Darlun
John Hardy sy'n creu sawl darlun wrth gyflwyno pytiau o'r archif, gan gynnwys y Prifardd Eluned Phillips yn cwrdd 芒 Pablo Picasso yn Ffrainc. A visit to the Radio Cymru archive.
Mae nifer o ddarluniau'n cael eu creu ar yr ymweliad hwn 芒'r archif wrth i John Hardy gyflwyno pytiau'n cynnwys Betty Hughes o Lanaelhaearn yn adrodd hanes gweld darlun gan Robert Hughes ar fin y ffordd wrth deithio adref o noson Merched y Wawr yn Llanystumdwy.
Mae'r cyn-chwaraewr rygbi Terry Davies yn siarad am y portread ohono gan un o artistiaid cyfoethoca'r byd ar un adeg, sef Andrew Vicari o Bort Talbot, a Vivian Parry Williams yn s么n am symud darluniau o'r Oriel Genedlaethol yn Llundain i Chwarel Bwlch Slaters yn Llan Ffestiniog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Hefyd, T Gwyn Williams yn trafod gwaith Augustus John, a'r Prifardd Eluned Phillips yn rhannu'r profiad o gwrdd 芒 Pablo Picasso yn Ffrainc.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 20 Tach 2016 13:00大象传媒 Radio Cymru
- Mer 23 Tach 2016 18:00大象传媒 Radio Cymru