Main content
Yr Aelod Seneddol Guto Bebb
Pennod 1 o 5
Cyfle i ymateb i bynciau'r dydd yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, sgrifennwch - a chofiwch wrando. Reaction to the day's topics from local areas.
A hithau'n hanner can mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi darlith 'Tynged yr Iaith' ar donfeddi'r 大象传媒, mae Radio Cymru wedi comisiynu 5 darlith fer gan uniogolion amlwg i nodi'r achlysur a chynnig sawl gogwydd wahanol ar y Gymraeg yn 2012. Heddiw cawn glywed gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb.
Darllediad diwethaf
Llun 13 Chwef 2012
12:03
大象传媒 Radio Cymru
Rhagor o benodau
Blaenorol
Dyma'r rhifyn cyntaf
Nesaf
Clipiau
-
Darlith Guto Bebb
Hyd: 08:39
Darlith yr Aelod Seneddol Guto Bebb
Efallai mai fi yw鈥檙 unig un, ond mae enw Saunders Lewis yn golygu fy mod, bron yn ddiarwybod yn dechrau meddwl am Geraint Jarman. Rhyfedd o beth o ystyried cyfraniad aruthrol Saunders i鈥檙 Gymru sydd ohonni , ac eto gydag un g芒n fer o 1987, sef 鈥楴os da Saunders鈥, y mae yna gysylltiad parhaol wedi ei wneud yn fy meddwl rhwng un o feddylwyr mawr gwleidyddol y Gymru Gymraeg a鈥檙 artist wnaeth, yn fwy na neb, sicrhau fod y gair 鈥榗?l鈥 yn gallu sefyll law yn llaw a diddordeb mewn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg wrth i mi dyfu fyny ddiwedd y 70au a鈥檙 80au cynnar. Serch hynny, o ystyried ei gyfraniad, efallai fod Geraint Jarman yn berthnasol iawn i鈥檙 drafodaeth hon heddiw. Chwarter canrif wedi darlith 鈥楾ynged yr Iaith鈥 roedd Jarman yn cyfleu methiannau鈥檙 ymgyrch iaith a ddatblygodd o ganlyniad i鈥檙 ddarlith, mewn modd sy鈥檔 parhau鈥檔 berthnasol i ddadl heddiw. Yn wir, efallai fod yr hyn a ragwelwyd gan Geraint Jarman ddiwedd y 70au yn fwy perthnasol i drafodaeth yn 2012 nag yr oedd pan ryddhawyd caneuon fel 鈥楤ourgois Roc鈥 a 鈥楪westy Cymru鈥 ddiwedd y 70au. Yn fras, rwyf am awgrymu fod 鈥楾ynged yr Iaith鈥 wedi creu chwyldro, ond chwyldro ar gyfer y dosbarth canol a gafwyd. Methiant mawr dadl Saunders Lewis oedd ei bwyslais ar bwysigrwydd Cymreigio sefydliadau, tra鈥檔 gwrthod yn llwyr yr angen am ymateb i edwino cyflogaeth yn yr union Gymru Gymraeg, o fewn sefydliadau y genedl yn frwydr oedd yn gynyddol gael ei hennill. Ond ai buddugoliaeth wag oedd hynny? Dyna鈥檔 union awgrym Geraint Jarman wrth iddo ganu
鈥淥nd mae pawb yn iawn
Mae nhw鈥檔 byw鈥檔 gyffyrddus
Ond mae pawb yn iawn
Mae nhw鈥檔 gwisgo鈥檔 deidi i swpera yn y nos..鈥
Yr hyn a gollwyd o ganlyniad i ddarlith Saunders Lewis oedd dim llai na chwyldro deallusol ar gyfer y dosbarth canol, a鈥檙 rhai hynny oedd yn ysu i fod yn rhan o鈥檙 dosbarth canol Cymreig nad oedd hyd y 60au wedi gweld y cyfle i sicrhau statws, swyddi a chyfoeth cymharol. Llwyddiant y dosbarth canol deallusol yng Nghymru oedd creu statws a safle iddynt eu hunain, a hynny oll drwy gyfrwng brwydr am hawliau iaith- hawliau nad oes nemor neb yn eu defnyddio. Yn y cyfamser mae鈥檙 Gymru Gymraeg oedd yn bodoli ym 1962 wedi edwino, crebachu ac mewn nifer o ardaloedd, wedi diflannu. Yn y cyfamser mae鈥檙 wladwriaeth wedi trefnu yn rhyfeddol gan gyflogi a gwerthfawrogi y rhai hynny sydd a sgiliau mewn dwy iaith, er mai un sy鈥檔 cael ei