, rwy’n fachan anlwcus, ond rhaid cyfri fy lwc o hyd –
Wrth gyrraedd y Talwrn bron imi gael fy nharo yn fflat ar y stryd.
Car gwyn oedd yn parcio’n rhy gyflym, yn amlwg ar yffach o frys.
Gwylltiais wrth godi o’r tarmac, a heb edrych dyma godi dau fys.
Rwy nawr yn wynebu dirwy am f’ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ni sylwais mai heddwas oedd yno, a’i fod yn cefnogi Ffostrasol.
Iwan Rhys - 9 pwynt.
Mae gen i gi arbennig a’i enw ydyw Meic,
Rhyw groesad o Chiwawa a hanner fframyn beic.
Mae linach braidd yn dywyll ond ffyddiog mae yn dod
O’r adeg cyn creu Adda, a phedigri yn bod.
Dau lygad, un bob ochor a chlustiau bychan twt,
A phedair coes fel polion, a chynffon yn y gwt.
Mae’n edrych tua’r nefoedd, fel meudwy yn ei gell,
Tra’n rhythu tua’r gorwel ar rith o linell bell.
Yn debyg i’r athrylith sy’n gorfod gwneud y gân,
Sy’n disgwyl cael goleuni trwy nerth yr ysbryd glân.
Daw pobol eithaf pwysig i’w weled yn eu tro,
Gwraig mynach, perchen fferet, a sawl cynghorwr bro,
Daeth hyd yn oed un llythyr wrth Lisabeth y Cwîn,
Y byddai’n talu pris y stamp pe byddai yn cael llun.
A gyda’i holl rinweddau y mae yn hollol glir
Ei fod e o drwch blewyn yn berffaith, dweud y gwir.
Yn berffaith, ac agosach i’r hyn a ddywed rhai
I hanner o drwch blewyn, mae hynny dipyn llai,
Ac os yw’r hanner hwnnw yn anodd iawn i’w weld,
Mae’n dal yr addurn gorau sydd gen i ar y seld.
Emyr Davies - 9.5 pwynt.
Ateb Llinell ar y pryd
Yn y car rwy'n mynd o'm co'
Yr wyf yn dysgu dreifio.
0.5 pwynt.
Telyneg mewn mydr ac odl: Dogfen
Fe welais wawr yn diffodd,
Yn ffoi er mwyn cael byw,
A saib rhwng bomiau, rhywfodd,
Fel pont rhwng dyn a duw.
Mae golud heibio’r gorwel hir
Os ydyw’r straeon hwythau’n wir.
Cyrhaeddais ffin aflonydd
Tan rwysg ei muriau hi,
A phasbort brau, o’r newydd,
Yn dyst i’m buchedd i.
A’r lôn ar gau i’r freuddwyd ffôl,
’Does ’fiw i’r galon edrych nôl.
Mae gen i sach a thynged,
A theulu’r ochor draw;
Dwi wedi blino cerdded
Heb wybod beth a ddaw;
Ond mae mewn terfyn ganiatâd,
Mae diwedd byd yn llawn parhad.
Osian Rhys Jones - 10 pwynt.
Y bibell tua’r peiriant
Fel llinyn bogail hir,
A’r baban hanner diwrnod
Yn dal i golli tir.
Ni ddaw i fam atgofion
Am faban yn ei chôl,
Nid oes ond darn o bapur
Swyddogol ar ei ôl.
Dai Rees Davies - 9 pwynt.
Englyn yn cynnwys y gair ‘tref’
Daw’r un pelydrau inni yn y dref,
ond ar draeth ein stori
mae carped coch yn trochi
ein hen lefydd newydd ni.
Hywel Griffiths - 9.5 pwynt.
O gynnwrf byd a’i gynnen, - o olwg
Rhyfeloedd diangen,
I chwilio alaw lawen
Af o hyd i ryw ‘Dref Wen’.
Iolo Jones - 9 pwynt.
Enillwyr - Y Glêr.