Ffoaduriaid Libanus ac Eglwys Iach
John Roberts yn trafod ffoaduriaid o Syria yn Libanus, a sut i greu a chynnal eglwys iach. John Roberts asks what life is like for Syrian refugees in Lebanon.
Wrth i'r ymladd barhau yn Syria, mae John Roberts yn cael cwmni'r newyddiadurwr Tomos Morgan sy'n gweithio yn Libanus. Sut fywyd sydd i'r rhai sy'n ffoi dros y ffin?
Mae pedwar o gardinaliaid Catholig wedi ysgrifennu at y Pab yn gofyn am eglurdeb am rai o'i bwyntiau yn y ddogfen Amoris Laetitia, ac wedi cysylltu 芒'r wasg i leisio'u cwyn gan nad oes unrhyw ymateb wedi dod. Anne Uruska sy'n trafod i ba raddau mae hyn yn herio neu yn tanseilio awdurdod y Pab Bened.
Mae Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru wedi mynegi pryderon am d么n y drafodaeth gyhoeddus am adael yr Undeb Ewropeaidd. Peter Dewi Richards sy'n esbonio beth ydyn nhw.
Mae John hefyd yn clywed hanes Dafydd Job yn Moldova, sydd yno er mwyn dosbarthu llyfrau Cristnogol i weinidogion.
A Catrin Roberts sy'n s么n am y Llawlyfr Creu a Chynnal Eglwys Iach. Pam ei gyfieithu, a pha wersi mae hi wedi eu cymryd o'r gyfrol?
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Sul 20 Tach 2016 08:00大象传媒 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.