Main content

Bedwyr Lewis Jones

Ll欧r Gwyn Lewis yn sgwrsio 芒 phobl am yr ysgolhaig tra hoff, Bedwyr Lewis Jones. Ll欧r Gwyn Lewis learns about much-loved scholar Bedwyr Lewis Jones.

Fel nifer o bobl sydd wedi astudio'r Gymraeg fel pwnc academaidd, mae Ll欧r Gwyn Lewis yn gyfarwydd 芒 gwaith yr Athro Bedwyr Lewis Jones. Ond beth am y person? Yn y rhaglen hon, mae'n neidio at y cyfle i sgwrsio 芒 rhai a oedd yn nabod yr ysgolhaig tra hoff hwn.

Mae ei frawd, Geraint Percy Jones, yn hel atgofion am blentyndod bendigedig yng nghmwni creadur caredig iawn. Er ei fod yn medru gwylltio'n sydyn am bethau hollol ddibwys, doedd Bed fel mae'n ei alw ddim yn un i ddal dig. Ac er ei fod yn dynnwr coes, doedd o ddim yn bychanu pobl.

Mae ei blentyn hynaf, Nia, yn s么n am d欧 prysur yn llawn ymwelwyr. Mae'n pwysleisio, serch hynny, ei fod wrth ei fodd yng nghwmni ei deulu hefyd, ac yn neilltuo peth o'i amser i fwynhau gwylio chwaraeon. Yn wir, mae hi'n amau mai cefnogi Lerpwl a Chymru oedd yn gyfrifol am hoffter ei thad o wisgo siwmperi a chrysau coch.

Trwy gyfrwng p锚l-droed y daeth y Parchedig R Alun Evans i gysylltiad ag o am y tro cyntaf, a datblygodd eu cyfeillgarwch i fod yn bartneriaeth waith. Mae'n cofio blynyddoedd hapus iawn o gydweithio ar y rhaglen radio Yn Ei Elfen, a hynny gyda chyfathrebwr di-ail.

Cyfaill agos a chyd-ddarlithydd iddo ym Mangor oedd Dr Alwyn Roberts, ac mae yntau'n s么n am yr holl waith paratoi hynod ofalus gan Bedwyr Lewis Jones. Mae hefyd yn cofio cyfnod tywyll ac anodd ym mywyd ei ffrind, sef cyfnod o wrthdaro yngl欧n 芒'r iaith. Fe deimlodd bryd hynny iddo gael ei ddal yn y canol, ac iddo gael ei frifo gan rai myfyrwyr.

Rhwng popeth, cawn ddarlun o ysgolhaig a oedd hefyd yn ddyn addfwyn a ffyddlon, a'i deulu yr un mor bwysig iddo 芒'i waith.

Ar gael nawr

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 26 Ebr 2018 12:30

Darllediadau

  • Gwen 2 Rhag 2016 12:30
  • Llun 2 Ion 2017 18:00
  • Iau 26 Ebr 2018 12:30