defnyddio yn amlach na pheidio. Ystyriwch y ffeithiau 鈥 ym 1966 mewn ardal sy鈥檔 cymharu鈥檔 weddol agos gyda siroedd presennol Caerfyrddin, Penfro, Ceredigion, Maldwyn, Gwynedd, Ynys M么n, Conwy a Dinbych roedd ychydig dros 17% o bobl yn gweithio yn y sector gyhoeddus. Mae鈥檙 cyfanswm hwn bellach yn ddwywaith gymaint gyda 35% yn gyflogedig gan y pwrs cyhoeddus. Y mae鈥檙 canfyddiad hwn hefyd yn anwybyddu y twf rhyfeddol mewn swyddi sydd yn ddibynnol ar y pwrs cyhoeddus yng Nghaerdydd sef cyrchfan naturiol bellach i blant dosbarth canol y fro a arferai fod yn naturiol Gymraeg eu hiaith. Da o beth yw gweld y Cymreigio yma ar Gaerdydd, ond ag eithrio llwyddiant amlwg i ddatblygu addysg Gymraeg, sef rhan o鈥檙 chwyldro hawliau daniwyd gan 鈥楾ynged yr Iaith鈥 pa sefydliadau, busnesau neu wasanaethau Cymraeg sy鈥檔 rhydd o bwrs y wlad, a sefydlwyd yng Nghaerdydd gan y deugain mil o frodorion sy鈥檔 byw yn y ddinas gan ddefnyddio eu Cymraeg i sicrhau swyddi? Ond yn 么l at fy nadl: yn 鈥楾ynged yr Iaith鈥 mae Saunders Lewis yn dyfynnu RW Lingen yn helaeth o鈥檙 Llyfrau Glesion a gyhoeddwyd ym 1847 a hynny i wneud pwynt amddiffyn newid sylfaenol yn sefyllfa gymdeithasol y Gymraeg. Y dyfyniad allweddol i mi yw鈥檙 canlynol:
鈥 Whether in the county or among the furnaces, the Welsh element is never found at the top of the social scale.鈥
Yn rhinwedd y chwyldro mewn hawliau ieithyddol sefydliadol, nid gwir mo hyn bellach, hyd yn oed os oedd modd cynnal dadl am barhad y sefydliad a ddisgrifiwyd gan Lingen yng nghyd-destun 1962 nid felly y sefyllfa yn 2012. Ym mhob maes o fewn y sector gyhoeddus mae鈥檙 angen i chwarae鈥檙 g锚m hawliau鈥檙 iaith yn bodoli hyd yn oed os oes yna ddim mwy na datganiad fod y Gymraeg yn ddymunol. Er nad ydyw鈥檙 Gymraeg wedi ennill ei phlwyf fel iaith weinyddol ag eithrio fel Cyngor Gwynedd, Bwrdd yr Iaith ac ambell adran arall o Lywodraeth, y mae鈥檙 fantais o fod yn gyfforddus ddwyieithog wedi sicrhau swyddi i nifer sy鈥 braidd wedi gwneud dim defnydd o鈥檙 iaith yn dilyn rhoi tic i鈥檙 blwch ynghylch gallu ieithyddol ar y ffurflen gais. Bellach, yn groes i honiad R.W. Lingen yn 1847 a honiad Saunders Lewis yn 1962 mae 鈥榥a sector gyhoeddus ym mhob rhan o Gymru yn gweld cynrychiolaeth sylweddol o Gymry sy鈥檔 defnyddio hawliau iaith fel sail i gais am swydd cyn gwneud digon 鈥榗hydig wedyn i hyrwyddo鈥檙 iaith o fewn y gweithle. Yn y cyfamser mae y Gymraeg fel iaith naturiol y gymdeithas yn edwino鈥檔 gyflym. Yn stadau cyngor Llanrwst, Penmaenmawr a Llanfairfechan cilio y mae鈥檙 iaith twy gyfuniad o allfudo oherwydd diffyg swyddi a mewnfudo gan y rhai hynny sy鈥檔 gweld byw ar fuddsoddiadau yng Ngogledd Cymru yn well dewis na gwneud hynny ym maestrefi Lerpwl a Manceinion. Hyd yn oed yng Nghaernarfon a鈥檙 pentrefi o amgylch tref Gymreiciaf Cymru, tydi cyflogaeth sylweddol a bron 100% y Cymry Cymraeg o fewn y Cyngor Sir heb arbed yr ardal rhag gweld y Gymraeg yn colli tir. Gyda cholled ffatrioedd fel Bernard Wardle a Ferodo 鈥 beth ddaeth yn eu lle? Ugain mlynedd o gwmn茂au teledu yn hollol ddibynnol ar fympwy rheolwyr yng Nghaerdydd neu wleidyddion yn Llundain a chwmniau cyfieithu yn byw yn fras ar oblygiadau