Cynan
Ll欧r Gwyn Lewis yn sgwrsio 芒 phobl am Cynan - bardd, archdderwydd a chymeriad lliwgar. Ll欧r Gwyn Lewis learns more about Cynan, the Welsh poet and dramatist.
Os nad ydi'r enw Albert Evans-Jones yn golygu rhyw lawer i chi, siawns fod ei enw barddol Cynan yn fwy adnabyddus.
Yn Archdderwydd ddwywaith - yr unig berson yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol i gael ei ethol i'r swydd ddwywaith - mae Cynan yn cael ei gofio am weddnewid y drefn a'r seremon茂au, ac am ei ran allweddol wrth ddiwygio'r Orsedd.
Yn y rhaglen hon, mae Ll欧r Gwyn Lewis yn sgwrsio 芒 rhai o'r bobl a gafodd y fraint o nabod Cynan, gan gynnwys ei nith Mair Williams. Mae'n cofio ewythr arbennig iawn, ei hoffter o urddas a threfn, a'i berfformiadau ar yr aelwyd deuluol. Nid dweud stori oedd Cynan, ond actio.
Ychydig cyn iddo farw'n 100 oed, cafodd Ll欧r sgwrs gyda John Roberts. Roedd cyn-drefnydd yr Eisteddfod yn ystyried Cynan yn gyfaill agos a chynnes iawn a oedd yn sgwrsio'n rhydd am bob math o bethau.
Mae Hywel Gwynfryn yn barod iawn i gydnabod nad oedd ei berfformiad yntau yn Absolon Fy Mab, un o ddram芒u Cynan, ymysg y goreuon. Er hynny, cafodd gynnig brechdan gan y dramodydd ar dr锚n o Fangor i Gaerdydd - taith sy'n dal yn fyw yn y cof.
Potel o siamp锚n, nid brechdan, oedd rhodd Cynan i Margaret Williams. Roedd y ffaith fod y gantores yn dod o Frynsiencyn ar Ynys M么n yn ei blesio'n fawr.
Rhwng popeth, cawn ddarlun o'r Cynan cyhoeddus a'r Cynan preifat. Yng nghanol yr urddas a'r awdurdod, roedd yn barod iawn i gael hwyl hefyd, a does dim dwywaith iddo gyfrannu'n fawr i fywyd diwylliannol y genedl.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Gwen 11 Tach 2016 12:30大象传媒 Radio Cymru
- Mer 28 Rhag 2016 18:00大象传媒 Radio Cymru
- Iau 19 Ebr 2018 12:30大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2