Y Camsyniad Mawr
Can mlynedd a hanner ers i'r Cymry fentro am Batagonia. Current historical views on an ambitious project in which a group of Welsh people ventured to Patagonia 150 years ago.
Ar drothwy dathliadau 150 y Wladfa, Jon Gower sy’n olrhain yr hanes ac yn holi rhai o’r cwestiynnau mwy anghyfforddus ynglŷn â’r fenter ar y pryd - ac hefyd ein hagwedd ni tuag at y Wladfa heddiw.
Bydd barn arbenigol gan haneswyr a sylwebwyr ar y Wladfa: Elvey McDonald; Y Darlithydd E.Wyn James; Ceris Gruffudd, ysgrifennydd y Gymdeithas Cymru Ariannin; Eirionedd Baskerville, hefyd o’r Gymdeithas Cymru Ariannin; y bardd a’r awdur Bobi Jones; y canwr o Batagonia, Rene Griffiths; yr actores o Batagonia sydd bellach yn y gyfres ‘Pobol y Cwm’, Elizabeth Fernandez, a’r hanesydd D.L.Davies.
Yn ogystal, mae darnau o ddyddiadur Seth Jones, a oedd ar fwrdd y llong Y Mimosa ar y daith, wedi eu dramateiddio gyda Dylan Owen.
Mae Sian Moran, nyrs yn Ysbyty Treforys, wedi cyfansoddi can arbennig am y fenter, ‘Gwynt teg i’r Mimosa’, ac fe recordiwyd y gân o’r newydd ar gyfer y rhaglen.
Darllediad diwethaf
Clip
-
Sian Moran - Gwynt Teg i'r Mimosa
Hyd: 03:12
Darllediadau
- Mer 20 Mai 2015 18:15´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
- Sul 24 Mai 2015 10:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
- Iau 20 Awst 2015 18:15´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
Dan sylw yn...
Patagonia—Y Camsyniad Mawr
Dathliadau150 mlynedd y Wladfa ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.