Ten Pieces - Cyngerdd i Ysgolion
大象传媒 NOW - Cyngerdd Ten Pieces i Ysgolion
Ten Pieces Concert
Ten Pieces Concert - Performed by 大象传媒 NOW at St David's Hall, Cardiff
Mae’r cloc yn tician, mae angen cyfansoddi’r gerddoriaeth, ac mae yna AWR o gyngerdd o berfformiad mawr!
Mae angen eich help chi ar y cyfansoddwr ifanc Emily Presto!
Y dasg yw ei helpu i ysgrifennu darn newydd sbon o gerddoriaeth ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 大象传媒 ac wedyn bod yn rhan o’r perfformiad – ydych chi’n barod am yr her?
Ymunwch â 大象传媒 NOW, yr actor Indigo Griffiths a’r arweinydd Adam Hickox ar antur gerddorol gyffrous gyda cherddoriaeth o Ddeg Darn y 大象传媒. Dewch i glywed y straeon a’r cyfrinachau sydd wedi’u cuddio mewn darnau o gerddoriaeth glasurol.
Ar hyd y ffordd, byddwch yn dod ar draws ellyllon dychrynllyd, yn mynd ar daith drwy’r gofod, ac yn dawnsio gyda chowbois.
Mae'r cyngerdd a'r adnoddau yn Saesneg.
Hoffech chi gymryd rhan mewn digwyddiadau eraill fel hyn? Peidiwch â cholli’r cyfle!
Cofrestrwch ar gyfer y rhestr bostio i ysgolion yma: