Sul y Cofio a Donald Trump
John Roberts a'i westeion yn trafod Sul y Cofio ac ymateb Cristnogion i fuddugoliaeth Donald Trump. John Roberts and guests discuss Remembrance Sunday and Donald Trump's victory.
Wrth i bobl gofio'r rhai a gafodd eu lladd yn y ddau ryfel byd, yn ogystal 芒 rhyfeloedd eraill wedi hynny, mae John Roberts yn clywed beth fydd Basil Smoth ac Eirlys Bebb yn ei gofio'n ystod y ddwy funud o dawelwch. Mae John hefyd yn sgwrsio gyda Marcus Robinson am Sul y Cofio.
Yn dilyn ethol Donald Trump yn arlywydd America, mae Marcus a Gethin Rhys yn s么n am ymateb Cristnogion i'r bleidlais. Sut mae dangos goddefgarwch wrth i bobl ymateb mor chwyrn?
Mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi cyhoeddi adroddiad sy'n dweud bod bron i chwarter pobl Cymru'n byw mewn tlodi. Brian Thirsk sy'n trafod canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.
Sgwrs hefyd gyda'r Prifardd Ifor ap Glyn wrth i un o'i gerddi gael ei thaflunio ar Big Ben fel rhan o'r Big Ben War Poetry Projection.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 13 Tach 2016 08:00大象传媒 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.