deddf iaith 1993. Nid syndod gweld patrwm 鈥榥i a nhw鈥 bellach yn datblygu yn y dref. Y cam nesaf fydd cadarhau y gwahaniaeth hwn ar sail ieithyddol. Methiant mawr 鈥楾ynged yr Iaith鈥 oedd gwadu鈥檙 cyd-destun ar gyfer datblygu a chynnal iaith, sef gwaith. Er gwaethaf cydnabyddiaeth yn ei ddarlith fod gwaith yr Athro Brinley Thomas wedi dangos cyfraniad i chwyldro diwydiannol i gynnal y Gymraeg, anwybyddu鈥檙 dystiolaeth wnaeth Saunders Lewis, drwy ddatgan wrth drafod y polisi ar ddenu diwydiant i ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Hoelen arall ydi hi yn arch yr iaith Gymraeg. Yr un ddadl a geir heddiw yn achos Wylfa B. Efallai fod hynny鈥檔 gywir am bolisi oedd yn pwyso ar gymorth llywodraeth i ddenu buddsoddiad allanol i froydd Cymraeg yn y 60au, ond heb waith, ai syndod yw gweld crebachu eu cymunedau Cymreiciaf? Y cyfrannwr mwyaf craff ynghylch hawliau iaith yn ystod degawd cyntaf yr 21g ydyw鈥檙 Dr. Simon Brooks. Mae ei ddadleuon am hawliau a normaleiddio iaith yn heriol ac yn berthnasol i un math o Gymro Cymraeg. Beth, serch hynny, ydyw byrdwn ei neges i鈥檙 di-waith yng nghefn gwlad? Nid trwy ddeddfu bellach y mae cynnal y Gymraeg ond trwy ddatblygu hyder a bwriad i beidio bod yn ddibynnol ar y wladwriaeth am achubiaeth.
Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu鈥檔 llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a鈥檙 gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.
Nid rhywbeth sy鈥檔 digwydd i ni ddylai鈥檙 economi fod, ond yn hytrach ein dyletswydd yw gafael yn yr economi a鈥檌 blygu a鈥檌 ddatblygu i鈥檔 anghenion fel unigolion a chymdeithas. Pam na all yr hyn sydd wedi digwydd yn Slofenia a鈥檙 Wladwriaeth Tsiec ddim bod yn ateb i鈥檔 anghenion ninnau yma yng Nghymru? Er gwaethaf buddugoliaeth gymharol y frwydr dros hawliau iaith y sector gyhoeddus, buddugoliaeth wag a gafwyd, os nad oes gennym yr hyder i fynd i鈥檙 afael 芒 hawlio鈥檔 rhan ni o鈥檙 peiriant pres.
Wrth i mi gau pen y mwdwl ar yr ychydig eiriau hyn, bu i mi daro mewn i d? bwyta newydd yng Nghaernarfon er mwyn ail ddarllen fy sylwadau dros goffi. Dros awr ginio roedd y lle yn llawn, a bron pawb o staff y cyngor a鈥檙 amrywiol gyrff sy鈥檔 ddibynnol ar y sector gyhoeddus. Yr oedd yr awyrgylach yn braf a鈥檙 adeilad wedi ei adfer yn wych gyda鈥檙 fwydlen, uniaith Saesneg, yn cynnig amrywiol ddanteithion am bris rhesymol. Gwyddel o Lundain ydi鈥檙 perchennog sydd wedi mentro, gan greu nifer o swyddi yn y broses. Mewn llawer ffordd yr oedd yr olygfa yn cadarnhau fy mhryderon. Y dosbarth canol yn gyfforddus yn eu swyddi sy鈥檔 ddibynnol ar bwrs y wlad, gyda鈥檙 penderfyniad i fentro a llwyddo yn syrthio ar ysgwyddau mewnfudwr. Her i un gr?p o gymdeithas a gafwyd yn 鈥楾ynged yr Iaith鈥- bu鈥檔 gatalydd i achub math o Gymreictod. Ond fel ateb i dynged yr iaith,yr oedd y targed yn un anghywir. Ni all unrhyw iaith fyw ar sail un dosbarth yn gweithio mewn un sector o gyflogaeth. Yn anffodus, dyna i raddau helaeth ydyw canlyniad hanner can mlynedd o ymgyrchu am hawliau iaith- Hawliau i leiafrif- dim i鈥檙 mwyafrif, a鈥檙 Gymraeg fel iaith gymunedol, fyw, yn prysur edwino.

Darllediad
- Llun 13 Chwef 2012 12:03大象传媒 Radio Cymru