Main content

Mattie Prichard

Ll欧r Gwyn Lewis yn sgwrsio 芒 phobl am Mattie Prichard, a wyddai sut i fwynhau bywyd. Llyr Gwyn Lewis learns more about Mattie Prichard and her enjoyment of the good things in life.

Dyma raglen sy'n debygol o fod yn dipyn o agoriad llygad i unrhyw un sy'n meddwl am Mattie Prichard fel Mrs Caradog Prichard a dim arall. Oedd, roedd yn briod 芒 llenor adnabyddus, ond fe dorrodd ei chwys ei hun a dod yn ffigwr amlwg ymysg Cymry Llundain.

Yn y rhaglen hon, mae Ll欧r Gwyn Lewis yn sgwrsio 芒 phobl a oedd yn nabod Mattie Prichard, gan gynnwys yr hanesydd J Elwyn Hughes. Mae'n s么n am gymeriad a hanner gyda phersonoliaeth gref.

Fel J Elwyn Hughes, mae'r actor John Ogwen hefyd yn hel atgofion am Mattie a Caradog Prichard yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn arbennig felly eu bod yn ymddwyn yn wahanol iawn i'w gilydd yno.

Daeth Sioned Webb i gysylltiad 芒 hi fel myfyriwr yn Llundain. Roedd hi'n gwneud ymchwil ar y cerddor Meirion Williams ar y pryd, a chyda chymorth Mattie Prichard - fel un a oedd yn byw ac yn bod ym mwrlwm Cymry Llundain - llwyddodd i gyfarfod 芒 phobl allweddol. Roedd hi hyd yn oed yn byw o dan yr un to am gyfnod, ac mae'n cofio bod yn ei hystafell wely'n gwrando ar bart茂on gwyllt yn cael eu cynnal yno.

Mynd ar 么l yr hawliau i wneud ffilm o Un Nos Ola Leuad oedd rheswm y cynhyrchydd teledu Pauline Williams dros gwrdd 芒 Mattie Prichard, ac mae'n dweud wrth Ll欧r ei bod yn falch fod rhywun eisiau addasu nofel ei diweddar wr.

Er bod y darlun cyffredinol yn un o rywun a oedd yn gyfforddus iawn ei byd, mae J Elwyn Hughes yn pwysleisio fod y darlun hwnnw fymryn yn gamarweiniol. Ac er gwaetha'r straeon am y gwahaniaethau rhwng y p芒r priod, mae John Ogwen yn amau a fyddai Caradog Prichard wedi byw cyhyd oni bai fod ei wraig yn gofalu amdano.

Caredig, annwyl, cyfeillgar, ac unigryw ar ryw ystyr - dim ond rhai o'r geiriau mae Ll欧r yn eu clywed wrth sgwrsio am Mattie Prichard.

Ar gael nawr

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 29 Rhag 2016 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Gweld holl benodau Dwyn i Gof

Darllediadau

  • Gwen 18 Tach 2016 12:30
  • Iau 29 Rhag 2016 18:00