Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Codi'r To

50 o blant, prin dim cefndir cerddorol, ac un nod - i greu band a chôr mewn 6 mis. Fifty children, hardly any musical experience, and six months to form a choir and a school band.

Mae rhywbeth ar y gweill yn Ysgol Gynradd Maesincla, Caernarfon, wrth i gerddoriaeth gael ei defnyddio i wella bywydau ac adfywio cymunedau.
Codi’r To ydi’r cynllun. Mae'n rhan o brosiect El Sistema a ddechreuodd yn y 1970au yn ardaloedd tlotaf Venezuela, ac sydd bellach mewn cannoedd o ganolfannau ar draws y byd, gan gynnwys dwy ysgol yng Nghymru. Mae'n cyflwyno cerddoriaeth i’r plant – y mwyafrif yn methu â chwarae offeryn - a’r gobaith ydi eu bod yn magu diddordeb mewn cerdd, yn ogystal â gwella eu hymddygiad a sut maen nhw'n meddwl am waith ysgol.
Yn y rhaglen hon, mae Lisa Jên yn dilyn hanner cant o blant dros gyfnod o flwyddyn - o'u gwersi cyntaf i gyngerdd yn Galeri, Caermarfon. Mae hi hefyd yn clywed gan diwtor y plant - Bari Gwilliam o Fand Pres Llareggub - a rhai o'r rhieni.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 3 Chwef 2017 18:00

Darllediadau

  • Llun 6 Meh 2016 12:30
  • Iau 21 Gorff 2016 19:00
  • Gwen 3 Chwef 2017 18:00